Add parallel Print Page Options

13 Ac Adoneia mab Haggith a ddaeth at Bathseba mam Solomon. A hi a ddywedodd, Ai heddychlon dy ddyfodiad? Yntau a ddywedodd, Heddychlon. 14 Ac efe a ddywedodd, Y mae i mi air â thi. Hithau a ddywedodd, Dywed. 15 Yntau a ddywedodd, Ti a wyddost mai eiddof fi oedd y frenhiniaeth, ac i holl Israel osod eu hwynebau ar fy ngwneuthur i yn frenin: eithr trodd y frenhiniaeth, ac a aeth i’m brawd: canys trwy yr Arglwydd yr aeth hi yn eiddo ef. 16 Ond yn awr dymunaf gennyt un dymuniad; na omedd fi. Hithau a ddywedodd wrtho, Dywed. 17 Yntau a ddywedodd, Dywed, atolwg, wrth y brenin Solomon, (canys ni omedd efe dydi,) am roddi ohono ef Abisag y Sunamees yn wraig i mi. 18 A dywedodd Bathseba, Da; mi a ddywedaf drosot ti wrth y brenin.

19 Felly Bathseba a aeth at y brenin Solomon, i ddywedyd wrtho ef dros Adoneia. A’r brenin a gododd i’w chyfarfod hi, ac a ostyngodd iddi, ac a eisteddodd ar ei orseddfainc, ac a barodd osod gorseddfainc i fam y brenin: a hi a eisteddodd ar ei ddeheulaw ef. 20 Yna hi a ddywedodd, Un dymuniad bychan yr ydwyf fi yn ei ddymuno gennyt; na omedd fi. A’r brenin a ddywedodd wrthi hi, Gofyn, fy mam: canys ni’th omeddaf. 21 A hi a ddywedodd, Rhodder Abisag y Sunamees yn wraig i Adoneia dy frawd. 22 A’r brenin Solomon a atebodd ac a ddywedodd wrth ei fam, Paham y ceisi di Abisag y Sunamees i Adoneia? gofyn hefyd y frenhiniaeth iddo ef; canys fy mrawd hŷn na mi ydyw efe; a chydag ef y mae Abiathar yr offeiriad, a Joab mab Serfia. 23 A’r brenin Solomon a dyngodd i’r Arglwydd, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego, onid yn erbyn ei einioes y llefarodd Adoneia y gair hwn. 24 Yn awr gan hynny, fel mai byw yr Arglwydd, yr hwn a’m sicrhaodd i, ac a wnaeth i mi eistedd ar orseddfainc Dafydd fy nhad, yr hwn hefyd a wnaeth i mi dŷ, megis y dywedasai efe: heddiw yn ddiau y rhoddir Adoneia i farwolaeth. 25 A’r brenin Solomon a anfonodd gyda Benaia mab Jehoiada; ac efe a ruthrodd arno ef, fel y bu efe farw.

Read full chapter