Add parallel Print Page Options

Felly cyfrifed dyn nyni, megis gweinidogion i Grist, a goruchwylwyr ar ddirgeledigaethau Duw. Am ben hyn, yr ydys yn disgwyl mewn goruchwylwyr, gael un yn ffyddlon. Eithr gennyf fi bychan iawn yw fy marnu gennych chwi, neu gan farn dyn: ac nid wyf chwaith yn fy marnu fy hun. Canys ni wn i ddim arnaf fy hun; ond yn hyn ni’m cyfiawnhawyd: eithr yr Arglwydd yw’r hwn sydd yn fy marnu. Am hynny na fernwch ddim cyn yr amser, hyd oni ddelo’r Arglwydd, yr hwn a oleua ddirgelion y tywyllwch, ac a eglura fwriadau’r calonnau: ac yna y bydd y glod i bob un gan Dduw. A’r pethau hyn, frodyr, mewn cyffelybiaeth a fwriais i ataf fy hun ac at Apolos, o’ch achos chwi: fel y gallech ddysgu ynom ni, na synier mwy nag sydd ysgrifenedig, fel na byddoch y naill dros y llall yn ymchwyddo yn erbyn arall. Pwy sydd yn gwneuthur rhagor rhyngot ti ac arall? a pha beth sydd gennyt a’r nas derbyniaist? ac os derbyniaist, paham yr wyt ti yn gorfoleddu, megis pe bait heb dderbyn? Yr ydych chwi yr awron wedi eich diwallu, yr ydych chwi yr awron wedi eich cyfoethogi, chwi a deyrnasasoch hebom ni: ac och Dduw na baech yn teyrnasu, fel y caem ninnau deyrnasu gyda chwi. Canys tybied yr wyf ddarfod i Dduw ein dangos ni, yr apostolion diwethaf, fel rhai wedi eu bwrw i angau: oblegid nyni a wnaethpwyd yn ddrych i’r byd, ac i’r angylion, ac i ddynion. 10 Yr ydym ni yn ffyliaid er mwyn Crist, a chwithau yn ddoethion yng Nghrist; nyni yn weiniaid, a chwithau yn gryfion; chwychwi yn anrhydeddus, a ninnau yn ddirmygus. 11 Hyd yr awr hon yr ydym ni yn dwyn newyn a syched, ac yr ydym ni yn noethion, ac yn cael cernodiau, ac yn grwydraidd; 12 Ac yr ydym yn llafurio, gan weithio â’n dwylo’n hunain. Pan y’n difenwir, yr ydym yn bendithio; pan y’n herlidir, yr ydym yn ei ddioddef; 13 Pan y’n ceblir, yr ydym yn gweddïo: fel ysgubion y byd y gwnaethpwyd ni, a sorod pob dim, hyd yn hyn. 14 Nid i’ch gwaradwyddo chwi yr ydwyf yn ysgrifennu’r pethau hyn; ond eich rhybuddio yr wyf fel fy mhlant annwyl. 15 Canys pe byddai i chwi ddeng mil o athrawon yng Nghrist, er hynny nid oes i chwi nemor o dadau: canys myfi a’ch cenhedlais chwi yng Nghrist Iesu trwy’r efengyl. 16 Am hynny yr wyf yn atolwg i chwi, byddwch ddilynwyr i mi. 17 Oblegid hyn yr anfonais atoch Timotheus, yr hwn yw fy annwyl fab, a ffyddlon yn yr Arglwydd; yr hwn a ddwg ar gof i chwi fy ffyrdd i yng Nghrist, megis yr wyf ym mhob man yn athrawiaethu ym mhob eglwys. 18 Ac y mae rhai wedi ymchwyddo, fel pe bawn i heb fod ar fedr dyfod atoch chwi. 19 Eithr mi a ddeuaf atoch ar fyrder, os yr Arglwydd a’i myn; ac a fynnaf wybod, nid ymadrodd y rhai sydd wedi chwyddo, ond eu gallu. 20 Canys nid mewn ymadrodd y mae teyrnas Dduw; eithr mewn gallu. 21 Beth a fynnwch chwi? ai dyfod ohonof fi atoch chwi â gwialen, ynteu mewn cariad, ac ysbryd addfwynder?

1-4 Don’t imagine us leaders to be something we aren’t. We are servants of Christ, not his masters. We are guides into God’s divine secrets, not security guards posted to protect them. The requirements for a good guide are reliability and accurate knowledge. It matters very little to me what you think of me, even less where I rank in popular opinion. I don’t even rank myself. Comparisons in these matters are pointless. I’m not aware of anything that would disqualify me from being a good guide for you, but that doesn’t mean much. The Master makes that judgment.

So don’t get ahead of the Master and jump to conclusions with your judgments before all the evidence is in. When he comes, he will bring out in the open and place in evidence all kinds of things we never even dreamed of—inner motives and purposes and prayers. Only then will any one of us get to hear the “Well done!” of God.

All I’m doing right now, friends, is showing how these things pertain to Apollos and me so that you will learn restraint and not rush into making judgments without knowing all the facts. It’s important to look at things from God’s point of view. I would rather not see you inflating or deflating reputations based on mere hearsay.

7-8 For who do you know that really knows you, knows your heart? And even if they did, is there anything they would discover in you that you could take credit for? Isn’t everything you have and everything you are sheer gifts from God? So what’s the point of all this comparing and competing? You already have all you need. You already have more access to God than you can handle. Without bringing either Apollos or me into it, you’re sitting on top of the world—at least God’s world—and we’re right there, sitting alongside you!

9-13 It seems to me that God has put us who bear his Message on stage in a theater in which no one wants to buy a ticket. We’re something everyone stands around and stares at, like an accident in the street. We’re the Messiah’s misfits. You might be sure of yourselves, but we live in the midst of frailties and uncertainties. You might be well-thought-of by others, but we’re mostly kicked around. Much of the time we don’t have enough to eat, we wear patched and threadbare clothes, we get doors slammed in our faces, and we pick up odd jobs anywhere we can to eke out a living. When they call us names, we say, “God bless you.” When they spread rumors about us, we put in a good word for them. We’re treated like garbage, the leftovers that nobody wants. And it’s not getting any better.

14-16 I’m not writing all this as a neighborhood scold to shame you. I’m writing as a father to you, my children. I love you and want you to grow up well, not spoiled. There are a lot of people around who can’t wait to tell you what you’ve done wrong, but there aren’t many fathers willing to take the time and effort to help you grow up. It was as Jesus helped me proclaim God’s Message to you that I became your father. I’m not, you know, asking you to do anything I’m not already doing myself.

17 This is why I sent Timothy to you earlier. He is also my dear son, and true to the Master. He will refresh your memory on the instructions I regularly give all the churches on the way of Christ.

18-20 I know there are some among you who are so full of themselves they never listen to anyone, let alone me. They don’t think I’ll ever show up in person. But I’ll be there sooner than you think, God willing, and then we’ll see if they’re full of anything but hot air. God’s Way is not a matter of mere talk; it’s an empowered life.

21 So how should I prepare to come to you? As a severe disciplinarian who makes you walk the line? Or as a good friend and counselor who wants to share heart-to-heart with you? You decide.