
2 Cronicl 8 Beibl William Morgan (BWM)8 Ac ymhen yr ugain mlynedd, yn y rhai yr adeiladodd Solomon dŷ yr Arglwydd, a’i dŷ ei hun, 2 Solomon a adeiladodd y dinasoedd a roddasai Hiram i Solomon, ac a wnaeth i feibion Israel drigo yno. 3 A Solomon a aeth i Hamath-soba, ac a’i gorchfygodd hi. 4 Ac efe a adeiladodd Tadmor yn yr anialwch, a holl ddinasoedd y trysorau, y rhai a adeiladodd efe yn Hamath. 5 Efe hefyd a adeiladodd Beth-horon uchaf, a Beth-horon isaf, dinasoedd wedi eu cadarnhau â muriau, pyrth, a barrau; 6 Baalath hefyd, a holl ddinasoedd y trysorau oedd gan Solomon, a holl ddinasoedd y cerbydau, a dinasoedd y marchogion, a’r hyn oll oedd ewyllys gan Solomon ei adeiladu yn Jerwsalem, ac yn Libanus, ac yn holl dir ei arglwyddiaeth ef. 7 Yr holl bobl y rhai a adawyd o’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Pheresiaid, a’r Hefiaid, a’r Jebusiaid, y rhai nid oeddynt o Israel; 8 Ond o’u meibion hwynt, y rhai a drigasant ar eu hôl hwynt yn y wlad, y rhai ni ddifethasai meibion Israel, Solomon a’u gwnaeth hwynt yn drethol hyd y dydd hwn. 9 Ond o feibion Israel ni roddodd Solomon neb yn weision yn ei waith: canys hwynt-hwy oeddynt ryfelwyr, a thywysogion ei gapteiniaid ef, a thywysogion ei gerbydau a’i wŷr meirch ef. 10 A dyma y rhai pennaf o swyddogion y brenin Solomon, sef dau cant a deg a deugain, yn arglwyddiaethu ar y bobl. 11 A Solomon a ddug ferch Pharo i fyny o ddinas Dafydd i’r tŷ a adeiladasai efe iddi hi: canys efe a ddywedodd, Ni thrig fy ngwraig i yn nhŷ Dafydd brenin Israel, oherwydd sanctaidd yw, oblegid i arch yr Arglwydd ddyfod i mewn iddo. 12 Yna Solomon a offrymodd boethoffrymau i’r Arglwydd ar allor yr Arglwydd, yr hon a adeiladasai efe o flaen y porth; 13 I boethoffrymu dogn dydd yn ei ddydd, yn ôl gorchymyn Moses, ar y Sabothau, ac ar y newyddloerau, ac ar y gwyliau arbennig, dair gwaith yn y flwyddyn; sef ar ŵyl y bara croyw, ac ar ŵyl yr wythnosau, ac ar ŵyl y pebyll. 14 Ac efe a osododd, yn ôl trefn Dafydd ei dad, ddosbarthiadau yr offeiriaid yn eu gwasanaeth, a’r Lefiaid yn eu goruchwyliaeth, i foliannu ac i weini gerbron yr offeiriaid, fel yr oedd ddyledus bob dydd yn ei ddydd, a’r porthorion yn eu dosbarthiadau, wrth bob porth: canys felly yr oedd gorchymyn Dafydd gŵr Duw. 15 Ac ni throesant hwy oddi wrth orchymyn y brenin i’r offeiriaid a’r Lefiaid, am un peth, nac am y trysorau. 16 A holl waith Solomon oedd wedi ei baratoi hyd y dydd y seiliwyd tŷ yr Arglwydd, a hyd oni orffennwyd ef. Felly y gorffennwyd tŷ yr Arglwydd. 17 Yna yr aeth Solomon i Esion-gaber, ac i Eloth, ar fin y môr, yng ngwlad Edom. 18 A Hiram a anfonodd gyda’i weision longau, a gweision cyfarwydd ar y môr; a hwy a aethant gyda gweision Solomon i Offir, ac a gymerasant oddi yno bedwar cant a deg a deugain talent o aur, ac a’u dygasant i’r brenin Solomon.
Beibl William Morgan (BWM) William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992. |
Starting your free trial of Bible Gateway Plus is easy. You’re already logged in with your Bible Gateway account. The next step is to enter your payment information. Your credit card won’t be charged until the trial period is over. You can cancel anytime during the trial period.
Click the button below to continue.
You’ve already claimed your free trial of Bible Gateway Plus. To subscribe at our regular subscription rate of $3.99/month, click the button below.
It looks like you’re already subscribed to Bible Gateway Plus! To manage your subscription, visit your Bible Gateway account settings.
For the best Bible Gateway experience, upgrade to Bible Gateway Plus. For less than the cost of a latte each month, you'll gain access to a vast digital Bible study library and reduced banner ads to minimize distractions from God's Word. Try it free for 30 days!
Three easy steps to start your free trial subscription to Bible Gateway Plus.