Add parallel Print Page Options

Gwelwch pa fath gariad a roes y Tad arnom, fel y’n gelwid yn feibion i Dduw: oblegid hyn nid edwyn y byd chwi, oblegid nad adnabu efe ef. Anwylyd, yr awr hon meibion i Dduw ydym, ac nid amlygwyd eto beth a fyddwn: eithr ni a wyddom, pan ymddangoso efe, y byddwn gyffelyb iddo: oblegid ni a gawn ei weled ef megis ag y mae. Ac y mae pob un sydd ganddo’r gobaith hwn ynddo ef, yn ei buro’i hun, megis y mae yntau yn bur. Pob un a’r sydd yn gwneuthur pechod, sydd hefyd yn gwneuthur anghyfraith: oblegid anghyfraith yw pechod. A chwi a wyddoch ymddangos ohono ef, fel y dileai ein pechodau ni: ac ynddo ef nid oes pechod. Pob un a’r sydd yn aros ynddo ef, nid yw yn pechu: pob un a’r sydd yn pechu, nis gwelodd ef, ac nis adnabu ef. O blant bychain, na thwylled neb chwi: yr hwn sydd yn gwneuthur cyfiawnder, sydd gyfiawn, megis y mae yntau yn gyfiawn. Yr hwn sydd yn gwneuthur pechod, o ddiafol y mae; canys y mae diafol yn pechu o’r dechreuad. I hyn yr ymddangosodd Mab Duw, fel y datodai weithredoedd diafol. Pob un a aned o Dduw, nid yw yn gwneuthur pechod; oblegid y mae ei had ef yn aros ynddo ef: ac ni all efe bechu, am ei eni ef o Dduw. 10 Yn hyn y mae yn amlwg plant Duw, a phlant diafol: Pob un a’r sydd heb wneuthur cyfiawnder, nid yw o Dduw, na’r hwn nid yw yn caru ei frawd. 11 Oblegid hon yw’r genadwri a glywsoch o’r dechreuad; bod i ni garu ein gilydd. 12 Nid fel Cain, yr hwn oedd o’r drwg, ac a laddodd ei frawd. A phaham y lladdodd ef? Oblegid bod ei weithredoedd ef yn ddrwg, a’r eiddo ei frawd yn dda. 13 Na ryfeddwch, fy mrodyr, os yw’r byd yn eich casáu chwi. 14 Nyni a wyddom ddarfod ein symud ni o farwolaeth i fywyd, oblegid ein bod yn caru’r brodyr. Yr hwn nid yw yn caru ei frawd, y mae yn aros ym marwolaeth. 15 Pob un a’r sydd yn casáu ei frawd, lleiddiad dyn yw: a chwi a wyddoch nad oes i un lleiddiad dyn fywyd tragwyddol yn aros ynddo. 16 Yn hyn yr adnabuom gariad Duw, oblegid dodi ohono ef ei einioes drosom ni: a ninnau a ddylem ddodi ein heinioes dros y brodyr. 17 Eithr yr hwn sydd ganddo dda’r byd hwn, ac a welo ei frawd mewn eisiau, ac a gaeo ei dosturi oddi wrtho, pa fodd y mae cariad Duw yn aros ynddo ef? 18 Fy mhlant bychain, na charwn ar air nac ar dafod yn unig, eithr mewn gweithred a gwirionedd. 19 Ac wrth hyn y gwyddom ein bod o’r gwirionedd, ac y sicrhawn ein calonnau ger ei fron ef. 20 Oblegid os ein calon a’n condemnia, mwy yw Duw na’n calon, ac efe a ŵyr bob peth. 21 Anwylyd, os ein calon ni’n condemnia, y mae gennym hyder ar Dduw. 22 A pha beth bynnag a ofynnom, yr ydym yn ei dderbyn ganddo ef; oblegid ein bod yn cadw ei orchmynion ef, ac yn gwneuthur y pethau sydd yn rhyngu bodd yn ei olwg ef. 23 A hwn yw ei orchymyn ef; Gredu ohonom yn enw ei Fab ef Iesu Grist, a charu ein gilydd, megis y rhoes efe orchymyn i ni. 24 A’r hwn sydd yn cadw ei orchmynion ef, sydd yn trigo ynddo ef, ac yntau ynddo yntau. Ac wrth hyn y gwyddom ei fod ef yn aros ynom, sef o’r Ysbryd a roddes efe i ni.