Add parallel Print Page Options

16 Ac yn y bumed flwyddyn i Joram mab Ahab brenin Israel, a Jehosaffat yn frenin yn Jwda, y dechreuodd Jehoram mab Jehosaffat brenin Jwda deyrnasu. 17 Mab deuddeng mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu; ac wyth mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. 18 Ac efe a rodiodd yn ffordd brenhinoedd Israel, fel y gwnâi tŷ Ahab: canys merch Ahab oedd yn wraig iddo: felly efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd. 19 Ond ni fynnai yr Arglwydd ddifetha Jwda, er mwyn Dafydd ei was; megis yr addawsai efe, y rhoddai iddo oleuni, ac i’w feibion yn dragywydd.

20 Yn ei ddyddiau ef y gwrthryfelodd Edom oddi tan law Jwda, ac y gosodasant frenin arnynt eu hunain. 21 A Joram a aeth trosodd i Sair, a’r holl gerbydau gydag ef; ac efe a gyfododd liw nos, ac a drawodd yr Edomiaid oedd yn ei amgylchu ef, a thywysogion y cerbydau: a’r bobl a ffodd i’w pebyll. 22 Er hynny Edom a wrthryfelodd oddi tan law Jwda hyd y dydd hwn. Yna y gwrthryfelodd Libna y pryd hwnnw. 23 A’r rhan arall o hanes Joram, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? 24 A Joram a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd; ac Ahaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

25 Yn y ddeuddegfed flwyddyn i Joram mab Ahab brenin Israel yr aeth Ahaseia mab Jehoram brenin Jwda yn frenin. 26 Mab dwy flwydd ar hugain oedd Ahaseia pan aeth efe yn frenin; ac un flwyddyn y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Athaleia, merch Omri brenin Israel. 27 Ac efe a rodiodd yn ffordd tŷ Ahab, ac a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, fel tŷ Ahab: canys daw tŷ Ahab ydoedd efe.

28 Ac efe a aeth gyda Joram mab Ahab i ryfel yn erbyn Hasael brenin Syria i Ramoth‐Gilead; a’r Syriaid a drawsant Joram. 29 A Joram y brenin a ddychwelodd i Jesreel i ymiacháu o’r briwiau a roesai y Syriaid iddo ef yn Rama, wrth ymladd ohono ef yn erbyn Hasael brenin Syria: ac Ahaseia mab Jehoram brenin Jwda a aeth i waered i ymweled â Joram mab Ahab yn Jesreel; canys claf ydoedd.

Ac Eliseus y proffwyd a alwodd un o feibion y proffwydi, ac a ddywedodd wrtho, Gwregysa dy lwynau, a chymer y ffiolaid olew hon yn dy law, a dos i Ramoth‐Gilead. A phan ddelych yno, edrych yno am Jehu mab Jehosaffat, mab Nimsi; a dos i mewn, a phâr iddo godi o fysg ei frodyr, a dwg ef i ystafell ddirgel: Yna cymer y ffiolaid olew, a thywallt ar ei ben ef, a dywed, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Mi a’th eneiniais di yn frenin ar Israel; yna agor y drws, a ffo, ac nac aros.

Felly y llanc, sef llanc y proffwyd, a aeth i Ramoth‐Gilead. A phan ddaeth efe, wele, tywysogion y llu oedd yn eistedd: ac efe a ddywedodd, Y mae i mi air â thi, O dywysog. A dywedodd Jehu, A pha un ohonom ni oll? Dywedodd yntau, A thydi, O dywysog. Ac efe a gyfododd, ac a aeth i mewn i’r tŷ: ac yntau a dywalltodd yr olew ar ei ben ef, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel; Myfi a’th eneiniais di yn frenin ar bobl yr Arglwydd, sef ar Israel. A thi a drewi dŷ Ahab dy arglwydd; fel y dialwyf fi waed fy ngweision y proffwydi, a gwaed holl weision yr Arglwydd, ar law Jesebel. Canys holl dŷ Ahab a ddifethir: a mi a dorraf ymaith oddi wrth Ahab bob gwryw, y gwarchaeëdig hefyd, a’r hwn a adawyd yn Israel. A mi a wnaf dŷ Ahab fel tŷ Jeroboam mab Nebat, ac fel tŷ Baasa mab Ahïa. 10 A’r cŵn a fwytânt Jesebel yn rhandir Jesreel, ac ni bydd a’i claddo hi. Ac efe a agorodd y drws, ac a ffodd.

