1 Brenhinoedd 10:1-10
Beibl William Morgan
10 A phan glybu brenhines Seba glod Solomon am enw yr Arglwydd, hi a ddaeth i’w brofi ef â chwestiynau caled. 2 A hi a ddaeth i Jerwsalem â llu mawr iawn, â chamelod yn dwyn aroglau, ac aur lawer iawn, a meini gwerthfawr. A hi a ddaeth at Solomon, ac a lefarodd wrtho ef yr hyn oll oedd yn ei chalon. 3 A Solomon a fynegodd iddi hi ei holl ofynion: nid oedd dim yn guddiedig rhag y brenin, a’r na fynegodd efe iddi hi. 4 A phan welodd brenhines Seba holl ddoethineb Solomon, a’r tŷ a adeiladasai efe, 5 A bwyd ei fwrdd, ac eisteddiad ei weision, a threfn ei weinidogion, a’u dillad hwynt, a’i drulliadau ef, a’i esgynfa ar hyd yr hon yr âi efe i fyny i dŷ yr Arglwydd; nid oedd mwyach ysbryd ynddi. 6 A hi a ddywedodd wrth y brenin, Gwir yw y gair a glywais yn fy ngwlad am dy ymadroddion di, ac am dy ddoethineb. 7 Eto ni chredais y geiriau, nes i mi ddyfod, ac i’m llygaid weled: ac wele, ni fynegasid i mi yr hanner: mwy yw dy ddoethineb a’th ddaioni na’r clod a glywais i. 8 Gwyn fyd dy wŷr di, gwyn fyd dy weision hyn, y rhai sydd yn sefyll yn wastadol ger dy fron di, yn clywed dy ddoethineb. 9 Bendigedig fyddo yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a’th hoffodd di, i’th roddi ar deyrngadair Israel: oherwydd cariad yr Arglwydd tuag at Israel yn dragywydd, y gosododd efe di yn frenin, i wneuthur barn a chyfiawnder. 10 A hi a roddes i’r brenin chwech ugain talent o aur, a pheraroglau lawer iawn, a meini gwerthfawr. Ni ddaeth y fath beraroglau mwyach, cyn amled â’r rhai a roddodd brenhines Seba i’r brenin Solomon.
Read full chapter
2 Cronicl 9:1-9
Beibl William Morgan
9 A phan glybu brenhines Seba glod Solomon, hi a ddaeth i Jerwsalem, i brofi Solomon â chwestiynau caled, â llu mawr iawn, ac â chamelod yn dwyn aroglau, ac aur lawer, a meini gwerthfawr: a hi a ddaeth at Solomon, ac a ddywedodd wrtho ef yr hyn oll oedd yn ei chalon. 2 A Solomon a fynegodd iddi hi ei holl ofynion: ac nid oedd dim yn guddiedig rhag Solomon a’r na fynegodd efe iddi hi. 3 A phan welodd brenhines Seba ddoethineb Solomon, a’r tŷ a adeiladasai efe, 4 A bwyd ei fwrdd, ac eisteddiad ei weision, a threfn ei weinidogion, a’u dillad, a’i drulliadau ef, a’u gwisgoedd, a’i esgynfa ar hyd yr hon yr âi efe i fyny i dŷ yr Arglwydd; nid oedd mwyach ysbryd ynddi. 5 A hi a ddywedodd wrth y brenin, Gwir yw y gair a glywais yn fy ngwlad, am dy weithredoedd di, ac am dy ddoethineb: 6 Eto ni choeliais i’w geiriau hwynt, nes i mi ddyfod, ac i’m llygaid weled. Ac wele, ni fynegasid i mi hanner helaethrwydd dy ddoethineb: ychwanegaist at y clod a glywais i. 7 Gwyn fyd dy wŷr di, a gwynfydedig yw dy weision hyn, y rhai sydd yn sefyll yn wastadol ger dy fron, ac yn clywed dy ddoethineb. 8 Bendigedig fyddo yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a’th hoffodd di, i’th osod ar ei orseddfa ef, yn frenin dros yr Arglwydd dy Dduw: oherwydd cariad dy Dduw tuag at Israel, i’w sicrhau yn dragywydd; am hynny y gwnaeth efe dydi yn frenin arnynt hwy, i wneuthur barn a chyfiawnder. 9 A hi a roddodd i’r brenin chwech ugain talent o aur, a pheraroglau lawer iawn, a meini gwerthfawr: ac ni bu y fath beraroglau â’r rhai a roddodd brenhines Seba i’r brenin Solomon.
Read full chapter
Mathew 12:42
Beibl William Morgan
42 Brenhines y deau a gyfyd yn y farn gyda’r genhedlaeth hon, ac a’i condemnia hi; am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon: ac wele fwy na Solomon yma.
Read full chapter
Luc 11:31
Beibl William Morgan
31 Brenhines y deau a gyfyd yn y farn gyda gwŷr y genhedlaeth hon, ac a’u condemnia hwynt; am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaear i wrando doethineb Solomon: ac wele un mwy na Solomon yma.
Read full chapterWilliam Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.