Add parallel Print Page Options

Hiram hefyd brenin Tyrus a anfonodd ei weision at Solomon; canys clybu eneinio ohonynt hwy ef yn frenin yn lle ei dad: canys hoff oedd gan Hiram Dafydd bob amser. A Solomon a anfonodd at Hiram, gan ddywedyd, Ti a wyddost am Dafydd fy nhad, na allai efe adeiladu tŷ i enw yr Arglwydd ei Dduw, gan y rhyfeloedd oedd o’i amgylch ef, nes rhoddi o’r Arglwydd hwynt dan wadnau ei draed ef. Eithr yn awr yr Arglwydd fy Nuw a roddodd i mi lonydd oddi amgylch, fel nad oes na gwrthwynebydd, nac ymgyfarfod niweidiol. Ac wele fi â’m bryd ar adeiladu tŷ i enw yr Arglwydd fy Nuw; megis y llefarodd yr Arglwydd wrth Dafydd fy nhad, gan ddywedyd, Dy fab, yr hwn a osodaf fi yn dy le di ar dy orseddfainc di, efe a adeilada dŷ i’m henw i. Yn awr, gan hynny, gorchymyn dorri ohonynt i mi gedrwydd o Libanus; a’m gweision i a fyddant gyda’th weision di: a rhoddaf atat gyflog dy weision, yn ôl yr hyn a ddywedych: canys ti a wyddost nad oes yn ein plith ni ŵr a fedro gymynu coed megis y Sidoniaid.

A bu, pan glybu Hiram eiriau Solomon, lawenychu ohono ef yn ddirfawr, a dywedyd, Bendigedig yw yr Arglwydd heddiw, yr hwn a roddes i Dafydd fab doeth ar y bobl luosog yma. A Hiram a anfonodd at Solomon, gan ddywedyd, Gwrandewais ar yr hyn a anfonaist ataf: mi a wnaf dy holl ewyllys di am goed cedrwydd, a choed ffynidwydd. Fy ngweision a’u dygant i waered o Libanus hyd y môr: a mi a’u gyrraf hwynt yn gludeiriau ar hyd y môr, hyd y fan a osodych di i mi; ac yno y datodaf hwynt, a chymer di hwynt: ond ti a wnei fy ewyllys innau, gan roddi ymborth i’m teulu i. 10 Felly yr oedd Hiram yn rhoddi i Solomon o goed cedrwydd, ac o goed ffynidwydd, ei holl ddymuniad. 11 A Solomon a roddodd i Hiram ugain mil corus o wenith yn gynhaliaeth i’w dŷ, ac ugain corus o olew coeth: felly y rhoddai Solomon i Hiram bob blwyddyn. 12 A’r Arglwydd a roddes ddoethineb i Solomon, fel y dywedasai wrtho: a bu heddwch rhwng Hiram a Solomon; a hwy a wnaethant gyfamod ill dau.

13 A’r brenin Solomon a gyfododd dreth o holl Israel, a’r dreth oedd ddeng mil ar hugain o wŷr. 14 Ac efe a’u hanfonodd hwynt i Libanus, deng mil yn y mis ar gylch: mis y byddent yn Libanus, a dau fis gartref. Ac Adoniram oedd ar y dreth. 15 Ac yr oedd gan Solomon ddeng mil a thrigain yn dwyn beichiau, a phedwar ugain mil yn naddu cerrig yn y mynydd; 16 Heb law pen‐swyddogion Solomon, y rhai oedd ar y gwaith, sef tair mil a thri chant, yn llywodraethu y bobl a weithient yn y gwaith. 17 A’r brenin a orchmynnodd ddwyn ohonynt hwy feini mawr, a meini costus, a meini nadd, i sylfaenu y tŷ. 18 Felly seiri Solomon, a seiri Hiram, a’r Gibliaid, a naddasant, ac a ddarparasant goed a cherrig i adeiladu’r tŷ.

Preparations for Building the Temple(A)

[a]When Hiram(B) king of Tyre heard that Solomon had been anointed king to succeed his father David, he sent his envoys to Solomon, because he had always been on friendly terms with David. Solomon sent back this message to Hiram:

“You know that because of the wars(C) waged against my father David from all sides, he could not build(D) a temple for the Name of the Lord his God until the Lord put his enemies under his feet.(E) But now the Lord my God has given me rest(F) on every side, and there is no adversary(G) or disaster. I intend, therefore, to build a temple(H) for the Name of the Lord my God, as the Lord told my father David, when he said, ‘Your son whom I will put on the throne in your place will build the temple for my Name.’(I)

“So give orders that cedars(J) of Lebanon be cut for me. My men will work with yours, and I will pay you for your men whatever wages you set. You know that we have no one so skilled in felling timber as the Sidonians.”

When Hiram heard Solomon’s message, he was greatly pleased and said, “Praise be to the Lord(K) today, for he has given David a wise son to rule over this great nation.”

So Hiram sent word to Solomon:

“I have received the message you sent me and will do all you want in providing the cedar and juniper logs. My men will haul them down from Lebanon to the Mediterranean Sea(L), and I will float them as rafts by sea to the place you specify. There I will separate them and you can take them away. And you are to grant my wish by providing food(M) for my royal household.”

10 In this way Hiram kept Solomon supplied with all the cedar and juniper logs he wanted, 11 and Solomon gave Hiram twenty thousand cors[b] of wheat as food(N) for his household, in addition to twenty thousand baths[c][d] of pressed olive oil. Solomon continued to do this for Hiram year after year. 12 The Lord gave Solomon wisdom,(O) just as he had promised him. There were peaceful relations between Hiram and Solomon, and the two of them made a treaty.(P)

13 King Solomon conscripted laborers(Q) from all Israel—thirty thousand men. 14 He sent them off to Lebanon in shifts of ten thousand a month, so that they spent one month in Lebanon and two months at home. Adoniram(R) was in charge of the forced labor. 15 Solomon had seventy thousand carriers and eighty thousand stonecutters in the hills, 16 as well as thirty-three hundred[e] foremen(S) who supervised the project and directed the workers. 17 At the king’s command they removed from the quarry(T) large blocks of high-grade stone(U) to provide a foundation of dressed stone for the temple. 18 The craftsmen of Solomon and Hiram(V) and workers from Byblos(W) cut and prepared the timber and stone for the building of the temple.

Footnotes

  1. 1 Kings 5:1 In Hebrew texts 5:1-18 is numbered 5:15-32.
  2. 1 Kings 5:11 That is, probably about 3,600 tons or about 3,250 metric tons
  3. 1 Kings 5:11 Septuagint (see also 2 Chron. 2:10); Hebrew twenty cors
  4. 1 Kings 5:11 That is, about 120,000 gallons or about 440,000 liters
  5. 1 Kings 5:16 Hebrew; some Septuagint manuscripts (see also 2 Chron. 2:2,18) thirty-six hundred