Add parallel Print Page Options

19 A Jehosaffat brenin Jwda a ddychwelodd i’w dŷ ei hun i Jerwsalem mewn heddwch. A Jehu mab Hanani y gweledydd, a aeth o’i flaen ef, ac a ddywedodd wrth y brenin Jehosaffat, Ai cynorthwyo yr annuwiol, a charu y rhai oedd yn casáu yr Arglwydd, a wneit ti? am hyn digofaint oddi wrth yr Arglwydd sydd arnat ti. Er hynny pethau da a gafwyd ynot ti; canys ti a dynnaist ymaith y llwyni o’r wlad, ac a baratoaist dy galon i geisio Duw. A Jehosaffat a drigodd yn Jerwsalem: ac efe a aeth drachefn trwy’r bobl o Beerseba hyd fynydd Effraim, ac a’u dug hwynt eilwaith at Arglwydd Dduw eu tadau.

Ac efe a osododd farnwyr yn y wlad, trwy holl ddinasoedd caerog Jwda, o ddinas bwygilydd; Ac efe a ddywedodd wrth y barnwyr, Edrychwch beth a wneloch: canys nid dros ddyn yr ydych yn barnu, ond dros yr Arglwydd; ac efe a fydd gyda chwi wrth roddi barn. Yn awr gan hynny bydded ofn yr Arglwydd arnoch chwi; gwyliwch a gwnewch hynny: oherwydd nid oes anwiredd gyda’r Arglwydd ein Duw, na derbyn wyneb, na chymryd gwobr.

A Jehosaffat a osododd hefyd yn Jerwsalem rai o’r Lefiaid, ac o’r offeiriaid, ac o bennau tadau Israel, i drin barnedigaethau yr Arglwydd, ac amrafaelion, pan ddychwelent i Jerwsalem. Ac efe a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnewch mewn ofn yr Arglwydd, mewn ffyddlondeb, ac â chalon berffaith. 10 A pha amrafael bynnag a ddêl atoch chwi oddi wrth eich brodyr, y rhai sydd yn trigo yn eu dinasoedd, rhwng gwaed a gwaed, rhwng cyfraith a gorchymyn, deddfau a barnedigaethau, rhybuddiwch hwynt na throseddont yn erbyn yr Arglwydd, a bod digofaint arnoch chwi, ac ar eich brodyr: felly gwnewch ac na throseddwch. 11 Ac wele, Amareia yr archoffeiriad sydd arnoch chwi ym mhob peth a berthyn i’r Arglwydd; a Sebadeia mab Ismael, blaenor tŷ Jwda, ym mhob achos i’r brenin; a’r Lefiaid yn swyddogion ger eich bron chwi. Ymwrolwch, a gwnewch hynny, a’r Arglwydd fydd gyda’r daionus.