11 A Jehu a aeth allan at weision ei arglwydd, a dywedwyd wrtho ef, A yw pob peth yn dda? paham y daeth yr ynfyd hwn atat ti? Dywedodd yntau wrthynt, Chwi a adwaenoch y gŵr, a’i ymadroddion. 12 Dywedasant hwythau, Celwydd; mynega yn awr i ni. Dywedodd yntau, Fel hyn ac fel hyn y llefarodd wrthyf, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Mi a’th eneiniais di yn frenin ar Israel. 13 A hwy a frysiasant, ac a gymerasant bob un ei wisg, ac a’i gosodasant dano ef ar ben uchaf y grisiau, ac a ganasant mewn utgorn, ac a ddywedasant, Jehu sydd frenin. 14 A Jehu mab Jehosaffat mab Nimsi a gydfwriadodd yn erbyn Joram: (a Joram oedd yn cadw Ramoth‐Gilead, efe a holl Israel, rhag Hasael brenin Syria: 15 Ond Joram y brenin a ddychwelasai i ymiacháu i Jesreel, o’r archollion â’r rhai yr archollasai y Syriaid ef wrth ymladd ohono yn erbyn Hasael brenin Syria.) A dywedodd Jehu, Os mynnwch chwi, nac eled un dihangol o’r ddinas i fyned i fynegi i Jesreel. 16 Felly Jehu a farchogodd mewn cerbyd, ac a aeth i Jesreel; canys Joram oedd yn gorwedd yno. Ac Ahaseia brenin Jwda a ddaethai i waered i ymweled â Joram. 17 A gwyliwr oedd yn sefyll ar y tŵr yn Jesreel, ac a ganfu fintai Jehu pan oedd efe yn dyfod, ac a ddywedodd, Yr ydwyf yn gweled mintai. A Joram a ddywedodd, Cymer ŵr march, ac anfon i’w cyfarfod hwynt, a dyweded, Ai heddwch? 18 A gŵr march a aeth i’w gyfarfod ef, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywed y brenin, A oes heddwch? A dywedodd Jehu, Beth sydd i ti a ofynnych am heddwch? tro yn fy ôl i. A’r gwyliwr a fynegodd, gan ddywedyd, Y gennad a ddaeth hyd atynt hwy, ond nid yw efe yn dychwelyd. 19 Yna efe a anfonodd yr ail ŵr march, ac efe a ddaeth atynt hwy, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd y brenin, A oes heddwch? A dywedodd Jehu, Beth sydd i ti a ofynnych am heddwch? tro yn fy ôl i. 20 A’r gwyliwr a fynegodd, gan ddywedyd, Efe a ddaeth hyd atynt hwy, ond nid yw efe yn dychwelyd: a’r gyriad sydd fel gyriad Jehu mab Nimsi; canys y mae efe yn gyrru yn ynfyd. 21 A Joram a ddywedodd, Rhwym y cerbyd. Yntau a rwymodd ei gerbyd ef. A Joram brenin Israel a aeth allan, ac Ahaseia brenin Jwda, pob un yn ei gerbyd, a hwy a aethant yn erbyn Jehu, a chyfarfuant ag ef yn rhandir Naboth y Jesreeliad. 22 A phan welodd Joram Jehu, efe a ddywedodd, A oes heddwch, Jehu? Dywedodd yntau, Pa heddwch tra fyddo puteindra Jesebel dy fam di, a’i hudoliaeth, mor aml? 23 A Joram a drodd ei law, ac a ffodd, ac a ddywedodd wrth Ahaseia, Y mae bradwriaeth, O Ahaseia. 24 A Jehu a gymerth fwa yn ei law, ac a drawodd Joram rhwng ei ysgwyddau, fel yr aeth y saeth trwy ei galon ef, ac efe a syrthiodd yn ei gerbyd. 25 A Jehu a ddywedodd wrth Bidcar ei dywysog, Cymer, bwrw ef i randir maes Naboth y Jesreeliad: canys cofia pan oeddem ni, mi a thi, yn marchogaeth ynghyd ein dau ar ôl Ahab ei dad ef, roddi o’r Arglwydd arno ef y baich hwn. 26 Diau, meddai yr Arglwydd, gwaed Naboth, a gwaed ei feibion, a welais i neithiwr, a mi a dalaf i ti yn y rhandir hon, medd yr Arglwydd. Gan hynny cymer a bwrw ef yn awr yn y rhandir hon, yn ôl gair yr Arglwydd.

