Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Start your day in Scripture. Get the Verse of the Day by email.
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Study resources + Scripture = deeper understanding.
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • News
  • Explore
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
    • Take a Tour
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
News
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
Print PrintSettingsSettingsShare ShareParallelParallelExpandExpandCollapse

1 Pedr 1  Beibl William Morgan

1 Pedr, apostol Iesu Grist, at y dieithriaid sydd ar wasgar ar hyd Pontus, Galatia, Capadocia, Asia, a Bithynia, 2 Etholedigion yn ôl rhagwybodaeth Duw Dad, trwy sancteiddiad yr Ysbryd, i ufudd-dod a thaenelliad gwaed Iesu Grist: Gras i chwi a heddwch a amlhaer. 3 Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn yn ôl ei fawr drugaredd a’n hadgenhedlodd ni i obaith bywiol, trwy atgyfodiad Iesu Grist oddi wrth y meirw, 4 I etifeddiaeth anllygredig, a dihalogedig, a diddiflanedig, ac yng nghadw yn y nefoedd i chwi. 5 Y rhai trwy allu Duw ydych gadwedig trwy ffydd i iachawdwriaeth, parod i’w datguddio yn yr amser diwethaf. 6 Yn yr hyn yr ydych yn mawr lawenhau, er eich bod ychydig yr awron, os rhaid yw, mewn tristwch, trwy amryw brofedigaethau: 7 Fel y caffer profiad eich ffydd chwi, yr hwn sydd werthfawrusach na’r aur colladwy, cyd profer ef trwy dân, er mawl, ac anrhydedd, a gogoniant, yn ymddangosiad Iesu Grist: 8 Yr hwn, er nas gwelsoch, yr ydych yn ei garu; yn yr hwn, heb fod yr awron yn ei weled, ond yn credu, yr ydych yn mawr lawenhau â llawenydd anhraethadwy a gogoneddus: 9 Gan dderbyn diwedd eich ffydd, sef iachawdwriaeth eich eneidiau. 10 Am yr hon iachawdwriaeth yr ymofynnodd, ac y manwl chwiliodd y proffwydi, y rhai a broffwydasant am y gras a ddeuai i chwi: 11 Gan chwilio pa bryd, neu pa ryw amser, yr oedd Ysbryd Crist, yr hwn oedd ynddynt, yn ei hysbysu, pan oedd efe yn rhagdystiolaethu dioddefaint Crist, a’r gogoniant ar ôl hynny. 12 I’r rhai y datguddiwyd, nad iddynt hwy eu hunain, ond i ni, yr oeddynt yn gweini yn y pethau a fynegwyd yn awr i chwi, gan y rhai a efengylasant i chwi trwy’r Ysbryd Glân, yr hwn a ddanfonwyd o’r nef; ar yr hyn bethau y mae’r angylion yn chwenychu edrych. 13 Oherwydd paham, gan wregysu lwynau eich meddwl, a bod yn sobr, gobeithiwch yn berffaith am y gras a ddygir i chwi yn natguddiad Iesu Grist; 14 Fel plant ufudd-dod, heb gydymagweddu â’r trachwantau o’r blaen yn eich anwybodaeth: 15 Eithr megis y mae’r neb a’ch galwodd chwi yn sanctaidd, byddwch chwithau hefyd sanctaidd ym mhob ymarweddiad. 16 Oblegid y mae yn ysgrifenedig, Byddwch sanctaidd; canys sanctaidd ydwyf fi. 17 Ac os ydych yn galw ar y Tad, yr hwn sydd heb dderbyn wyneb yn barnu yn ôl gweithred pob un, ymddygwch mewn ofn dros amser eich ymdeithiad: 18 Gan wybod nad â phethau llygredig, megis arian neu aur, y’ch prynwyd oddi wrth eich ofer ymarweddiad, yr hwn a gawsoch trwy draddodiad y tadau; 19 Eithr â gwerthfawr waed Crist, megis oen difeius a difrycheulyd: 20 Yr hwn yn wir a ragordeiniwyd cyn sylfaenu’r byd, eithr a eglurwyd yn yr amseroedd diwethaf er eich mwyn chwi, 21 Y rhai ydych trwyddo ef yn credu yn Nuw, yr hwn a’i cyfododd ef oddi wrth y meirw, ac a roddodd iddo ef ogoniant, fel y byddai eich ffydd chwi a’ch gobaith yn Nuw. 22 Gwedi puro eich eneidiau, gan ufuddhau i’r gwirionedd trwy’r Ysbryd, i frawdgarwch diragrith, cerwch eich gilydd o galon bur yn helaeth: 23 Wedi eich aileni, nid o had llygredig, eithr anllygredig, trwy air Duw, yr hwn sydd yn byw ac yn parhau yn dragywydd. 24 Canys pob cnawd fel glaswelltyn yw, a holl ogoniant dyn fel blodeuyn y glaswelltyn. Gwywodd y glaswelltyn, a’i flodeuyn a syrthiodd: 25 Eithr gair yr Arglwydd sydd yn aros yn dragywydd. A hwn yw’r gair a bregethwyd i chwi.

Next
Iago 5
1 Pedr 2
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway