Add parallel Print Page Options

11 Yna holl Israel a ymgasglasant at Dafydd i Hebron, gan ddywedyd, Wele, dy asgwrn a’th gnawd di ydym ni. Doe hefyd, ac echdoe, pan ydoedd Saul yn frenin, tydi oedd yn arwain Israel i mewn ac allan: a dywedodd yr Arglwydd dy Dduw wrthyt, Ti a borthi fy mhobl Israel, a thi a fyddi dywysog ar fy mhobl Israel. A holl henuriaid Israel a ddaethant at y brenin i Hebron, a Dafydd a wnaeth gyfamod â hwynt yn Hebron, gerbron yr Arglwydd; a hwy a eneiniasant Dafydd yn frenin ar Israel, yn ôl gair yr Arglwydd trwy law Samuel.

A Dafydd a holl Israel a aeth i Jerwsalem, hon yw Jebus, ac yno y Jebusiaid oedd drigolion y tir. A thrigolion Jebus a ddywedasant wrth Dafydd, Ni ddeui i mewn yma. Eto Dafydd a enillodd dŵr Seion, yr hwn yw dinas Dafydd. A dywedodd Dafydd, Pwy bynnag a drawo y Jebusiaid yn gyntaf, efe a fydd yn bennaf, ac yn dywysog. Yna yr esgynnodd Joab mab Serfia yn gyntaf, ac a fu bennaf. A thrigodd Dafydd yn y tŵr: oherwydd hynny y galwasant ef Dinas Dafydd. Ac efe a adeiladodd y ddinas oddi amgylch, o Milo amgylch ogylch: a Joab a adgyweiriodd y rhan arall i’r ddinas. A Dafydd a aeth ac a gynyddodd fwyfwy, ac Arglwydd y lluoedd oedd gydag ef.

10 Dyma hefyd benaethiaid y cedyrn oedd gan Dafydd, yn ymgryfhau gydag ef yn ei deyrnas, a chyda holl Israel, i’w wneuthur ef yn frenin ar Israel, yn ôl gair yr Arglwydd. 11 A dyma rif y cedyrn oedd gan Dafydd; Jasobeam mab Hachmoni, pen y capteiniaid: hwn a ddyrchafodd ei waywffon yn erbyn tri chant, y rhai a laddwyd ar unwaith ganddo. 12 Ac ar ei ôl ef Eleasar mab Dodo, yr Ahohiad, hwn oedd un o’r tri chadarn. 13 Hwn oedd gyda Dafydd yn Pasdammim; a’r Philistiaid a ymgynullasant yno i ryfel, ac yr ydoedd rhan o’r maes yn llawn haidd, a’r bobl a ffoesant o flaen y Philistiaid. 14 A hwy a ymosodasant yng nghanol y rhandir honno, ac a’i hachubasant hi, ac a drawsant y Philistiaid: felly y gwaredodd yr Arglwydd hwynt ag ymwared mawr.

15 A thri o’r deg pennaeth ar hugain a ddisgynasant i’r graig at Dafydd, i ogof Adulam; a llu y Philistiaid oedd yn gwersyllu yn nyffryn Reffaim. 16 A Dafydd yna ydoedd yn yr amddiffynfa, a sefyllfa y Philistiaid yna oedd yn Bethlehem. 17 A Dafydd a flysiodd, ac a ddywedodd, O pwy a rydd i mi ddiod ddwfr o bydew Bethlehem, yr hwn sydd wrth y porth? 18 A’r tri a ruthrasant trwy wersyll y Philistiaid, ac a dynasant ddwfr o bydew Bethlehem, yr hwn oedd wrth y porth, ac a’i cymerasant ac a’i dygasant i Dafydd: ac ni fynnai Dafydd ei yfed ef, ond efe a’i diodoffrymodd ef i’r Arglwydd: 19 Ac efe a ddywedodd, Na ato fy Nuw i mi wneuthur hyn. A yfaf fi waed y dynion hyn, a beryglasant eu heinioes? oherwydd mewn enbydrwydd am eu heinioes y dygasant ef: am hynny ni fynnai efe ei yfed. Y tri chadarn a wnaethant hyn.

20 Ac Abisai brawd Joab oedd bennaf o’r tri. A hwn a ysgydwodd ei waywffon yn erbyn tri chant, ac a’u lladdodd hwynt: ac iddo y bu enw ymhlith y tri. 21 O’r tri, anrhydeddusach na’r ddau eraill, a thywysog iddynt, oedd efe: ond ni ddaeth efe hyd y tri cyntaf. 22 Benaia mab Jehoiada, mab gŵr grymus o Cabseel, mawr ei weithredoedd: efe a laddodd ddau o gedyrn Moab; ac efe a ddisgynnodd ac a laddodd lew mewn pydew yn amser eira. 23 Ac efe a laddodd Eifftddyn, gŵr pum cufydd o fesur; ac yn llaw yr Eifftddyn yr oedd gwaywffon megis carfan gwehydd; ac yntau a aeth i waered ato ef â ffon, ac a ddug y waywffon o law yr Eifftddyn, ac a’i lladdodd ef â’i waywffon ei hun. 24 Hyn a wnaeth Benaia mab Jehoiada, ac iddo y bu enw ymhlith y tri chadarn. 25 Wele, anrhydeddus oedd efe ymysg y deg ar hugain, ond at y tri cyntaf ni ddaeth efe: a gosododd Dafydd ef ar ei wŷr o gard.

26 A chedyrn y llu oedd Asahel brawd Joab, Elhanan mab Dodo o Bethlehem, 27 Sammoth yr Harodiad, Heles y Peloniad, 28 Ira mab Icces y Tecoiad, Abieser yr Anthothiad, 29 Sibbechai yr Husathiad, Ilai yr Ahohiad, 30 Maharai y Netoffathiad, Heled mab Baana y Netoffathiad, 31 Ithai mab Ribai o Gibea meibion Benjamin, Benaia y Pirathoniad, 32 Hurai o afonydd Gaas, Abiel yr Arbathiad, 33 Asmafeth y Baharumiad, Eliahba y Saalboniad, 34 Meibion Hasem y Gisoniad, Jonathan mab Sageth yr Harariad, 35 Ahïam mab Sachar yr Harariad, Eliffal mab Ur, 36 Heffer y Mecherathiad, Ahïa y Peloniad, 37 Hesro y Carmeliad, Naarai mab Esbai, 38 Joel brawd Nathan, Mibhar mab Haggeri, 39 Selec yr Ammoniad, Naharai y Berothiad, yr hwn oedd yn dwyn arfau Joab mab Serfia, 40 Ira yr Ithriad, Gareb yr Ithriad, 41 Ureias yr Hethiad, Sabad mab Ahlai, 42 Adina mab Sisa y Reubeniad, pennaeth y Reubeniaid, a chydag ef ddeg ar hugain, 43 Hanan mab Maacha, a Josaffat y Mithniad, 44 Usseia yr Asterathiad, Sama a Jehiel, meibion Hothan yr Aroeriad, 45 Jediael mab Simri, a Joha ei frawd ef, y Tisiad, 46 Eliel y Mahafiad, a Jeribai, a Josafia, meibion Elnaam, ac Ithma y Moabiad, 47 Eliel, ac Obed, a Jasiel y Mesobaiad.