27 Ond pan welodd Ahaseia brenin Jwda hynny, efe a ffodd ar hyd ffordd tŷ yr ardd. A Jehu a ymlidiodd ar ei ôl ef, ac a ddywedodd, Trewch hwn hefyd yn ei gerbyd. A hwy a’i trawsant ef yn rhiw Gur, yr hon sydd wrth Ibleam; ac efe a ffodd i Megido, ac a fu farw yno. 28 A’i weision a’i dygasant ef mewn cerbyd i Jerwsalem, ac a’i claddasant ef yn ei feddrod gyda’i dadau, yn ninas Dafydd. 29 Ac yn yr unfed flwyddyn ar ddeg i Joram mab Ahab yr aethai Ahaseia yn frenin ar Jwda.

30 A phan ddaeth Jehu i Jesreel, Jesebel a glybu hynny, ac a golurodd ei hwyneb, ac a wisgodd yn wych am ei phen, ac a edrychodd trwy ffenestr. 31 A phan oedd Jehu yn dyfod i mewn i’r porth, hi a ddywedodd, A fu heddwch i Simri, yr hwn a laddodd ei feistr? 32 Ac efe a ddyrchafodd ei wyneb at y ffenestr, ac a ddywedodd, Pwy sydd gyda mi, pwy? A dau neu dri o’r ystafellyddion a edrychasant arno ef. 33 Yntau a ddywedodd, Teflwch hi i lawr. A hwy a’i taflasant hi i lawr; a thaenellwyd peth o’i gwaed hi ar y pared, ac ar y meirch: ac efe a’i mathrodd hi. 34 A phan ddaeth efe i mewn, efe a fwytaodd ac a yfodd, ac a ddywedodd, Edrychwch am y wraig felltigedig honno, a chleddwch hi; canys merch brenin ydyw hi. 35 A hwy a aethant i’w chladdu hi; ond ni chawsant ohoni onid y benglog a’r traed, a chledrau’r dwylo. 36 Am hynny hwy a ddychwelasant, ac a fynegasant iddo ef. Dywedodd yntau, Dyma air yr Arglwydd, yr hwn a lefarodd efe trwy law ei wasanaethwr Eleias y Thesbiad, gan ddywedyd, Yn rhandir Jesreel y bwyty y cŵn gnawd Jesebel: 37 A chelain Jesebel a fydd fel tomen ar wyneb y maes, yn rhandir Jesreel; fel na ellir dywedyd, Dyma Jesebel.

