Add parallel Print Page Options

14 A Hiram brenin Tyrus a anfonodd genhadau at Dafydd, a choed cedr, a seiri meini, a seiri prennau, i adeiladu iddo ef dŷ. A gwybu Dafydd sicrhau o’r Arglwydd ef yn frenin ar Israel: canys yr oedd ei frenhiniaeth ef wedi ei dyrchafu yn uchel, oherwydd ei bobl Israel.

A chymerth Dafydd wragedd ychwaneg yn Jerwsalem: a Dafydd a genhedlodd feibion ychwaneg, a merched. A dyma enwau y plant oedd iddo ef yn Jerwsalem: Sammua, a Sobab, Nathan, a Solomon, Ac Ibhar, ac Elisua, ac Elpalet, A Noga, a Neffeg, a Jaffa, Ac Elisama, a Beeliada, ac Eliffalet.

A phan glybu y Philistiaid fod Dafydd wedi ei eneinio yn frenin ar holl Israel, y Philistiaid oll a aethant i fyny i geisio Dafydd: a chlybu Dafydd, ac a aeth allan yn eu herbyn hwynt. A’r Philistiaid a ddaethant ac a ymwasgarasant yn nyffryn Reffaim. 10 A Dafydd a ymgynghorodd â Duw, gan ddywedyd, A af fi i fyny yn erbyn y Philistiaid? ac a roddi di hwynt yn fy llaw i? A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Cerdda i fyny, canys mi a’u rhoddaf hwynt yn dy law di. 11 Felly yr aethant i fyny i Baal‐perasim, a Dafydd a’u trawodd hwynt yno. A Dafydd a ddywedodd, Duw a dorrodd i mewn ar fy ngelynion trwy fy llaw i, fel rhwygo dyfroedd: am hynny y galwasant hwy enw y lle hwnnw Baal‐perasim. 12 A phan adawsant hwy eu duwiau, dywedodd Dafydd am eu llosgi hwynt yn tân. 13 A thrachefn eto y Philistiaid a ymwasgarasant yn y dyffryn. 14 A Dafydd a ymgynghorodd â Duw drachefn; a Duw a ddywedodd wrtho, Na ddos i fyny ar eu hôl hwynt, tro ymaith oddi wrthynt, a thyred arnynt ar gyfer y morwydd. 15 A phan glywych drwst cerddediad ym mrig y morwydd, yna dos allan i ryfel: canys y mae Duw wedi myned o’th flaen di, i daro llu y Philistiaid. 16 A gwnaeth Dafydd megis y gorchmynasai Duw iddo; a hwy a drawsant lu y Philistiaid o Gibeon hyd Gaser. 17 Ac enw Dafydd a aeth trwy yr holl wledydd; a’r Arglwydd a roddes ei arswyd ef ar yr holl genhedloedd.