Add parallel Print Page Options

Ac yr oedd gŵr o Benjamin, a’i enw Cis, mab Abiel, mab Seror, mab Bechorath, mab Affeia, mab i ŵr o Jemini, yn gadarn o nerth. Ac iddo ef yr oedd mab, a’i enw Saul, yn ŵr ieuanc, dewisol a glân: ac nid oedd neb o feibion Israel lanach nag ef: o’i ysgwydd i fyny yr oedd yn uwch na’r holl bobl. Ac asynnod Cis, tad Saul, a gyfrgollasant: a dywedodd Cis wrth Saul ei fab, Cymer yn awr un o’r llanciau gyda thi, a chyfod, dos, cais yr asynnod. Ac efe a aeth trwy fynydd Effraim, ac a dramwyodd trwy wlad Salisa, ac nis cawsant hwynt: yna y tramwyasant trwy wlad Salim, ac nis cawsant hwynt: ac efe a aeth trwy wlad Jemini, ond nis cawsant hwynt. Pan ddaethant i wlad Suff, y dywedodd Saul wrth ei lanc oedd gydag ef, Tyred, a dychwelwn; rhag i’m tad beidio â’r asynnod, a gofalu amdanom ni. Dywedodd yntau wrtho ef, Wele, yn awr y mae yn y ddinas hon ŵr i Dduw, a’r gŵr sydd anrhydeddus; yr hyn oll a ddywedo efe, gan ddyfod a ddaw: awn yno yn awr; nid hwyrach y mynega efe i ni y ffordd y mae i ni fyned iddi. Yna y dywedodd Saul wrth ei lanc, Wele, od awn ni, pa beth a ddygwn ni i’r gŵr? canys y bara a ddarfu yn ein llestri ni, a gwobr arall nid oes i’w ddwyn i ŵr Duw: beth sydd gennym? A’r llanc a atebodd eilwaith i Saul, ac a ddywedodd, Wele, cafwyd gyda mi bedwaredd ran sicl o arian: mi a roddaf hynny i ŵr Duw, er mynegi i ni ein ffordd. (Gynt yn Israel, fel hyn y dywedai gŵr wrth fyned i ymgynghori â Duw; Deuwch, ac awn hyd at y gweledydd: canys y Proffwyd heddiw, a elwid gynt yn Weledydd.) 10 Yna y dywedodd Saul wrth ei lanc, Da y dywedi; tyred, awn. Felly yr aethant i’r ddinas yr oedd gŵr Duw ynddi.

11 Ac fel yr oeddynt yn myned i riw y ddinas, hwy a gawsant lancesau yn dyfod allan i dynnu dwfr; ac a ddywedasant wrthynt, A yw y gweledydd yma? 12 Hwythau a’u hatebasant hwynt, ac a ddywedasant, Ydyw; wele efe o’th flaen; brysia yr awr hon; canys heddiw y daeth efe i’r ddinas; oherwydd aberth sydd heddiw gan y bobl yn yr uchelfa. 13 Pan ddeloch gyntaf i’r ddinas, chwi a’i cewch ef, cyn ei fyned i fyny i’r uchelfa i fwyta; canys ni fwyty y bobl hyd oni ddelo efe, oherwydd efe a fendiga yr aberth; ar ôl hynny y bwyty y rhai a wahoddwyd: am hynny ewch i fyny; canys ynghylch y pryd hwn y cewch ef. 14 A hwy a aethant i fyny i’r ddinas; a phan ddaethant i ganol y ddinas, wele Samuel yn dyfod i’w cyfarfod, i fyned i fyny i’r uchelfa.

15 A’r Arglwydd a fynegasai yng nghlust Samuel, ddiwrnod cyn dyfod Saul, gan ddywedyd. 16 Ynghylch y pryd hwn yfory yr anfonaf atat ti ŵr o wlad Benjamin; a thi a’i heneini ef yn flaenor ar fy mhobl Israel, ac efe a wared fy mhobl o law y Philistiaid: canys edrychais ar fy mhobl; oherwydd daeth eu gwaedd ataf. 17 A phan ganfu Samuel Saul, yr Arglwydd a ddywedodd wrtho ef, Wele y gŵr am yr hwn y dywedais wrthyt: hwn a lywodraetha ar fy mhobl. 18 Yna Saul a nesaodd at Samuel yng nghanol y porth, ac a ddywedodd, Mynega i mi, atolwg, pa le yma y mae tŷ y gweledydd. 19 A Samuel a atebodd Saul, ac a ddywedodd, Myfi yw y gweledydd: dos i fyny o’m blaen i’r uchelfa; canys bwytewch gyda myfi heddiw: a mi a’th ollyngaf y bore, ac a fynegaf i ti yr hyn oll y sydd yn dy galon. 20 Ac am yr asynnod a gyfrgollasant er ys tridiau, na ofala amdanynt; canys cafwyd hwynt. Ac i bwy y mae holl bethau dymunol Israel? onid i ti, ac i holl dŷ dy dad? 21 A Saul a atebodd ac a ddywedodd, Onid mab Jemini ydwyf fi, o’r lleiaf o lwythau Israel? a’m teulu sydd leiaf o holl deuluoedd llwyth Benjamin? a phaham y dywedi wrthyf y modd hyn? 22 A Samuel a gymerth Saul a’i lanc, ac a’u dug hwynt i’r ystafell, ac a roddodd iddynt le o flaen y gwahoddedigion; a hwy oeddynt ynghylch dengwr ar hugain. 23 A Samuel a ddywedodd wrth y cog, Moes y rhan a roddais atat ti, am yr hon y dywedais wrthyt, Cadw hon gyda thi. 24 A’r cog a gyfododd yr ysgwyddog, a’r hyn oedd arni, ac a’i gosododd gerbron Saul. A Samuel a ddywedodd, Wele yr hyn a adawyd; gosod ger dy fron, a bwyta: canys hyd y pryd hwn y cadwyd ef i ti, er pan ddywedais, Y bobl a wahoddais i. A bwytaodd Saul gyda Samuel y dydd hwnnw.

25 A phan ddisgynasant o’r uchelfa i’r ddinas, Samuel a ymddiddanodd â Saul ar ben y tŷ. 26 A hwy a gyfodasant yn fore: ac ynghylch codiad y wawr, galwodd Samuel ar Saul i ben y tŷ, gan ddywedyd, Cyfod, fel y’th hebryngwyf ymaith. A Saul a gyfododd, ac efe a Samuel a aethant ill dau allan. 27 Ac fel yr oeddynt yn myned i waered i gwr eithaf y ddinas, Samuel a ddywedodd wrth Saul, Dywed wrth y llanc am fyned o’n blaen ni; (felly yr aeth efe;) ond saf di yr awr hon, a mynegaf i ti air Duw.