10 Ac i Ahab yr oedd deng mab a thrigain yn Samaria. A Jehu a ysgrifennodd lythyrau, ac a anfonodd i Samaria, at dywysogion Jesreel, ac at yr henuriaid, ac at dadmaethod Ahab, gan ddywedyd, Ac yn awr pan ddêl y llythyr hwn atoch chwi, canys gyda chwi y mae meibion eich arglwydd, a chennych chwi y mae cerbydau, a meirch, a dinasoedd caerog, ac arfau: Yna edrychwch yr hwn sydd orau, ac yn gymhwysaf o feibion eich arglwydd, a gosodwch ef ar deyrngadair ei dad, ac ymleddwch dros dŷ eich arglwydd. A hwy a ofnasant yn ddirfawr, ac a ddywedasant, Wele, dau frenin ni safasant o’i flaen ef: pa fodd gan hynny y safwn ni? Am hynny yr anfonodd yr hwn oedd ar y tŷ, a’r hwn oedd ar y ddinas, a’r henuriaid, a’r tadmaethod, at Jehu, gan ddywedyd, Dy weision di ydym ni, a’r hyn oll a ddywedych di wrthym a wnawn ni; ni wnawn ni neb yn frenin: gwna yr hyn a fyddo da yn dy olwg. Yna efe a ysgrifennodd yr ail lythyr atynt hwy, gan ddywedyd, Os eiddof fi fyddwch, ac os ar fy llais i y gwrandewch, cymerwch bennau y gwŷr, meibion eich arglwydd, a deuwch ataf fi y pryd hwn yfory i Jesreel. A meibion y brenin, sef deng nyn a thrigain, oedd gyda phenaethiaid y ddinas, y rhai oedd yn eu meithrin hwynt. A phan ddaeth y llythyr atynt, hwy a gymerasant feibion y brenin, ac a laddasant ddeng nyn a thrigain, ac a osodasant eu pennau hwynt mewn basgedau, ac a’u danfonasant ato ef i Jesreel.

A chennad a ddaeth ac a fynegodd iddo ef, gan ddywedyd, Hwy a ddygasant bennau meibion y brenin. Dywedodd yntau, Gosodwch hwynt yn ddau bentwr wrth ddrws y porth hyd y bore. A’r bore efe a aeth allan, ac a safodd, ac a ddywedodd wrth yr holl bobl, Cyfiawn ydych chwi: wele, myfi a gydfwriedais yn erbyn fy arglwydd, ac a’i lleddais ef: ond pwy a laddodd yr holl rai hyn? 10 Gwybyddwch yn awr na syrth dim o air yr Arglwydd i’r ddaear, yr hwn a lefarodd yr Arglwydd am dŷ Ahab: canys gwnaeth yr Arglwydd yr hyn a lefarodd efe trwy law Eleias ei was. 11 Felly Jehu a drawodd holl weddillion tŷ Ahab yn Jesreel, a’i holl benaethiaid ef, a’i gyfneseifiaid ef, a’i offeiriaid, fel na adawyd un yng ngweddill.

12 Ac efe a gyfododd, ac a aeth ymaith hefyd, ac a ddaeth i Samaria. Ac fel yr oedd efe wrth dŷ cneifio y bugeiliaid ar y ffordd, 13 Jehu a gyfarfu â brodyr Ahaseia brenin Jwda, ac a ddywedodd, Pwy ydych chwi? Dywedasant hwythau, Brodyr Ahaseia ydym ni; a ni a ddaethom i waered i gyfarch gwell i feibion y brenin, ac i feibion y frenhines. 14 Ac efe a ddywedodd, Deliwch hwynt yn fyw. A hwy a’u daliasant hwy yn fyw, ac a’u lladdasant hwy wrth bydew y tŷ cneifio, sef dau ŵr a deugain, ac ni adawodd efe ŵr ohonynt.

15 A phan aethai efe oddi yno, efe a gyfarfu â Jehonadab mab Rechab yn cyfarfod ag ef, ac a gyfarchodd well iddo, ac a ddywedodd wrtho, A yw dy galon di yn uniawn, fel y mae fy nghalon i gyda’th galon di? A dywedodd Jehonadab, Ydyw. Od ydyw, eb efe, moes dy law. Rhoddodd yntau ei law, ac efe a barodd iddo ddyfod i fyny ato i’r cerbyd. 16 Ac efe a ddywedodd, Tyred gyda mi, a gwêl fy sêl i tuag at yr Arglwydd. Felly hwy a wnaethant iddo farchogaeth yn ei gerbyd ef. 17 A phan ddaeth efe i Samaria, efe a drawodd yr holl rai a adawsid i Ahab yn Samaria, nes iddo ei ddinistrio ef, yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarasai efe wrth Eleias.

