Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Start your day in Scripture. Get the Verse of the Day by email.
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
New Bible Gateway. Take the quick tour.
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • News
  • Explore
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
    • Take a Tour
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
News
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
Print PrintSettingsSettingsShare ShareParallelParallelExpandExpandCollapse

2 Brenhinoedd 1  Beibl William Morgan

1 Yna Moab a wrthryfelodd yn erbyn Israel, wedi marwolaeth Ahab. 2 Ac Ahaseia a syrthiodd trwy ddellt o’i lofft, yr hon oedd yn Samaria, ac a glafychodd; ac efe a anfonodd genhadau, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch, ac ymofynnwch â Baal‐sebub duw Ecron, a fyddaf fi byw o’r clefyd hwn. 3 Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrth Eleias y Thesbiad, Cyfod, dos i fyny i gyfarfod â chenhadau brenin Samaria, a dywed wrthynt, Ai am nad oedd Duw yn Israel, yr ydych chwi yn myned i ymofyn â Baal‐sebub duw Ecron? 4 Ac am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd; Ni ddisgynni o’r gwely y dringaist arno, eithr gan farw y byddi farw. Ac Eleias a aeth ymaith.

5 A phan ddychwelodd y cenhadau ato ef, efe a ddywedodd wrthynt, Paham y dychwelasoch chwi? 6 A hwy a ddywedasant wrtho, Gŵr a ddaeth i fyny i’n cyfarfod ni, ac a ddywedodd wrthym ni, Ewch, dychwelwch at y brenin a’ch anfonodd, a lleferwch wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Ai am nad oes Duw yn Israel, yr ydwyt ti yn anfon i ymofyn â Baal‐sebub duw Ecron? oherwydd hynny ni ddisgynni o’r gwely y dringaist arno, eithr gan farw y byddi farw. 7 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ddull oedd ar y gŵr a ddaeth i fyny i’ch cyfarfod chwi, ac a lefarodd wrthych yr ymadroddion yma? 8 A hwy a ddywedasant wrtho, Gŵr blewog oedd efe, wedi ymwregysu hefyd â gwregys croen am ei lwynau. Dywedodd yntau, Eleias y Thesbiad oedd efe. 9 Yna efe a anfonodd ato ef dywysog ar ddeg a deugain, ynghyd a’i ddeg a deugain: ac efe a aeth i fyny ato ef; (ac wele ef yn eistedd ar ben bryn;) ac a lefarodd wrtho, Ti ŵr Duw, y brenin a lefarodd, Tyred i waered. 10 Ac Eleias a atebodd ac a ddywedodd wrth dywysog y deg a deugain, Os gŵr Duw ydwyf fi, disgynned tân o’r nefoedd, ac ysed di a’th ddeg a deugain. A thân a ddisgynnodd o’r nefoedd, ac a’i hysodd ef a’i ddeg a deugain. 11 A’r brenin a anfonodd eilwaith ato ef dywysog arall ar ddeg a deugain, â’i ddeg a deugain: ac efe a atebodd ac a ddywedodd, O ŵr Duw, fel hyn y dywedodd y brenin, Tyred i waered yn ebrwydd. 12 Ac Eleias a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwy, Os gŵr Duw ydwyf fi, disgynned tân o’r nefoedd, ac ysed di a’th ddeg a deugain. A thân Duw a ddisgynnodd o’r nefoedd, ac a’i hysodd ef a’i ddeg a deugain.

13 A’r brenin a anfonodd eto y trydydd tywysog ar ddeg a deugain, â’i ddeg a deugain: a’r trydydd tywysog ar ddeg a deugain a aeth i fyny, ac a ddaeth ac a ymgrymodd ar ei liniau gerbron Eleias, ac a ymbiliodd ag ef, ac a lefarodd wrtho, O ŵr Duw, atolwg, bydded fy einioes i, ac einioes dy ddeg gwas a deugain hyn, yn werthfawr yn dy olwg di. 14 Wele, disgynnodd tân o’r nefoedd, ac a ysodd y ddau dywysog cyntaf ar ddeg a deugain, a’u deg a deugeiniau: am hynny yn awr bydded fy einioes i yn werthfawr yn dy olwg di. 15 Ac angel yr Arglwydd a lefarodd wrth Eleias, Dos i waered gydag ef, nac ofna ef. Ac efe a gyfododd, ac a aeth i waered gydag ef at y brenin. 16 Ac efe a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, Oherwydd i ti anfon cenhadau i ymofyn â Baal‐sebub duw Ecron, (ai am nad oes Duw yn Israel i ymofyn â’i air?) am hynny ni ddisgynni o’r gwely y dringaist arno, eithr gan farw y byddi farw.

17 Felly efe a fu farw, yn ôl gair yr Arglwydd yr hwn a lefarasai Eleias: a Jehoram a deyrnasodd yn ei le ef, yn yr ail flwyddyn i Jehoram mab Jehosaffat brenin Jwda; am nad oedd mab iddo ef. 18 A’r rhan arall o weithredoedd Ahaseia y rhai a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?

Next
1 Brenhinoedd 22
2 Brenhinoedd 2
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway