Add parallel Print Page Options

19 Amynegwyd i Joab, Wele y brenin yn wylo, ac yn galaru am Absalom. A’r fuddugoliaeth a aeth y dwthwn hwnnw yn alar i’r holl bobl: canys clywodd y bobl y diwrnod hwnnw ddywedyd, dristáu o’r brenin am ei fab. A’r bobl a aethant yn lladradaidd y diwrnod hwnnw i mewn i’r ddinas, fel pobl a fyddai yn myned yn lladradaidd wedi eu cywilyddio wrth ffoi o ryfel. Ond y brenin a orchuddiodd ei wyneb; a’r brenin a waeddodd â llef uchel, O fy mab Absalom, Absalom, fy mab, fy mab! A Joab a ddaeth i mewn i’r tŷ at y brenin, ac a ddywedodd, Gwaradwyddaist heddiw wynebau dy holl weision, y rhai a amddiffynasant dy einioes di heddiw, ac einioes dy feibion a’th ferched, ac einioes dy wragedd, ac einioes dy ordderchwragedd; Gan garu dy gaseion, a chasáu dy garedigion: canys dangosaist heddiw nad oedd ddim gennyt dy dywysogion, na’th weision: oherwydd mi a wn heddiw, pe Absalom fuasai byw, a ninnau i gyd yn feirw heddiw, mai da fuasai hynny yn dy olwg di. Cyfod yn awr gan hynny, cerdda allan, a dywed yn deg wrth dy weision: canys yr wyf fi yn tyngu i’r Arglwydd, os ti nid ei allan, nad erys neb gyda thi y nos hon; a gwaeth fydd hyn i ti na’r holl ddrwg a ddaeth i’th erbyn di o’th febyd hyd yr awr hon. Yna y brenin a gyfododd, ac a eisteddodd yn y porth. A mynegwyd i’r holl bobl, gan ddywedyd, Wele y brenin yn eistedd yn y porth. A’r holl bobl a ddaethant o flaen y brenin: canys Israel a ffoesai bob un i’w babell.

Ac yr oedd yr holl bobl yn ymryson trwy holl lwythau Israel, gan ddywedyd, Y brenin a’n gwaredodd ni o law ein gelynion, ac efe a’n gwaredodd ni o law y Philistiaid; ac yn awr efe a ffodd o’r wlad rhag Absalom. 10 Ac Absalom, yr hwn a eneiniasom ni arnom, a fu farw mewn rhyfel: ac yn awr paham yr ydych heb sôn am gyrchu y brenin drachefn?

11 A’r brenin Dafydd a anfonodd at Sadoc ac at Abiathar yr offeiriaid, gan ddywedyd, Lleferwch wrth henuriaid Jwda, gan ddywedyd, Paham yr ydych chwi olaf i ddwyn y brenin yn ei ôl i’w dŷ? canys gair holl Israel a ddaeth at y brenin, hyd ei dŷ. 12 Fy mrodyr ydych chwi; fy asgwrn a’m cnawd ydych chwi: paham gan hynny yr ydych yn olaf i ddwyn y brenin adref? 13 Dywedwch hefyd wrth Amasa, Onid fy asgwrn i a’m cnawd wyt ti? Fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego, onid tywysog y llu fyddi di ger fy mron i yn lle Joab byth. 14 Ac efe a drodd galon holl wŷr Jwda, fel calon un gŵr: a hwy a anfonasant at y brenin, gan ddywedyd, Dychwel di a’th holl weision. 15 Felly y brenin a ddychwelodd, ac a ddaeth i’r Iorddonen. A Jwda a ddaeth i Gilgal, i fyned i gyfarfod â’r brenin, i ddwyn y brenin dros yr Iorddonen.

16 A Simei mab Gera, mab Jemini, yr hwn oedd o Bahurim, a frysiodd, ac a ddaeth i waered gyda gwŷr Jwda, i gyfarfod â’r brenin Dafydd. 17 A mil o wŷr o Benjamin oedd gydag ef; Siba hefyd gwas tŷ Saul, a’i bymtheng mab a’i ugain gwas gydag ef: a hwy a aethant dros yr Iorddonen o flaen y brenin. 18 Ac ysgraff a aeth drosodd i ddwyn trwodd dylwyth y brenin, ac i wneuthur yr hyn fyddai da yn ei olwg ef. A Simei mab Gera a syrthiodd gerbron y brenin, pan ddaeth efe dros yr Iorddonen; 19 Ac a ddywedodd wrth y brenin, Na ddanoded fy arglwydd i mi anwiredd, ac na chofia yr hyn a wnaeth dy was yn anwir y dydd yr aeth fy arglwydd frenin o Jerwsalem, i osod o’r brenin hynny at ei galon. 20 Canys dy was sydd yn cydnabod bechu ohonof fi: ac wele, deuthum heddiw yn gyntaf o holl dŷ Joseff, i ddyfod i waered i gyfarfod â’m harglwydd frenin. 21 Ac Abisai mab Serfia a atebodd, ac a ddywedodd, Ai oherwydd hyn ni roddir Simei i farwolaeth, am iddo felltithio eneiniog yr Arglwydd? 22 A dywedodd Dafydd, Beth sydd i mi a wnelwyf â chwi, meibion Serfia, fel y byddech i mi yn wrthwynebwyr heddiw? a roddir i farwolaeth heddiw neb yn Israel? canys oni wn i, mai heddiw yr ydwyf fi yn frenin ar Israel? 23 A’r brenin a ddywedodd wrth Simei, Ni byddi di farw: a’r brenin a dyngodd wrtho ef.