18 A Jehu a gynullodd yr holl bobl ynghyd, ac a ddywedodd wrthynt, Ahab a wasanaethodd Baal ychydig, ond Jehu a’i gwasanaetha ef lawer. 19 Ac yn awr gelwch ataf fi holl broffwydi Baal, ei holl weision, a’i holl offeiriaid ef, na fydded un yn eisiau; canys aberth mawr sydd gennyf i Baal: pwy bynnag a fyddo yn eisiau, ni bydd efe byw. Ond Jehu a wnaeth hyn mewn cyfrwystra, fel y difethai efe addolwyr Baal. 20 A Jehu a ddywedodd, Cyhoeddwch gymanfa sanctaidd i Baal. A hwy a’i cyhoeddasant. 21 A Jehu a anfonodd trwy holl Israel; a holl addolwyr Baal a ddaethant, ac nid oedd un yn eisiau a’r ni ddaethai: a hwy a ddaethant i dŷ Baal, a llanwyd tŷ Baal o ben bwygilydd. 22 Ac efe a ddywedodd wrth yr hwn oedd geidwad ar y gwisgoedd, Dwg allan wisgoedd i holl addolwyr Baal. Ac efe a ddug wisgoedd iddynt. 23 A Jehu a aeth i mewn, a Jehonadab mab Rechab, i dŷ Baal, ac a ddywedodd wrth addolwyr Baal, Chwiliwch ac edrychwch, rhag bod yma gyda chwi neb o weision yr Arglwydd, ond addolwyr Baal yn unig. 24 A phan ddaethant i mewn i wneuthur aberthau, a phoethoffrymau, Jehu a osododd iddo allan bedwar ugeinwr, ac a ddywedodd, Os dianc yr un o’r dynion a ddygais i’ch dwylo chwi, einioes yr hwn y dihango ganddo fydd am ei einioes ef. 25 A phan orffennodd efe wneuthur y poethoffrwm, Jehu a ddywedodd wrth y swyddogion a’r tywysogion, Ewch i mewn, lleddwch hwynt, na ddeled neb allan. Felly hwy a’u trawsant hwy â min y cleddyf: a’r swyddogion a’r tywysogion a’u taflasant hwy allan, ac a aethant i ddinas tŷ Baal. 26 A hwy a ddygasant allan ddelwau tŷ Baal, ac a’u llosgasant hwy. 27 A hwy a ddistrywiasant ddelw Baal, ac a ddinistriasant dŷ Baal, ac a’i gwnaethant ef yn domdy hyd heddiw. 28 Felly y dileodd Jehu Baal allan o Israel.

29 Eto pechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu, ni throdd Jehu oddi wrthynt hwy, sef oddi wrth y lloi aur oedd yn Bethel, a’r rhai oedd yn Dan. 30 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Jehu, Oherwydd i ti wneuthur yn dda, gan wneuthur yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg i, yn ôl yr hyn oll a’r a oedd yn fy nghalon i y gwnaethost i dŷ Ahab, meibion y bedwaredd genhedlaeth i ti a eisteddant ar orseddfainc Israel. 31 Ond nid edrychodd Jehu am rodio yng nghyfraith Arglwydd Dduw Israel â’i holl galon: canys ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.

32 Yn y dyddiau hynny y dechreuodd yr Arglwydd dorri cyrrau Israel: a Hasael a’u trawodd hwynt yn holl derfynau Israel; 33 O’r Iorddonen tua chodiad haul, sef holl wlad Gilead, y Gadiaid, a’r Reubeniaid, a’r Manassiaid, o Aroer, yr hon sydd wrth afon Arnon, Gilead a Basan hefyd. 34 A’r rhan arall o hanes Jehu, a’r hyn oll a’r a wnaeth efe, a’i holl gadernid ef; onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel? 35 A Jehu a hunodd gyda’i dadau, a chladdwyd ef yn Samaria, a Joahas ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. 36 A’r dyddiau y teyrnasodd Jehu ar Israel yn Samaria oedd wyth mlynedd ar hugain.

