2 Cronicl 34:22-33
Beibl William Morgan
22 Yna yr aeth Hilceia, a’r rhai a yrrodd y brenin, at Hulda y broffwydes, gwraig Salum mab Ticfath, fab Hasra, ceidwad y gwisgoedd; (a hi oedd yn aros yn Jerwsalem yn yr ysgoldy;) ac a ymddiddanasant â hi felly.
23 A hi a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel, Dywedwch i’r gŵr a’ch anfonodd chwi ataf fi, 24 Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, Wele fi yn dwyn drwg ar y lle hwn, ac ar ei drigolion, sef yr holl felltithion sydd ysgrifenedig yn y llyfr a ddarllenasant hwy gerbron brenin Jwda: 25 Am iddynt fy ngwrthod i, ac arogldarthu i dduwiau dieithr, i’m digio i â holl waith eu dwylo; am hynny yr ymdywallt fy llid i ar y lle hwn, ac nis diffoddir ef. 26 Ond am frenin Jwda, yr hwn a’ch anfonodd chwi i ymofyn â’r Arglwydd, fel hyn y dywedwch wrtho, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel am y geiriau a glywaist; 27 Oblegid i’th galon feddalhau, ac i tithau ymostwng o flaen Duw, pan glywaist ei eiriau ef yn erbyn y fan hon ac yn erbyn ei thrigolion, ac ymostwng ohonot ger fy mron, a rhwygo dy ddillad, ac wylo o’m blaen i; am hynny y gwrandewais innau, medd yr Arglwydd. 28 Wele, mi a’th gymeraf di ymaith at dy dadau, a thi a ddygir ymaith i’r bedd mewn heddwch, fel na welo dy lygaid di yr holl ddrwg yr ydwyf fi yn ei ddwyn ar y fan hon, ac yn erbyn ei phreswylwyr. Felly hwy a ddygasant air i’r brenin drachefn.
29 Yna y brenin a anfonodd, ac a gynullodd holl henuriaid Jwda a Jerwsalem. 30 A’r brenin a aeth i fyny i dŷ yr Arglwydd, a holl wŷr Jwda, a thrigolion Jerwsalem, yr offeiriaid hefyd a’r Lefiaid, a’r holl bobl o fawr i fychan; ac efe a ddarllenodd, lle y clywsant hwy, holl eiriau llyfr y cyfamod, yr hwn a gawsid yn nhŷ yr Arglwydd. 31 A’r brenin a safodd yn ei le, ac a wnaeth gyfamod gerbron yr Arglwydd, ar rodio ar ôl yr Arglwydd, ac ar gadw ei orchmynion ef, a’i dystiolaethau, a’i ddefodau, â’i holl galon, ac â’i holl enaid; i gwblhau geiriau y cyfamod y rhai sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwnnw. 32 Ac efe a wnaeth i bawb a’r a gafwyd yn Jerwsalem, ac yn Benjamin, sefyll wrth yr amod: trigolion Jerwsalem hefyd a wnaethant yn ôl cyfamod Duw, sef Duw eu tadau. 33 Felly Joseia a dynnodd ymaith y ffieidd-dra i gyd o’r holl wledydd y rhai oedd eiddo meibion Israel, ac efe a wnaeth i bawb a’r a gafwyd yn Israel wasanaethu, sef gwasanaethu yr Arglwydd eu Duw. Ac yn ei holl ddyddiau ef ni throesant hwy oddi ar ôl Arglwydd Dduw eu tadau.
Read full chapterWilliam Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.