Add parallel Print Page Options

Gwir yw’r gair, Od yw neb yn chwennych swydd esgob, gwaith da y mae yn ei chwennych. Rhaid gan hynny i esgob fod yn ddiargyhoedd, yn ŵr un wraig, yn wyliadwrus, yn sobr, yn weddaidd, yn lletygar, yn athrawaidd; Nid yn wingar, nid yn drawydd, nid yn budrelwa; eithr yn dirion, yn anymladdgar, yn ddiariangar; Yn llywodraethu ei dŷ ei hun yn dda, yn dal ei blant mewn ufudd‐dod ynghyd â phob onestrwydd; (Oblegid oni fedr un lywodraethu ei dŷ ei hun, pa fodd y cymer efe ofal dros eglwys Dduw?) Nid yn newyddian yn y ffydd, rhag iddo ymchwyddo, a syrthio i ddamnedigaeth diafol. Ac y mae yn rhaid iddo ef hefyd gael tystiolaeth dda gan y rhai oddi allan; rhag iddo syrthio i waradwydd, ac i fagl diafol. Rhaid i’r diaconiaid yr un ffunud fod yn onest; nid yn ddaueiriog, nid yn ymroi i win lawer, nid yn budrelwa; Yn dala dirgelwch y ffydd mewn cydwybod bur. 10 A phrofer y rhai hynny hefyd yn gyntaf; yna gwasanaethant swydd diaconiaid, os byddant ddiargyhoedd. 11 Y mae’n rhaid i’w gwragedd yr un modd fod yn onest, nid yn enllibaidd, yn sobr, yn ffyddlon ym mhob peth. 12 Bydded y diaconiaid yn wŷr un wraig, yn llywodraethu eu plant a’u tai eu hunain yn dda. 13 Canys y rhai a wasanaethant swydd diaconiaid yn dda, ydynt yn ennill iddynt eu hunain radd dda, a hyfder mawr yn y ffydd sydd yng Nghrist Iesu. 14 Y pethau hyn yr ydwyf yn eu hysgrifennu atat, gan obeithio dyfod atat ar fyrder: 15 Ond os tariaf yn hir, fel y gwypech pa fodd y mae’n rhaid iti ymddwyn yn nhŷ Dduw, yr hwn yw eglwys y Duw byw, colofn a sylfaen y gwirionedd. 16 Ac yn ddi‐ddadl, mawr yw dirgelwch duwioldeb; Duw a ymddangosodd yn y cnawd, a gyfiawnhawyd yn yr Ysbryd, a welwyd gan angylion, a bregethwyd i’r Cenhedloedd, a gredwyd iddo yn y byd, a gymerwyd i fyny mewn gogoniant.