11 A phan welodd Athaleia mam Ahaseia farw o’i mab, hi a gyfododd, ac a ddifethodd yr holl had brenhinol. Ond Joseba merch y brenin Joram, chwaer Ahaseia, a gymerth Joas mab Ahaseia, ac a’i lladrataodd ef o fysg meibion y brenin y rhai a laddwyd: a hwy a’i cuddiasant ef a’i famaeth yn ystafell y gwelyau, rhag Athaleia, fel na laddwyd ef. Ac efe a fu gyda hi ynghudd yn nhŷ yr Arglwydd chwe blynedd: ac Athaleia oedd yn teyrnasu ar y wlad.

Ac yn y seithfed flwyddyn yr anfonodd Jehoiada, ac y cymerth dywysogion y cannoedd, a’r capteiniaid, a’r swyddogion, ac a’u dug hwynt i mewn ato i dŷ yr Arglwydd, ac a wnaeth â hwynt gyfamod, ac a wnaeth iddynt dyngu yn nhŷ yr Arglwydd, ac a ddangosodd iddynt fab y brenin. Ac efe a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Dyma’r peth a wnewch chwi; Trydedd ran ohonoch sydd yn dyfod i mewn ar y Saboth, a gadwant wyliadwriaeth tŷ y brenin: A thrydedd ran fydd ym mhorth Sur: a thrydedd ran yn y porth o’r tu ôl i’r swyddogion: felly y cedwch wyliadwriaeth y tŷ rhag ei dorri. A deuparth ohonoch oll sydd yn myned allan ar y Saboth, a gadwant wyliadwriaeth tŷ yr Arglwydd, ynghylch y brenin. A chwi a amgylchynwch y brenin o bob parth, pob un â’i arfau yn ei law; a’r hwn a ddelo i’r rhesau, lladder ef: a byddwch gyda’r brenin pan elo efe allan, a phan ddelo efe i mewn. A thywysogion y cannoedd a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Jehoiada yr offeiriad, a chymerasant bawb eu gwŷr y rhai oedd yn dyfod i mewn ar y Saboth, gyda’r rhai oedd yn myned allan ar y Saboth; ac a ddaethant at Jehoiada yr offeiriad. 10 A’r offeiriad a roddodd i dywysogion y cannoedd waywffyn a tharianau y brenin Dafydd, y rhai oedd yn nhŷ yr Arglwydd. 11 A’r swyddogion a safasant bob un â’i arfau yn ei law, o’r tu deau i’r tŷ, hyd y tu aswy i’r tŷ, wrth yr allor a’r tŷ, amgylch ogylch y brenin. 12 Ac efe a ddug allan fab y brenin, ac a roddodd y goron arno ef, a’r dystiolaeth: a hwy a’i hurddasant ef yn frenin, ac a’i heneiniasant ef; curasant hefyd eu dwylo, a dywedasant, Byw fyddo’r brenin.

13 A phan glybu Athaleia drwst y bobl yn rhedeg, hi a ddaeth i mewn at y bobl i dŷ yr Arglwydd. 14 A phan edrychodd hi, wele, y brenin oedd yn sefyll wrth y golofn yn ôl yr arfer, a’r tywysogion a’r utgyrn yn ymyl y brenin, a holl bobl y wlad yn llawen, ac yn canu mewn utgyrn. Ac Athaleia a rwygodd ei dillad, ac a waeddodd, Bradwriaeth, bradwriaeth! 15 A Jehoiada yr offeiriad a orchmynnodd i dywysogion y cannoedd, y rhai oedd wedi eu gosod ar y llu, ac a ddywedodd wrthynt, Dygwch hi o’r tu allan i’r rhesau; a’r hwn a ddelo ar ei hôl hi, lladder ef â’r cleddyf: canys dywedasai yr offeiriad, Na ladder hi yn nhŷ yr Arglwydd. 16 A hwy a osodasant ddwylo arni hi, a hi a aeth ar hyd y ffordd feirch i dŷ y brenin, ac yno y lladdwyd hi.