Add parallel Print Page Options

Ymhellach gan hynny, frodyr, yr ydym yn atolwg i chwi, ac yn deisyf yn yr Arglwydd Iesu, megis y derbyniasoch gennym pa fodd y dylech rodio a bodloni Duw, ar i chwi gynyddu fwyfwy. Canys chwi a wyddoch pa orchmynion a roddasom i chwi trwy’r Arglwydd Iesu. Canys hyn yw ewyllys Duw, sef eich sancteiddiad chwi, ar ymgadw ohonoch rhag godineb: Ar fedru o bob un ohonoch feddiannu ei lestr ei hun mewn sancteiddrwydd a pharch; Nid mewn gwŷn trachwant, megis y Cenhedloedd y rhai nid adwaenant Dduw: Na byddo i neb orthrymu na thwyllo ei frawd mewn dim: canys dialydd yw’r Arglwydd ar y rhai hyn oll, megis y dywedasom i chwi o’r blaen, ac y tystiasom. Canys ni alwodd Duw nyni i aflendid, ond i sancteiddrwydd. Am hynny y neb sydd yn dirmygu, nid dyn y mae yn ei ddirmygu, ond Duw, yr hwn hefyd a roddes ei Ysbryd Glân ynom ni. Ond am frawdgarwch, nid rhaid i chwi ysgrifennu ohonof atoch: canys yr ydych chwi eich hunain wedi eich dysgu gan Dduw i garu eich gilydd. 10 Oblegid yr ydych yn gwneuthur hyn i bawb o’r brodyr y rhai sydd trwy holl Facedonia: ond yr ydym yn atolwg i chwi, frodyr, gynyddu ohonoch fwyfwy; 11 A rhoddi ohonoch eich bryd ar fod yn llonydd, a gwneuthur eich gorchwylion eich hunain, a gweithio â’ch dwylo eich hunain, (megis y gorchmynasom i chwi;) 12 Fel y rhodioch yn weddaidd tuag at y rhai sydd oddi allan, ac na byddo arnoch eisiau dim. 13 Ond ni ewyllysiwn, frodyr, i chwi fod heb wybod am y rhai a hunasant, na thristaoch, megis eraill y rhai nid oes ganddynt obaith. 14 Canys os ydym yn credu farw Iesu, a’i atgyfodi; felly y rhai a hunasant yn yr Iesu, a ddwg Duw hefyd gydag ef. 15 Canys hyn yr ydym yn ei ddywedyd wrthych yng ngair yr Arglwydd, na bydd i ni’r rhai byw, y rhai a adewir hyd ddyfodiad yr Arglwydd, ragflaenu’r rhai a hunasant. 16 Oblegid yr Arglwydd ei hun a ddisgyn o’r nef gyda bloedd, â llef yr archangel, ac ag utgorn Duw: a’r meirw yng Nghrist a gyfodant yn gyntaf: 17 Yna ninnau’r rhai byw, y rhai a adawyd, a gipir i fyny gyda hwynt yn y cymylau, i gyfarfod â’r Arglwydd yn yr awyr: ac felly y byddwn yn wastadol gyda’r Arglwydd. 18 Am hynny diddenwch eich gilydd â’r ymadroddion hyn.