Add parallel Print Page Options

Ac yn y bedwar ugeinfed a phedwar cant o flynyddoedd wedi dyfod meibion Israel allan o’r Aifft, yn y bedwaredd flwyddyn o deyrnasiad Solomon ar Israel, yn y mis Sif, hwnnw yw yr ail fis, y dechreuodd efe adeiladu tŷ yr Arglwydd. A’r tŷ a adeiladodd y brenin Solomon i’r Arglwydd oedd drigain cufydd ei hyd, ac ugain cufydd ei led, a deg cufydd ar hugain ei uchder. A’r porth o flaen teml y tŷ oedd ugain cufydd ei hyd, yn un hyd â lled y tŷ; ac yn ddeg cufydd ei led, o flaen y tŷ. Ac efe a wnaeth i’r tŷ ffenestri, yn llydain oddi fewn, ac yn gyfyng oddi allan.

Ac efe a adeiladodd wrth fur y tŷ ystafelloedd oddi amgylch mur y tŷ, ynghylch y deml, a’r gafell; ac a wnaeth gelloedd o amgylch. Yr ystafell isaf oedd bum cufydd ei lled, a’r ganol chwe chufydd ei lled, a’r drydedd yn saith gufydd ei lled: canys efe a roddasai ategion o’r tu allan i’r tŷ oddi amgylch, fel na rwymid y trawstiau ym mur y tŷ. A’r tŷ, pan adeiladwyd ef, a adeiladwyd o gerrig wedi eu cwbl naddu cyn eu dwyn yno; fel na chlybuwyd na morthwylion, na bwyeill, nac un offeryn haearn yn y tŷ, wrth ei adeiladu. Drws y gell ganol oedd ar ystlys ddeau y tŷ; ac ar hyd grisiau troëdig y dringid i’r ganol, ac o’r ganol i’r drydedd. Felly yr adeiladodd efe y tŷ, ac a’i gorffennodd; ac a fyrddiodd y tŷ â thrawstiau ac ystyllod o gedrwydd. 10 Ac efe a adeiladodd ystafelloedd wrth yr holl dŷ, yn bum cufydd eu huchder: ac â choed cedr yr oeddynt yn pwyso ar y tŷ.

11 A daeth gair yr Arglwydd at Solomon, gan ddywedyd, 12 Am y tŷ yr wyt ti yn ei adeiladu, os rhodi di yn fy neddfau i, a gwneuthur fy marnedigaethau, a chadw fy holl orchmynion, gan rodio ynddynt; yna y cyflawnaf â thi fy ngair a leferais wrth Dafydd dy dad: 13 A mi a breswyliaf ymysg meibion Israel, ac ni adawaf fy mhobl Israel. 14 Felly yr adeiladodd Solomon y tŷ, ac a’i gorffennodd. 15 Ac efe a fyrddiodd barwydydd y tŷ oddi fewn ag ystyllod cedrwydd, o lawr y tŷ hyd y llogail y byrddiodd efe ef â choed oddi fewn: byrddiodd hefyd lawr y tŷ â phlanciau o ffynidwydd. 16 Ac efe a adeiladodd ugain cufydd ar ystlysau y tŷ ag ystyllod cedr, o’r llawr hyd y parwydydd: felly yr adeiladodd iddo o fewn, sef i’r gafell, i’r cysegr sancteiddiolaf. 17 A’r tŷ, sef y deml o’i flaen ef, oedd ddeugain cufydd ei hyd. 18 A chedrwydd y tŷ oddi fewn oedd wedi eu cerfio yn gnapiau, ac yn flodau agored: y cwbl oedd gedrwydd; ni welid carreg. 19 A’r gafell a ddarparodd efe yn y tŷ o fewn, i osod yno arch cyfamod yr Arglwydd. 20 A’r gafell yn y pen blaen oedd ugain cufydd o hyd, ac ugain cufydd o led, ac ugain cufydd ei huchder: ac efe a’i gwisgodd ag aur pur; felly hefyd y gwisgodd efe yr allor o gedrwydd. 21 Solomon hefyd a wisgodd y tŷ oddi fewn ag aur pur; ac a roddes farrau ar draws, wrth gadwyni aur, o flaen y gafell, ac a’u gwisgodd ag aur. 22 A’r holl dŷ a wisgodd efe ag aur, nes gorffen yr holl dŷ: yr allor hefyd oll, yr hon oedd wrth y gafell, a wisgodd efe ag aur.

23 Ac efe a wnaeth yn y gafell ddau o geriwbiaid, o bren olewydd, pob un yn ddeg cufydd ei uchder. 24 A’r naill adain i’r ceriwb oedd bum cufydd, a’r adain arall i’r cerub oedd bum cufydd: deg cufydd oedd o’r naill gwr i’w adenydd ef hyd y cwr arall i’w adenydd ef. 25 A’r ail geriwb oedd o ddeg cufydd: un mesur ac un agwedd oedd y ddau geriwb. 26 Uchder y naill geriwb oedd ddeg cufydd; ac felly yr oedd y ceriwb arall. 27 Ac efe a osododd y ceriwbiaid yn y tŷ oddi fewn: ac adenydd y ceriwbiaid a ymledasant, fel y cyffyrddodd adain y naill â’r naill bared, ac adain y ceriwb arall oedd yn cyffwrdd â’r pared arall; a’u hadenydd hwy yng nghanol y tŷ oedd yn cyffwrdd â’i gilydd. 28 Ac efe a wisgodd y ceriwbiaid ag aur. 29 A holl barwydydd y tŷ o amgylch a gerfiodd efe â cherfiedig luniau ceriwbiaid, a phalmwydd, a blodau agored; o fewn ac oddi allan. 30 Llawr y tŷ hefyd a wisgodd efe ag aur, oddi fewn ac oddi allan.

31 Ac i ddrws y gafell y gwnaeth efe ddorau o goed olewydd; capan y drws a’r gorsingau oedd bumed ran y pared. 32 Ac ar y ddwy ddôr o goed olewydd y cerfiodd efe gerfiadau ceriwbiaid, a phalmwydd, a blodau agored, ac a’u gwisgodd ag aur, ac a ledodd aur ar y ceriwbiaid, ac ar y palmwydd. 33 Ac felly y gwnaeth efe i ddrws y deml orsingau o goed olewydd, y rhai oedd bedwaredd ran y pared. 34 Ac yr oedd y ddwy ddôr o goed ffynidwydd: dwy ddalen blygedig oedd i’r naill ddôr, a dwy ddalen blygedig i’r ddôr arall. 35 Ac efe a gerfiodd geriwbiaid, a phalmwydd, a blodau agored, arnynt; ac a’u gwisgodd ag aur, yr hwn a gymhwyswyd ar y cerfiad.

36 Ac efe a adeiladodd y cyntedd nesaf i mewn â thair rhes o gerrig nadd, ac â rhes o drawstiau cedrwydd.

37 Yn y bedwaredd flwyddyn y sylfaenwyd tŷ yr Arglwydd, ym mis Sif: 38 Ac yn yr unfed flwyddyn ar ddeg, ym mis Bul, (dyna yr wythfed mis,) y gorffennwyd y tŷ, a’i holl rannau, a’i holl berthynasau. Felly mewn saith mlynedd yr adeiladodd efe ef.