Add parallel Print Page Options

24 A phan ddychwelodd Saul oddi ar ôl y Philistiaid, mynegwyd iddo, gan ddywedyd, Wele Dafydd yn anialwch En-gedi. Yna y cymerth Saul dair mil o wŷr etholedig o holl Israel; ac efe a aeth i geisio Dafydd a’i wŷr, ar hyd copa creigiau y geifr gwylltion. Ac efe a ddaeth at gorlannau y defaid, ar y ffordd; ac yno yr oedd ogof: a Saul a aeth i mewn i wasanaethu ei gorff. A Dafydd a’i wŷr oedd yn aros yn ystlysau yr ogof. A gwŷr Dafydd a ddywedasant wrtho ef, Wele y dydd am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd wrthyt, Wele fi yn rhoddi dy elyn yn dy law di, fel y gwnelych iddo megis y byddo da yn dy olwg. Yna Dafydd a gyfododd, ac a dorrodd gwr y fantell oedd am Saul yn ddirgel. Ac wedi hyn calon Dafydd a’i trawodd ef, oherwydd iddo dorri cwr mantell Saul. Ac efe a ddywedodd wrth ei wŷr, Na ato yr Arglwydd i mi wneuthur y peth hyn i’m meistr, eneiniog yr Arglwydd, i estyn fy llaw yn ei erbyn ef; oblegid eneiniog yr Arglwydd yw efe. Felly yr ataliodd Dafydd ei wŷr â’r geiriau hyn, ac ni adawodd iddynt gyfodi yn erbyn Saul. A Saul a gododd i fyny o’r ogof, ac a aeth i ffordd. Ac ar ôl hyn Dafydd a gyfododd, ac a aeth allan o’r ogof; ac a lefodd ar ôl Saul, gan ddywedyd, Fy arglwydd frenin. A phan edrychodd Saul o’i ôl, Dafydd a ostyngodd ei wyneb tua’r ddaear, ac a ymgrymodd.

A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, Paham y gwrandewi eiriau dynion, gan ddywedyd, Wele, y mae Dafydd yn ceisio niwed i ti? 10 Wele, dy lygaid a welsant y dydd hwn ddarfod i’r Arglwydd dy roddi di yn fy llaw i heddiw yn yr ogof: a dywedwyd wrthyf am dy ladd di; ond fy enaid a’th arbedodd di: a dywedais, Nid estynnaf fy llaw yn erbyn fy meistr; canys eneiniog yr Arglwydd yw efe. 11 Fy nhad hefyd, gwêl, ie gwêl gwr dy fantell yn fy llaw i: canys pan dorrais ymaith gwr dy fantell di, heb dy ladd; gwybydd a gwêl nad oes yn fy llaw i ddrygioni na chamwedd, ac na phechais i’th erbyn: eto yr wyt ti yn hela fy einioes i, i’w dala hi. 12 Barned yr Arglwydd rhyngof fi a thithau, a dialed yr Arglwydd fi arnat ti: ond ni bydd fy llaw i arnat ti. 13 Megis y dywed yr hen ddihareb, Oddi wrth y rhai anwir y daw anwiredd: ond ni bydd fy llaw i arnat ti. 14 Ar ôl pwy y daeth brenin Israel allan? ar ôl pwy yr ydwyt ti yn erlid? ar ôl ci marw, ar ôl chwannen. 15 Am hynny bydded yr Arglwydd yn farnwr, a barned rhyngof fi a thi: edryched hefyd, a dadleued fy nadl, ac achubed fi o’th law di.

16 A phan orffennodd Dafydd lefaru y geiriau hyn wrth Saul, yna y dywedodd Saul, Ai dy lef di yw hon, fy mab Dafydd? A Saul a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd. 17 Efe a ddywedodd hefyd wrth Dafydd, Cyfiawnach wyt ti na myfi: canys ti a delaist i mi dda, a minnau a delais i ti ddrwg. 18 A thi a ddangosaist heddiw wneuthur ohonot â mi ddaioni: oherwydd rhoddodd yr Arglwydd fi yn dy law di, ac ni’m lleddaist. 19 Oblegid os caffai ŵr ei elyn, a ollyngai efe ef mewn ffordd dda? am hynny yr Arglwydd a dalo i ti ddaioni, am yr hyn a wnaethost i mi y dydd hwn. 20 Ac wele yn awr, mi a wn gan deyrnasu y teyrnesi di, ac y sicrheir brenhiniaeth Israel yn dy law di. 21 Twng dithau wrthyf fi yn awr i’r Arglwydd, na thorri ymaith fy had i ar fy ôl, ac na ddifethi fy enw i o dŷ fy nhad. 22 A Dafydd a dyngodd wrth Saul. A Saul a aeth i’w dŷ: Dafydd hefyd a’i wŷr a aethant i fyny i’r amddiffynfa.