Add parallel Print Page Options

31 Ac wedi gorffen hyn i gyd, holl Israel y rhai oedd bresennol a aethant allan i ddinasoedd Jwda, ac a ddrylliasant y delwau, ac a dorasant y llwyni, ac a ddistrywiasant yr uchelfeydd a’r allorau allan o holl Jwda a Benjamin, yn Effraim hefyd a Manasse, nes eu llwyr ddifa. Yna holl feibion Israel a ddychwelasant bob un i’w feddiant, i’w dinasoedd.

A Heseceia a osododd ddosbarthiadau yr offeiriaid a’r Lefiaid, yn eu cylchoedd, pob un yn ôl ei weinidogaeth, yr offeiriaid a’r Lefiaid i’r poethoffrwm, ac i’r ebyrth hedd, i weini, ac i foliannu, ac i ganmol, ym mhyrth gwersylloedd yr Arglwydd. A rhan y brenin oedd o’i olud ei hun i’r poethoffrymau, sef i boethoffrymau y bore a’r hwyr, ac i boethoffrymau y Sabothau, a’r newyddloerau, a’r gwyliau arbennig, fel y mae yn ysgrifenedig yng nghyfraith yr Arglwydd. Efe a ddywedodd hefyd wrth y bobl, trigolion Jerwsalem, am roddi rhan i’r offeiriaid a’r Lefiaid, fel yr ymgryfhaent yng nghyfraith yr Arglwydd.

A phan gyhoeddwyd y gair hwn, meibion Israel a ddygasant yn aml, flaenffrwyth yr ŷd, y gwin, a’r olew, a’r mêl, ac o holl gnwd y maes, a’r degwm o bob peth a ddygasant hwy yn helaeth. A meibion Israel a Jwda, y rhai oedd yn trigo yn ninasoedd Jwda, hwythau a ddygasant ddegwm gwartheg a defaid, a degwm y pethau cysegredig a gysegrasid i’r Arglwydd eu Duw, ac a’u gosodasant bob yn bentwr. Yn y trydydd mis y dechreuasant hwy seilio’r pentyrrau, ac yn y seithfed mis y gorffenasant hwynt. A phan ddaeth Heseceia a’r tywysogion, a gweled y pentyrrau, hwy a fendithiasant yr Arglwydd, a’i bobl Israel. A Heseceia a ymofynnodd â’r offeiriaid a’r Lefiaid oherwydd y pentyrrau. 10 Ac Asareia yr offeiriad pennaf o dŷ Sadoc, a ddywedodd wrtho, ac a lefarodd, Er pan ddechreuwyd dwyn offrymau i dŷ yr Arglwydd, bwytasom a digonwyd ni, gweddillasom hefyd lawer iawn: canys yr Arglwydd a fendithiodd ei bobl; a’r gweddill yw yr amldra hyn.

11 A Heseceia a ddywedodd am baratoi celloedd yn nhŷ yr Arglwydd; a hwy a’u paratoesant, 12 Ac a ddygasant i mewn y blaenffrwyth, a’r degwm, a’r pethau cysegredig, yn ffyddlon: a Chononeia y Lefiad oedd flaenor arnynt hwy, a Simei ei frawd ef yn ail. 13 Jehiel hefyd, ac Asaseia, a Nahath, ac Asahel, a Jerimoth, a Josabad, ac Eliel, ac Ismachia, a Mahath, a Benaia, oedd swyddogion dan law Cononeia a Simei ei frawd ef, trwy orchymyn Heseceia y brenin, ac Asareia blaenor tŷ Dduw. 14 A Chore mab Imna y Lefiad, y porthor tua’r dwyrain, oedd ar y pethau a offrymid yn ewyllysgar i Dduw, i rannu offrymau yr Arglwydd, a’r pethau sancteiddiolaf. 15 Ac wrth ei law ef yr oedd Eden, a Miniamin, a Jesua, a Semaia, Amareia, a Sechaneia, yn ninasoedd yr offeiriaid, yn eu swydd, i roddi i’w brodyr yn ôl eu rhan, i fawr ac i fychan: 16 Heblaw y gwrywiaid o’u cenedl hwynt, o fab tair blwydd ac uchod, i bawb a’r oedd yn dyfod i dŷ yr Arglwydd, ddogn dydd yn ei ddydd, yn eu gwasanaeth hwynt, o fewn eu goruchwyliaethau, yn ôl eu dosbarthiadau; 17 I genedl yr offeiriaid wrth dŷ eu tadau, ac i’r Lefiaid o fab ugain mlwydd ac uchod, yn ôl eu goruchwyliaethau, yn eu dosbarthiadau; 18 Ac i genedl eu holl blant hwy, eu gwragedd, a’u meibion, a’u merched, trwy’r holl gynulleidfa: oblegid trwy eu ffyddlondeb y trinent hwy yn sanctaidd yr hyn oedd sanctaidd: 19 Ac i feibion Aaron, yr offeiriaid, y rhai oedd ym meysydd pentrefol eu dinasoedd, ym mhob dinas, y gwŷr a enwasid wrth eu henwau, i roddi rhannau i bob gwryw ymysg yr offeiriaid, ac i’r holl rai a gyfrifwyd wrth achau ymhlith y Lefiaid.

20 Ac fel hyn y gwnaeth Heseceia trwy holl Jwda, ac efe a wnaeth yr hyn oedd dda ac uniawn, a’r gwirionedd, gerbron yr Arglwydd ei Dduw. 21 Ac ym mhob gwaith a ddechreuodd efe yng ngweinidogaeth tŷ Dduw, ac yn y gyfraith, ac yn y gorchymyn i geisio ei Dduw, efe a’i gwnaeth â’i holl galon, ac a ffynnodd.