Add parallel Print Page Options

17 A Jehosaffat ei fab a deyrnasodd yn ei le ef, ac a ymgryfhaodd yn erbyn Israel. Ac efe a roddodd fyddinoedd ym mhob un o gaerog ddinasoedd Jwda, ac a roddes raglawiaid yng ngwlad Jwda, ac yn ninasoedd Effraim, y rhai a enillasai Asa ei dad ef. A’r Arglwydd a fu gyda Jehosaffat, oherwydd iddo rodio yn ffyrdd cyntaf Dafydd ei dad, ac nad ymofynnodd â Baalim: Eithr Duw ei dad a geisiodd efe, ac yn ei orchmynion ef y rhodiodd, ac nid yn ôl gweithredoedd Israel. Am hynny yr Arglwydd a sicrhaodd y frenhiniaeth yn ei law ef; a holl Jwda a roddasant anrhegion i Jehosaffat; ac yr ydoedd iddo olud ac anrhydedd yn helaeth. Ac efe a ddyrchafodd ei galon yn ffyrdd yr Arglwydd: ac efe a fwriodd hefyd yr uchelfeydd a’r llwyni allan o Jwda.

Hefyd yn y drydedd flwyddyn o’i deyrnasiad, efe a anfonodd at ei dywysogion, sef Benhail, ac Obadeia, a Sechareia, a Nethaneel, a Michaia, i ddysgu yn ninasoedd Jwda. A chyda hwynt yr anfonodd efe Lefiaid, Semaia, a Nethaneia, a Sebadeia, ac Asahel, a Semiramoth a Jehonathan, ac Adoneia, a Thobeia, a Thob Adoneia, y Lefiaid; a chyda hwynt Elisama, a Jehoram, yr offeiriaid. A hwy a ddysgasant yn Jwda, a chyda hwynt yr oedd llyfr cyfraith yr Arglwydd: felly yr amgylchasant hwy holl ddinasoedd Jwda, ac y dysgasant y bobl.

10 Ac arswyd yr Arglwydd oedd ar holl deyrnasoedd y gwledydd oedd o amgylch Jwda, fel nad ymladdasant hwy yn erbyn Jehosaffat. 11 A rhai o’r Philistiaid oedd yn dwyn i Jehosaffat anrhegion, a theyrnged o arian: yr Arabiaid hefyd oedd yn dwyn iddo ef ddiadelloedd, saith mil a saith gant o hyrddod, a saith mil a saith gant o fychod.

12 Felly Jehosaffat oedd yn myned rhagddo, ac yn cynyddu yn uchel; ac efe a adeiladodd yn Jwda balasau, a dinasoedd trysorau. 13 A llawer o waith oedd ganddo ef yn ninasoedd Jwda; a rhyfelwyr cedyrn nerthol yn Jerwsalem. 14 A dyma eu rhifedi hwynt, yn ôl tŷ eu tadau: O Jwda yn dywysogion miloedd, yr oedd Adna y pennaf, a chydag ef dri chan mil o wŷr cedyrn nerthol. 15 A cher ei law ef, Jehohanan y tywysog, a chydag ef ddau cant a phedwar ugain mil. 16 A cherllaw iddo ef, Amaseia mab Sichri, yr hwn o’i wirfodd a ymroddodd i’r Arglwydd; a chydag ef ddau can mil o wŷr cedyrn nerthol. 17 Ac o Benjamin, yr oedd Eliada yn ŵr cadarn nerthol, a chydag ef ddau can mil yn arfogion â bwâu a tharianau. 18 A cherllaw iddo ef, Jehosabad, a chydag ef gant a phedwar ugain mil yn barod i ryfel. 19 Y rhai hyn oedd yn gwasanaethu y brenin, heblaw y rhai a roddasai y brenin yn y dinasoedd caerog, trwy holl Jwda.