2 Timotheus 2
Beibl William Morgan
2 Tydi gan hynny, fy mab, ymnertha yn y gras sydd yng Nghrist Iesu. 2 A’r pethau a glywaist gennyf trwy lawer o dystion, traddoda’r rhai hynny i ddynion ffyddlon, y rhai a fyddant gymwys i ddysgu eraill hefyd. 3 Tydi gan hynny goddef gystudd, megis milwr da i Iesu Grist. 4 Nid yw neb a’r sydd yn milwrio, yn ymrwystro â negeseuau’r bywyd hwn; fel y rhyngo fodd i’r hwn a’i dewisodd yn filwr. 5 Ac od ymdrech neb hefyd, ni choronir ef, onid ymdrech yn gyfreithlon. 6 Y llafurwr sydd yn llafurio, sydd raid iddo yn gyntaf dderbyn y ffrwythau. 7 Ystyria’r hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd; a’r Arglwydd a roddo i ti ddeall ym mhob peth. 8 Cofia gyfodi Iesu Grist o had Dafydd, o feirw, yn ôl fy efengyl i: 9 Yn yr hon yr ydwyf yn goddef cystudd hyd rwymau, fel drwgweithredwr; eithr gair Duw nis rhwymir. 10 Am hynny yr ydwyf yn goddef pob peth er mwyn yr etholedigion, fel y gallont hwythau gael yr iachawdwriaeth sydd yng Nghrist Iesu, gyda gogoniant tragwyddol. 11 Gwir yw’r gair: Canys os buom feirw gydag ef, byw fyddwn hefyd gydag ef: 12 Os dioddefwn, ni a deyrnaswn gydag ef: os gwadwn ef, yntau hefyd a’n gwad ninnau: 13 Os ŷm ni heb gredu, eto y mae efe yn aros yn ffyddlon: nis gall efe ei wadu ei hun. 14 Dwg y pethau hyn ar gof, gan orchymyn gerbron yr Arglwydd, na byddo iddynt ymryson ynghylch geiriau, yr hyn nid yw fuddiol i ddim, ond i ddadymchwelyd y gwrandawyr. 15 Bydd ddyfal i’th osod dy hun yn brofedig gan Dduw, yn weithiwr di-fefl, yn iawn gyfrannu gair y gwirionedd. 16 Ond halogedig ofer-sain, gochel, canys cynyddu a wnânt i fwy o annuwioldeb. 17 A’u hymadrodd hwy a ysa fel cancr: ac o’r cyfryw rai y mae Hymeneus a Philetus; 18 Y rhai o ran y gwirionedd a gyfeiliornasant, gan ddywedyd ddarfod yr atgyfodiad eisoes; ac y maent yn dadymchwelyd ffydd rhai. 19 Eithr y mae cadarn sail Duw yn sefyll, a chanddo’r sêl hon: Yr Arglwydd a edwyn y rhai sydd eiddo ef: a, Pob un sydd yn enwi enw Crist, ymadawed oddi wrth anghyfiawnder. 20 Eithr mewn tŷ mawr nid oes yn unig lestri o aur ac o arian, ond hefyd o bren ac o bridd; a rhai i barch, a rhai i amarch. 21 Pwy bynnag gan hynny a’i glanhao ei hun oddi wrth y pethau hyn, efe a fydd yn llestr i barch, wedi ei sancteiddio, ac yn gymwys i’r Arglwydd, wedi ei ddarparu i bob gweithred dda. 22 Ond chwantau ieuenctid, ffo oddi wrthynt: a dilyn gyfiawnder, ffydd, cariad, tangnefedd, gyda’r rhai sydd yn galw ar yr Arglwydd o galon bur. 23 Eithr gochel ynfyd ac annysgedig gwestiynau, gan wybod eu bod yn magu ymrysonau. 24 Ac ni ddylai gwas yr Arglwydd ymryson: ond bod yn dirion wrth bawb, yn athrawus, yn ddioddefgar, 25 Mewn addfwynder yn dysgu’r rhai gwrthwynebus; i edrych a roddo Duw iddynt hwy ryw amser edifeirwch i gydnabod y gwirionedd; 26 A bod iddynt ddyfod i’r iawn allan o fagl diafol, y rhai a ddelid ganddo wrth ei ewyllys ef.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.