1 Cronicl 10
Beibl William Morgan
10 A’r Philistiaid a ryfelasant yn erbyn Israel, a ffodd gwŷr Israel o flaen y Philistiaid, ac a gwympasant yn archolledig ym mynydd Gilboa. 2 A’r Philistiaid a erlidiasant ar ôl Saul, ac ar ôl ei feibion: a’r Philistiaid a laddasant Jonathan, ac Abinadab, a Malcisua, meibion Saul. 3 A’r rhyfel a drymhaodd yn erbyn Saul, a’r perchen bwâu a’i cawsant ef, ac efe a archollwyd gan y saethyddion. 4 Yna y dywedodd Saul wrth yr hwn oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyn dy gleddyf, a gwân fi ag ef, rhag dyfod y rhai dienwaededig hyn a’m gwatwar i. Ond arweinydd ei arfau ef nis gwnâi, canys ofnodd yn ddirfawr. Yna y cymerth Saul gleddyf, ac a syrthiodd arno. 5 A phan welodd arweinydd ei arfau ef farw o Saul, syrthiodd yntau hefyd ar y cleddyf, ac a fu farw. 6 Felly y bu farw Saul, a’i dri mab ef, a’i holl dylwyth a fuant feirw ynghyd. 7 A phan welodd holl wŷr Israel, y rhai oedd yn y dyffryn, ffoi ohonynt hwy, a marw Saul a’i feibion; hwy a ymadawsant o’u dinasoedd, ac a ffoesant; a’r Philistiaid a ddaethant, ac a drigasant ynddynt.
8 A thrannoeth, pan ddaeth y Philistiaid i ddiosg y lladdedigion, hwy a gawsant Saul a’i feibion yn feirw ym mynydd Gilboa. 9 Ac wedi iddynt ei ddiosg, hwy a gymerasant ei ben ef, a’i arfau, ac a anfonasant i wlad y Philistiaid o amgylch, i ddangos i’w delwau, ac i’r bobl. 10 A hwy a osodasant ei arfau ef yn nhŷ eu duwiau, a’i benglog a grogasant hwy yn nhŷ Dagon.
11 A phan glybu holl Jabes Gilead yr hyn oll a wnaethai y Philistiaid i Saul, 12 Pob gŵr nerthol a godasant, ac a gymerasant ymaith gorff Saul, a chyrff ei feibion ef, ac a’u dygasant i Jabes, ac a gladdasant eu hesgyrn hwynt dan y dderwen yn Jabes, ac a ymprydiasant saith niwrnod.
13 Felly y bu farw Saul, am ei gamwedd a wnaethai efe yn erbyn yr Arglwydd, sef yn erbyn gair yr Arglwydd yr hwn ni chadwasai efe, ac am iddo ymgynghori â dewines, i ymofyn â hi; 14 Ac heb ymgynghori â’r Arglwydd: am hynny y lladdodd efe ef, ac y trodd y frenhiniaeth i Dafydd mab Jesse.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.