Add parallel Print Page Options

Ac efe a wnaeth allor bres, o ugain cufydd ei hyd, ac ugain cufydd ei lled, a deg cufydd ei huchder.

Gwnaeth hefyd fôr tawdd, yn ddeg cufydd o ymyl i ymyl, yn grwn o amgylch, ac yn bum cufydd ei uchder, a llinyn o ddeg cufydd ar hugain a’i hamgylchai oddi amgylch. A llun ychen oedd dano yn ei amgylchu o amgylch, mewn deg cufydd yr oeddynt yn amgylchu y môr oddi amgylch: dwy res o ychen oedd wedi eu toddi, pan doddwyd yntau. Sefyll yr oedd ar ddeuddeg o ychen; tri yn edrych tua’r gogledd, a thri yn edrych tua’r gorllewin, a thri yn edrych tua’r deau, a thri yn edrych tua’r dwyrain: a’r môr arnynt oddi arnodd, a’u holl bennau ôl hwynt oedd o fewn. A’i dewder oedd ddyrnfedd, a’i ymyl fel gwaith ymyl cwpan, â blodau lili: a thair mil o bathau a dderbyniai, ac a ddaliai.

Gwnaeth hefyd ddeg o noeau, ac efe a roddodd bump o’r tu deau, a phump o’r tu aswy, i ymolchi ynddynt: trochent ynddynt ddefnydd y poethoffrwm; ond y môr oedd i’r offeiriaid i ymolchi ynddo. Ac efe a wnaeth ddeg canhwyllbren aur yn ôl eu portreiad, ac a’u gosododd yn y deml, pump o’r tu deau, a phump o’r tu aswy. Gwnaeth hefyd ddeg o fyrddau, ac a’u gosododd yn y deml, pump o’r tu deau, a phump o’r tu aswy: ac efe a wnaeth gant o gawgiau aur.

Ac efe a wnaeth gyntedd yr offeiriaid, a’r cyntedd mawr, a dorau i’r cynteddoedd; a’u dorau hwynt a wisgodd efe â phres. 10 Ac efe a osododd y môr ar yr ystlys ddeau, tua’r dwyrain, ar gyfer y deau. 11 Gwnaeth Hiram hefyd y crochanau, a’r rhawiau, a’r cawgiau: a darfu i Hiram wneuthur y gwaith a wnaeth efe dros frenin Solomon i dŷ Dduw: 12 Y ddwy golofn, a’r cnapiau, a’r coronau ar ben y ddwy golofn, a’r ddwy bleth i guddio y ddau gnap coronog, y rhai oedd ar ben y colofnau: 13 A phedwar cant o bomgranadau ar y ddwy bleth; dwy res oedd o bomgranadau ar bob pleth, i guddio y ddau gnap coronog oedd ar bennau y colofnau. 14 Ac efe a wnaeth ystolion, ac a wnaeth noeau ar yr ystolion; 15 Un môr, a deuddeg o ychen dano: 16 Y crochanau hefyd, a’r rhawiau, a’r cigweiniau, a’u holl lestri hwynt, a wnaeth Hiram ei dad i’r brenin Solomon, yn nhŷ yr Arglwydd, o bres gloyw. 17 Yng ngwastadedd yr Iorddonen y toddodd y brenin hwynt, mewn cleidir, rhwng Succoth a Seredatha. 18 Fel hyn y gwnaeth Solomon yr holl lestri hyn, yn lluosog iawn; canys anfeidrol oedd bwys y pres.

19 A Solomon a wnaeth yr holl lestri oedd yn nhŷ Dduw, a’r allor aur, a’r byrddau oedd â’r bara gosod arnynt, 20 A’r canwyllbrennau, a’u lampau, i oleuo yn ôl y ddefod o flaen y gafell, o aur pur; 21 Y blodau hefyd, a’r lampau, a’r gefeiliau, oedd aur, a hwnnw yn aur perffaith. 22 Y saltringau hefyd, a’r cawgiau, a’r llwyau, a’r thuserau, oedd aur pur: a drws y tŷ, a’i ddorau, o du mewn y cysegr sancteiddiolaf, a dorau tŷ y deml, oedd aur.