24 Meffiboseth mab Saul hefyd a ddaeth i waered i gyfarfod â’r brenin; ac ni olchasai efe ei draed, ac ni thorasai ei farf, ac ni olchasai ei ddillad, er y dydd yr aethai’r brenin hyd y dydd y daeth efe drachefn mewn heddwch. 25 A phan ddaeth efe i Jerwsalem i gyfarfod â’r brenin, yna y dywedodd y brenin wrtho ef, Paham nad aethost ti gyda mi, Meffiboseth? 26 Ac efe a ddywedodd, Fy arglwydd frenin, fy ngwas a’m twyllodd i: canys dywedodd dy was, Cyfrwyaf i mi asyn, fel y marchogwyf arno, ac yr elwyf at y brenin; oherwydd cloff yw dy was. 27 Ac efe a enllibiodd dy was wrth fy arglwydd frenin; ond fy arglwydd frenin sydd fel angel Duw: am hynny gwna yr hyn fyddo da yn dy olwg. 28 Canys nid oedd holl dŷ fy nhad i ond dynion meirw gerbron fy arglwydd y brenin; eto tydi a osodaist dy was ymhlith y rhai oedd yn bwyta ar dy fwrdd dy hun: pa gyfiawnder gan hynny sydd i mi bellach i weiddi mwy ar y brenin? 29 A’r brenin a ddywedodd wrtho, I ba beth yr adroddi dy faterion ymhellach? dywedais, Ti a Siba rhennwch y tir. 30 A Meffiboseth a ddywedodd wrth y brenin, Ie, cymered efe y cwbl, gan ddyfod fy arglwydd frenin i’w dŷ mewn heddwch.

31 A Barsilai y Gileadiad a ddaeth i waered o Rogelim, ac a aeth dros yr Iorddonen gyda’r brenin, i’w hebrwng ef dros yr Iorddonen. 32 A Barsilai oedd hen iawn, yn fab pedwar ugain mlwydd: efe oedd yn darparu lluniaeth i’r brenin tra yr ydoedd efe ym Mahanaim; canys gŵr mawr iawn oedd efe. 33 A’r brenin a ddywedodd wrth Barsilai, Tyred drosodd gyda mi, a mi a’th borthaf di gyda mi yn Jerwsalem. 34 A Barsilai a ddywedodd wrth y brenin, Pa faint yw dyddiau blynyddoedd fy einioes i, fel yr elwn i fyny gyda’r brenin i Jerwsalem? 35 Mab pedwar ugain mlwydd ydwyf fi heddiw: a wn i ragoriaeth rhwng da a drwg? a ddichon dy was di archwaethu yr hyn a fwytâf, neu yr hyn a yfaf? a glywaf fi bellach lais cerddorion a cherddoresau? paham gan hynny y bydd dy was mwyach yn faich ar fy arglwydd frenin? 36 Dy was a â ychydig tu hwnt i’r Iorddonen gyda’r brenin: a phaham y talai y brenin i mi gyfryw daledigaeth? 37 Gad, atolwg, i’th was ddychwelyd yn fy ôl, fel y byddwyf marw yn fy ninas fy hun, ac fel y’m cladder ym meddrod fy nhad a’m mam: ac wele, Chimham dy was, efe a â drosodd gyda’m harglwydd frenin, a gwna iddo yr hyn fyddo da yn dy olwg. 38 A dywedodd y brenin, Chimham a â gyda mi, a mi a wnaf iddo ef yr hyn fyddo da yn dy olwg di: a pheth bynnag a erfyniech di arnaf fi, mi a’i gwnaf erot. 39 A’r holl bobl a aethant dros yr Iorddonen. Y brenin hefyd a aeth drosodd: a’r brenin a gusanodd Barsilai, ac a’i bendithiodd ef; ac efe a ddychwelodd i’w fangre ei hun. 40 Yna y brenin a aeth i Gilgal, a Chimham a aeth gydag ef. A holl bobl Jwda a hebryngasant y brenin, a hanner pobl Israel hefyd.

41 Ac wele, holl wŷr Israel a ddaethant at y brenin, ac a ddywedasant wrth y brenin, Paham y lladrataodd ein brodyr ni, gwŷr Jwda, dydi, ac y dygasant y brenin a’i dylwyth dros yr Iorddonen, a holl wŷr Dafydd gydag ef? 42 Ac atebodd holl wŷr Jwda i wŷr Israel, Oblegid câr agos yw y brenin i ni: paham gan hynny y digiasoch chwi am y peth hyn? a fwytasom ni ddim ar draul y brenin? neu a anrhegodd efe ni ag anrheg? 43 A gwŷr Israel a atebasant wŷr Jwda, ac a ddywedasant, Deg rhan sydd i ni yn y brenin; hefyd y mae i ni yn Dafydd fwy nag i chwi: paham gan hynny y diystyraist fi? onid myfi a ddywedais yn gyntaf am gyrchu adref fy mrenin? Ac ymadrodd gwŷr Jwda oedd galetach nag ymadrodd gwŷr Israel.