Add parallel Print Page Options

11 Am hynny y dywedodd Nathan wrth Bathseba mam Solomon, gan ddywedyd, Oni chlywaist ti fod Adoneia mab Haggith yn teyrnasu, a’n harglwydd Dafydd heb wybod hynny? 12 Tyred gan hynny yn awr, atolwg, rhoddaf i ti gyngor, fel yr achubych dy einioes dy hun, ac einioes Solomon dy fab. 13 Dos, a cherdda i mewn at y brenin Dafydd, a dywed wrtho, Oni thyngaist ti, fy arglwydd frenin, wrth dy wasanaethwraig, gan ddywedyd, Solomon dy fab di a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc i? paham gan hynny y mae Adoneia yn teyrnasu? 14 Wele, tra fyddych yno eto yn llefaru wrth y brenin, minnau a ddeuaf i mewn ar dy ôl di, ac a sicrhaf dy eiriau di.

15 A Bathseba a aeth i mewn at y brenin, i’r ystafell. A’r brenin oedd hen iawn; ac Abisag y Sunamees oedd yn gwasanaethu’r brenin. 16 A Bathseba a ostyngodd ei phen, ac a ymgrymodd i’r brenin. A’r brenin a ddywedodd, Beth a fynni di? 17 Hithau a ddywedodd wrtho, Fy arglwydd, ti a dyngaist i’r Arglwydd dy Dduw wrth dy wasanaethyddes, gan ddywedyd, Solomon dy fab a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc i: 18 Ac yn awr, wele, Adoneia sydd frenin; ac yr awr hon, fy arglwydd frenin, nis gwyddost ti hyn. 19 Ac efe a laddodd wartheg, ac anifeiliaid breision, a defaid lawer iawn, ac a wahoddodd holl feibion y brenin, ac Abiathar yr offeiriad, a Joab tywysog y filwriaeth: ond dy was Solomon ni wahoddodd efe. 20 Tithau, fy arglwydd frenin, y mae llygaid holl Israel arnat ti, am fynegi iddynt pwy a eistedd ar orseddfainc fy arglwydd y brenin ar ei ôl ef. 21 Os amgen, pan orweddo fy arglwydd frenin gyda’i dadau, yna y cyfrifir fi a’m mab Solomon yn bechaduriaid.

22 Ac wele, tra yr oedd hi eto yn ymddiddan â’r brenin, y daeth Nathan y proffwyd hefyd i mewn. 23 A hwy a fynegasant i’r brenin, gan ddywedyd, Wele Nathan y proffwyd. Ac efe a aeth i mewn o flaen y brenin, ac a ymgrymodd i’r brenin â’i wyneb hyd lawr. 24 A dywedodd Nathan, Fy arglwydd frenin, a ddywedaist ti, Adoneia a deyrnasa ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc? 25 Canys efe a aeth i waered heddiw, ac a laddodd ychen, ac anifeiliaid breision, a defaid lawer, ac a wahoddodd holl feibion y brenin, a thywysogion y filwriaeth, ac Abiathar yr offeiriad; ac wele hwynt yn bwyta ac yn yfed o’i flaen ef, ac y maent yn dywedyd, Bydded fyw y brenin Adoneia. 26 Ond myfi dy was, a Sadoc yr offeiriad, a Benaia mab Jehoiada, a’th was Solomon, ni wahoddodd efe. 27 Ai trwy fy arglwydd frenin y bu y peth hyn, heb ddangos ohonot i’th was, pwy a eistedd ar orseddfainc fy arglwydd y brenin ar ei ôl ef?

28 A’r brenin Dafydd a atebodd ac a ddywedodd, Gelwch Bathseba ataf fi. A hi a ddaeth o flaen y brenin, ac a safodd gerbron y brenin. 29 A’r brenin a dyngodd, ac a ddywedodd, Fel y mae yr Arglwydd yn fyw, yr hwn a waredodd fy enaid i allan o bob cyfyngder, 30 Yn ddiau megis y tyngais wrthyt ti i Arglwydd Dduw Israel, gan ddywedyd, Solomon dy fab a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc i yn fy lle i; felly y gwnaf y dydd hwn. 31 Yna Bathseba a ostyngodd ei phen a’i hwyneb i lawr, ac a ymgrymodd i’r brenin, ac a ddywedodd, Bydded fy arglwydd frenin Dafydd fyw byth.

Read full chapter