Add parallel Print Page Options

26 A’r Siffiaid a ddaethant at Saul i Gibea, gan ddywedyd, Onid ydyw Dafydd yn llechu ym mryn Hachila, ar gyfer y diffeithwch? Yna y cyfododd Saul, ac a aeth i waered i anialwch Siff, a thair mil o etholedigion gwŷr Israel gydag ef, i geisio Dafydd yn anialwch Siff. A Saul a wersyllodd ym mryn Hachila, yr hwn sydd ar gyfer y diffeithwch, wrth y ffordd: a Dafydd oedd yn aros yn yr anialwch; ac efe a welodd fod Saul yn dyfod ar ei ôl ef i’r anialwch. Am hynny Dafydd a anfonodd ysbïwyr, ac a wybu ddyfod o Saul yn sicr.

A Dafydd a gyfododd, ac a ddaeth i’r lle y gwersyllasai Saul ynddo: a chanfu Dafydd y lle yr oedd Saul yn gorwedd ynddo, ac Abner mab Ner, tywysog ei lu. A Saul oedd yn gorwedd yn y wersyllfa, a’r bobl yn gwersyllu o’i amgylch ef. Yna y llefarodd Dafydd, ac y dywedodd wrth Ahimelech yr Hethiad, ac wrth Abisai mab Serfia, brawd Joab, gan ddywedyd, Pwy a â i waered gyda mi at Saul i’r gwersyll? A dywedodd Abisai, Myfi a af i waered gyda thi. Felly y daeth Dafydd ac Abisai at y bobl liw nos. Ac wele Saul yn gorwedd ac yn cysgu yn y wersyllfa, a’i waywffon wedi ei gwthio i’r ddaear wrth ei obennydd ef: ac Abner a’r bobl oedd yn gorwedd o’i amgylch ef. Yna y dywedodd Abisai wrth Dafydd, Duw a roddes heddiw dy elyn yn dy law di: yn awr gan hynny gad i mi ei daro ef, atolwg, â gwaywffon, hyd y ddaear un waith, ac nis aildrawaf ef. A Dafydd a ddywedodd wrth Abisai, Na ddifetha ef: canys pwy a estynnai ei law yn erbyn eneiniog yr Arglwydd, ac a fyddai ddieuog? 10 Dywedodd Dafydd hefyd, Fel y mae yr Arglwydd yn fyw, naill ai yr Arglwydd a’i tery ef; ai ei ddydd ef a ddaw i farw; ai efe a ddisgyn i’r rhyfel, ac a ddifethir. 11 Yr Arglwydd a’m cadwo i rhag estyn fy llaw yn erbyn eneiniog yr Arglwydd: ond yn awr, cymer, atolwg, y waywffon sydd wrth ei obennydd ef, a’r llestr dwfr, ac awn ymaith. 12 A Dafydd a gymerth y waywffon, a’r llestr dwfr oddi wrth obennydd Saul; a hwy a aethant ymaith; ac nid oedd neb yn gweled, nac yn gwybod, nac yn neffro: canys yr oeddynt oll yn cysgu; oherwydd trymgwsg oddi wrth yr Arglwydd a syrthiasai arnynt hwy.

13 Yna Dafydd a aeth i’r tu hwnt, ac a safodd ar ben y mynydd o hirbell; ac encyd fawr rhyngddynt; 14 A Dafydd a lefodd ar y bobl, ac ar Abner mab Ner, gan ddywedyd, Onid atebi di, Abner? Yna Abner a atebodd, ac a ddywedodd, Pwy ydwyt ti sydd yn llefain ar y brenin? 15 A Dafydd a ddywedodd wrth Abner, Onid gŵr ydwyt ti? a phwy sydd fel ti yn Israel? a phaham na chedwaist dy arglwydd frenin? canys daeth un o’r bobl i ddifetha’r brenin dy arglwydd di. 16 Nid da y peth hyn a wnaethost ti. Fel y mae yr Arglwydd yn fyw, meibion euog o farwolaeth ydych chwi, am na chadwasoch eich meistr, eneiniog yr Arglwydd. Ac yn awr edrychwch pa le y mae gwaywffon y brenin, a’r llestr dwfr oedd wrth ei obennydd ef. 17 A Saul a adnabu lais Dafydd, ac a ddywedodd, Ai dy lais di yw hwn, fy mab Dafydd? A dywedodd Dafydd, Fy llais i ydyw, fy arglwydd frenin. 18 Dywedodd hefyd, Paham y mae fy arglwydd fel hyn yn erlid ar ôl ei was? canys beth a wneuthum? neu pa ddrygioni sydd yn fy llaw? 19 Yn awr gan hynny, atolwg, gwrandawed fy arglwydd frenin eiriau ei wasanaethwr. Os yr Arglwydd a’th anogodd di i’m herbyn, arogled offrwm: ond os meibion dynion, melltigedig fyddant hwy gerbron yr Arglwydd; oherwydd hwy a’m gyrasant i allan heddiw, fel nad ydwyf yn cael glynu yn etifeddiaeth yr Arglwydd, gan ddywedyd, Dos, gwasanaetha dduwiau dieithr. 20 Yn awr, gan hynny, na syrthied fy ngwaed i i’r ddaear o flaen wyneb yr Arglwydd: canys brenin Israel a ddaeth allan i geisio chwannen, megis un yn hela petris yn y mynyddoedd.

21 Yna Saul a ddywedodd, Pechais: dychwel, Dafydd fy mab: canys ni’th ddrygaf mwy; oherwydd gwerthfawr fu fy einioes i yn dy olwg di y dydd hwn: wele, ynfyd y gwneuthum, a mi a gyfeiliornais yn ddirfawr. 22 A Dafydd a atebodd, ac a ddywedodd, Wele waywffon y brenin; deled un o’r llanciau drosodd, a chyrched hi. 23 Yr Arglwydd a dalo i bob un ei gyfiawnder a’i ffyddlondeb: canys yr Arglwydd a’th roddodd di heddiw yn fy llaw i; ond nid estynnwn i fy llaw yn erbyn eneiniog yr Arglwydd. 24 Ac wele, megis y bu werthfawr dy einioes di heddiw yn fy ngolwg i, felly gwerthfawr fyddo fy einioes innau yng ngolwg yr Arglwydd, a gwareded fi o bob cyfyngdra. 25 Yna y dywedodd Saul wrth Dafydd, Bendigedig fych di, fy mab Dafydd: hefyd ti a wnei fawredd, ac a orchfygi rhag llaw. A Dafydd a aeth i ffordd; a Saul a ddychwelodd i’w fangre ei hun.