Add parallel Print Page Options

11 A phan welodd Athaleia mam Ahaseia farw o’i mab, hi a gyfododd, ac a ddifethodd yr holl had brenhinol. Ond Joseba merch y brenin Joram, chwaer Ahaseia, a gymerth Joas mab Ahaseia, ac a’i lladrataodd ef o fysg meibion y brenin y rhai a laddwyd: a hwy a’i cuddiasant ef a’i famaeth yn ystafell y gwelyau, rhag Athaleia, fel na laddwyd ef. Ac efe a fu gyda hi ynghudd yn nhŷ yr Arglwydd chwe blynedd: ac Athaleia oedd yn teyrnasu ar y wlad.

Ac yn y seithfed flwyddyn yr anfonodd Jehoiada, ac y cymerth dywysogion y cannoedd, a’r capteiniaid, a’r swyddogion, ac a’u dug hwynt i mewn ato i dŷ yr Arglwydd, ac a wnaeth â hwynt gyfamod, ac a wnaeth iddynt dyngu yn nhŷ yr Arglwydd, ac a ddangosodd iddynt fab y brenin. Ac efe a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Dyma’r peth a wnewch chwi; Trydedd ran ohonoch sydd yn dyfod i mewn ar y Saboth, a gadwant wyliadwriaeth tŷ y brenin: A thrydedd ran fydd ym mhorth Sur: a thrydedd ran yn y porth o’r tu ôl i’r swyddogion: felly y cedwch wyliadwriaeth y tŷ rhag ei dorri. A deuparth ohonoch oll sydd yn myned allan ar y Saboth, a gadwant wyliadwriaeth tŷ yr Arglwydd, ynghylch y brenin. A chwi a amgylchynwch y brenin o bob parth, pob un â’i arfau yn ei law; a’r hwn a ddelo i’r rhesau, lladder ef: a byddwch gyda’r brenin pan elo efe allan, a phan ddelo efe i mewn. A thywysogion y cannoedd a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Jehoiada yr offeiriad, a chymerasant bawb eu gwŷr y rhai oedd yn dyfod i mewn ar y Saboth, gyda’r rhai oedd yn myned allan ar y Saboth; ac a ddaethant at Jehoiada yr offeiriad. 10 A’r offeiriad a roddodd i dywysogion y cannoedd waywffyn a tharianau y brenin Dafydd, y rhai oedd yn nhŷ yr Arglwydd. 11 A’r swyddogion a safasant bob un â’i arfau yn ei law, o’r tu deau i’r tŷ, hyd y tu aswy i’r tŷ, wrth yr allor a’r tŷ, amgylch ogylch y brenin. 12 Ac efe a ddug allan fab y brenin, ac a roddodd y goron arno ef, a’r dystiolaeth: a hwy a’i hurddasant ef yn frenin, ac a’i heneiniasant ef; curasant hefyd eu dwylo, a dywedasant, Byw fyddo’r brenin.

13 A phan glybu Athaleia drwst y bobl yn rhedeg, hi a ddaeth i mewn at y bobl i dŷ yr Arglwydd. 14 A phan edrychodd hi, wele, y brenin oedd yn sefyll wrth y golofn yn ôl yr arfer, a’r tywysogion a’r utgyrn yn ymyl y brenin, a holl bobl y wlad yn llawen, ac yn canu mewn utgyrn. Ac Athaleia a rwygodd ei dillad, ac a waeddodd, Bradwriaeth, bradwriaeth! 15 A Jehoiada yr offeiriad a orchmynnodd i dywysogion y cannoedd, y rhai oedd wedi eu gosod ar y llu, ac a ddywedodd wrthynt, Dygwch hi o’r tu allan i’r rhesau; a’r hwn a ddelo ar ei hôl hi, lladder ef â’r cleddyf: canys dywedasai yr offeiriad, Na ladder hi yn nhŷ yr Arglwydd. 16 A hwy a osodasant ddwylo arni hi, a hi a aeth ar hyd y ffordd feirch i dŷ y brenin, ac yno y lladdwyd hi.

17 A Jehoiada a wnaeth gyfamod rhwng yr Arglwydd a’r brenin a’r bobl, i fod ohonynt yn bobl i’r Arglwydd; a rhwng y brenin a’r bobl. 18 A holl bobl y wlad a aethant i dŷ Baal, ac a’i dinistriasant ef a’i allorau, ei ddelwau hefyd a ddrylliasant hwy yn chwilfriw, lladdasant hefyd Mattan offeiriad Baal o flaen yr allorau. A’r offeiriad a osododd oruchwylwyr ar dŷ yr Arglwydd. 19 Efe a gymerth hefyd dywysogion y cannoedd, a’r capteiniaid, a’r swyddogion, a holl bobl y wlad, a hwy a ddygasant i waered y brenin o dŷ yr Arglwydd, ac a ddaethant ar hyd ffordd porth y swyddogion, i dŷ y brenin: ac efe a eisteddodd ar orseddfa y brenhinoedd. 20 A holl bobl y wlad a lawenychasant, a’r ddinas a lonyddodd: a hwy a laddasant Athaleia â’r cleddyf wrth dŷ y brenin. 21 Mab saith mlwydd oedd Joas pan aeth efe yn frenin.