Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Study Bibles + commentaries + Scripture = deeper understanding. Explore Bible Gateway Plus.
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
New Bible Gateway. Take the quick tour.
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • News
  • Explore
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
    • Take a Tour
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
News
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
Print PrintSettingsSettingsShare ShareParallelParallelExpandExpandCollapse

1 Corinthiaid 14  Beibl William Morgan

14 Dilynwch gariad, a deisyfwch ddoniau ysbrydol; ond yn hytrach fel y proffwydoch. 2 Canys yr hwn sydd yn llefaru â thafod dieithr, nid wrth ddynion y mae yn llefaru, ond wrth Dduw; canys nid oes neb yn gwrando; er hynny yn yr ysbryd y mae efe yn llefaru dirgeledigaethau. 3 Eithr yr hwn sydd yn proffwydo, sydd yn llefaru wrth ddynion er adeiladaeth, a chyngor, a chysur. 4 Yr hwn sydd yn llefaru â thafod dieithr, sydd yn ei adeiladu ei hunan: eithr yr hwn sydd yn proffwydo, sydd yn adeiladu yr eglwys. 5 Mi a fynnwn petech chwi oll yn llefaru â thafodau dieithr; ond yn hytrach broffwydo ohonoch: canys mwy yw’r hwn sydd yn proffwydo, na’r hwn sydd yn llefaru â thafodau; oddieithr iddo ei gyfieithu, fel y derbynio yr eglwys adeiladaeth. 6 Ac yr awr hon, frodyr, os deuaf atoch gan lefaru â thafodau, pa lesâd a wnaf i chwi, oni lefaraf wrthych naill ai trwy weledigaeth, neu trwy wybodaeth, neu trwy broffwydoliaeth, neu trwy athrawiaeth? 7 Hefyd pethau dienaid wrth roddi sain, pa un bynnag ai pibell ai telyn, oni roddant wahaniaeth yn y sain, pa wedd y gwybyddir y peth a genir ar y bibell neu ar y delyn? 8 Canys os yr utgorn a rydd sain anhynod, pwy a ymbaratoa i ryfel? 9 Felly chwithau, oni roddwch â’r tafod ymadrodd deallus, pa wedd y gwybyddir y peth a leferir? canys chwi a fyddwch yn llefaru wrth yr awyr. 10 Y mae cymaint, ysgatfydd, o rywogaethau lleisiau yn y byd, ac nid oes un ohonynt yn aflafar. 11 Am hynny, oni wn i rym y llais, myfi a fyddaf farbariad i’r hwn sydd yn llefaru, a’r hwn sydd yn llefaru a fydd i mi yn farbariad. 12 Felly chwithau, gan eich bod yn awyddus i ddoniau ysbrydol, ceisiwch ragori tuag at adeiladaeth yr eglwys. 13 Oherwydd paham, yr hwn sydd yn llefaru â thafod dieithr, gweddïed ar iddo allu cyfieithu. 14 Canys os gweddïaf â thafod dieithr, y mae fy ysbryd yn gweddïo, ond y mae fy neall yn ddiffrwyth. 15 Beth gan hynny? Mi a weddïaf â’r ysbryd, ac a weddïaf â’r deall hefyd: canaf â’r ysbryd, a chanaf â’r deall hefyd. 16 Canys os bendithi â’r ysbryd, pa wedd y dywed yr hwn sydd yn cyflawni lle’r anghyfarwydd, Amen, ar dy ddodiad diolch, gan nas gŵyr beth yr wyt yn ei ddywedyd? 17 Canys tydi yn ddiau ydwyt yn diolch yn dda, ond y llall nid yw yn cael ei adeiladu. 18 Yr ydwyf yn diolch i’m Duw, fy mod i yn llefaru â thafodau yn fwy na chwi oll: 19 Ond yn yr eglwys gwell gennyf lefaru pum gair trwy fy neall, fel y dysgwyf eraill hefyd, na myrddiwn o eiriau mewn tafod dieithr. 20 O frodyr, na fyddwch fechgyn mewn deall; eithr mewn drygioni byddwch blant; ond mewn deall byddwch berffaith. 21 Yn y ddeddf y mae yn ysgrifenedig, Trwy rai estronieithus, a thrwy wefusau estronol, y llefaraf wrth y bobl hyn; ac ni’m gwrandawant felly, medd yr Arglwydd. 22 Am hynny tafodau ydynt arwydd, nid i’r rhai sydd yn credu, ond i’r rhai di‐gred: eithr proffwydoliaeth, nid i’r rhai di‐gred, ond i’r rhai sydd yn credu. 23 Gan hynny os daw’r eglwys oll ynghyd i’r un lle, a llefaru o bawb â thafodau dieithr, a dyfod o rai annysgedig neu ddi‐gred i mewn; oni ddywedant eich bod yn ynfydu? 24 Eithr os proffwyda pawb, a dyfod o un di‐gred neu annysgedig i mewn, efe a argyhoeddir gan bawb, a fernir gan bawb: 25 Ac felly y gwneir dirgelion ei galon ef yn amlwg; ac felly gan syrthio ar ei wyneb, efe a addola Dduw, gan ddywedyd fod Duw yn wir ynoch. 26 Beth gan hynny, frodyr? pan ddeloch ynghyd, y mae gan bob un ohonoch salm, y mae ganddo athrawiaeth, y mae ganddo dafodiaith, y mae ganddo ddatguddiad, y mae ganddo gyfieithiad. Gwneler pob peth er adeiladaeth. 27 Os llefara neb â thafod dieithr, gwneler bob yn ddau, neu o’r mwyaf bob yn dri, a hynny ar gylch; a chyfieithed un. 28 Eithr oni bydd cyfieithydd, tawed yn yr eglwys; eithr llefared wrtho’i hun, ac wrth Dduw. 29 A llefared y proffwydi ddau neu dri, a barned y lleill. 30 Ac os datguddir dim i un arall a fo yn eistedd yno, tawed y cyntaf. 31 Canys chwi a ellwch oll broffwydo bob yn un, fel y dysgo pawb, ac y cysurer pawb. 32 Ac y mae ysbrydoedd y proffwydi yn ddarostyngedig i’r proffwydi. 33 Canys nid yw Duw awdur anghydfod, ond tangnefedd, fel yn holl eglwysi’r saint. 34 Tawed eich gwragedd yn yr eglwysi: canys ni chaniatawyd iddynt lefaru; ond bod yn ddarostyngedig, megis ag y mae’r gyfraith yn dywedyd. 35 Ac os mynnant ddysgu dim, ymofynnant â’u gwŷr gartref: oblegid anweddaidd yw i wragedd lefaru yn yr eglwys. 36 Ai oddi wrthych chwi yr aeth gair Duw allan? neu ai atoch chwi yn unig y daeth efe? 37 Os ydyw neb yn tybied ei fod yn broffwyd, neu yn ysbrydol, cydnabydded y pethau yr wyf yn eu hysgrifennu atoch, mai gorchmynion yr Arglwydd ydynt. 38 Eithr od yw neb heb wybod, bydded heb wybod. 39 Am hynny, frodyr, byddwch awyddus i broffwydo, ac na waherddwch lefaru â thafodau dieithr. 40 Gwneler pob peth yn weddaidd, ac mewn trefn.

Next
1 Corinthiaid 13
1 Corinthiaid 15
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway