Add parallel Print Page Options

12 Ac wedi i Rehoboam sicrhau y frenhiniaeth, a’i chadarnhau, efe a wrthododd gyfraith yr Arglwydd, a holl Israel gydag ef. Ac yn y bumed flwyddyn i’r brenin Rehoboam, y daeth Sisac brenin yr Aifft i fyny yn erbyn Jerwsalem, oherwydd iddynt wrthryfela yn erbyn yr Arglwydd, A mil a dau cant o gerbydau, a thrigeinmil o wŷr meirch; ac nid oedd nifer ar y bobl a ddaeth gydag ef o’r Aifft, sef y Lubiaid, y Succiaid, a’r Ethiopiaid. Ac efe a enillodd y dinasoedd cedyrn, y rhai oedd yn Jwda, ac a ddaeth hyd Jerwsalem.

Yna Semaia y proffwyd a ddaeth at Rehoboam a thywysogion Jwda, y rhai oedd wedi ymgasglu yn Jerwsalem rhag ofn Sisac, ac a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Chwi a’m gwrthodasoch i, am hynny myfi a’ch gadewais chwi yn llaw Sisac. Yna tywysogion Israel a’r brenin a ymostyngasant ac a ddywedasant, Cyfiawn yw yr Arglwydd. A phan welodd yr Arglwydd iddynt hwy ymostwng, daeth gair yr Arglwydd at Semaia, gan ddywedyd, Hwy a ymostyngasant; am hynny ni ddifethaf hwynt, ond rhoddaf iddynt ymwared ar fyrder; ac ni thywelltir fy llid yn erbyn Jerwsalem trwy law Sisac. Eto byddant yn weision iddo ef, fel yr adnabyddont fy ngwasanaeth i, a gwasanaeth teyrnasoedd y gwledydd. Yna Sisac brenin yr Aifft a ddaeth i fyny yn erbyn Jerwsalem, ac a gymerth drysorau tŷ yr Arglwydd, a thrysorau tŷ y brenin, ac a’u dug hwynt ymaith oll: dug ymaith hefyd y tarianau aur a wnaethai Solomon. 10 A’r brenin Rehoboam a wnaeth yn eu lle hwynt darianau pres, ac a’u rhoddodd hwynt i gadw dan law tywysogion gwŷr y gard, y rhai oedd yn cadw drws tŷ y brenin. 11 A phan elai y brenin i dŷ yr Arglwydd, gwŷr y gard a ddeuent ac a’u cyrchent hwy, ac a’u dygent drachefn i ystafell gwŷr y gard. 12 A phan ymostyngodd efe, llid yr Arglwydd a ddychwelodd oddi wrtho ef, fel nas dinistriai ef yn hollol; ac yn Jwda hefyd yr oedd pob peth yn dda.

13 Felly y brenin Rehoboam a ymgryfhaodd yn Jerwsalem, ac a deyrnasodd: a mab un flwydd a deugain oedd Rehoboam pan ddechreuodd efe deyrnasu, a dwy flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisasai yr Arglwydd i osod ei enw ef ynddi, o holl lwythau Israel: ac enw ei fam oedd Naama, Ammones. 14 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg, canys ni pharatôdd efe ei galon i geisio yr Arglwydd. 15 Am y gweithredoedd cyntaf a diwethaf i Rehoboam, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yng ngeiriau Semaia y proffwyd, ac Ido y gweledydd, yn yr achau? A bu rhyfeloedd rhwng Rehoboam a Jeroboam yn wastadol. 16 A Rehoboam a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yn ninas Dafydd; ac Abeia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.