耶穌在彼拉多面前受審

15 清早,祭司長、長老、律法教師和全公會的人商定後,便把耶穌綁起來押送到彼拉多那裡。

彼拉多問耶穌:「你是猶太人的王嗎?」

耶穌回答說:「如你所言。」

祭司長控告耶穌許多罪。

彼拉多又問道:「你看,他們控告你這麼多,你都不回答嗎?」

耶穌仍舊一言不發,彼拉多感到驚奇。

每年逾越節的時候,彼拉多都會照慣例按猶太人的要求釋放一個囚犯。 那時,有一個囚犯名叫巴拉巴,與其他作亂時殺過人的囚犯關在一起。 百姓聚來,要求彼拉多照慣例釋放囚犯。

彼拉多問:「你們要我為你們釋放猶太人的王嗎?」 10 因為他知道祭司長把耶穌押來是出於妒忌。 11 但祭司長卻煽動百姓,叫他們要求彼拉多釋放巴拉巴。

12 彼拉多只好問:「那麼,這位你們稱之為猶太人之王的,我如何處置呢?」

13 他們喊著說:「把祂釘在十字架上!」

14 彼拉多問:「為什麼?祂犯了什麼罪?」

他們卻更大聲地喊:「把祂釘在十字架上!」

15 為了取悅眾人,彼拉多釋放了巴拉巴,命人將耶穌鞭打後帶出去釘十字架。

耶穌受辱

16 於是,衛兵把耶穌帶進總督府的院子,集合了全營的兵。 17 他們給祂穿上紫袍,用荊棘編成王冠戴在祂頭上, 18 向祂行禮,並喊著說:「猶太人的王萬歲!」 19 他們用葦稈打祂的頭,向祂吐唾沫,跪拜祂。 20 戲弄完了,就脫去祂的紫袍,給祂穿上原來的衣服,押祂出去釘十字架。

釘十字架

21 亞歷山大和魯孚的父親古利奈人西門從鄉下來,途經那地方,衛兵就強迫他背耶穌的十字架。 22 他們把耶穌帶到各各他——意思是「髑髏地」, 23 拿沒藥調和的酒給祂喝,但祂不肯喝。 24 他們把耶穌釘在十字架上,還抽籤分祂的衣服。 25 他們釘祂十字架的時間是在上午九點鐘。 26 祂的罪狀牌上寫著「猶太人的王」。

27 他們還把兩個強盜釘在十字架上,一個在祂右邊,一個在祂左邊, 28 這應驗了聖經的話:「祂被列在罪犯中。」 29 過路的人都嘲笑祂,搖著頭說:「哈,你這要把聖殿拆毀又在三天內重建的人啊, 30 救救你自己,從十字架上下來吧!」

31 祭司長和律法教師也嘲諷說:「祂救了別人,卻救不了自己! 32 以色列的王基督,現在從十字架上下來吧!讓我們看看,我們就信了!」與祂同釘十字架的強盜也對祂出言不遜。

耶穌之死

33 正午時分,黑暗籠罩著整個大地,一直到下午三點。 34 大約在三點,耶穌大聲呼喊:「以羅伊,以羅伊,拉馬撒巴各大尼?」意思是:「我的上帝,我的上帝,你為什麼離棄我?」

35 有些站在旁邊的人聽見了,就說:「聽,祂在呼叫以利亞。」

36 有人跑去把一塊海綿蘸滿酸酒,綁在葦稈上送給祂喝,說:「等等,讓我們看看以利亞會不會救祂下來。」

37 耶穌大叫一聲,就斷了氣。 38 聖殿的幔子從上到下裂成兩半。 39 站在對面的百夫長看見耶穌喊叫[a]斷氣的情形,便說:「這人真是上帝的兒子!」

40 有些婦女在遠處觀看,其中有抹大拉的瑪麗亞、小雅各和約西的母親瑪麗亞並撒羅米。 41 耶穌在加利利時,她們已經跟隨祂、服侍祂了。此外還有好些跟著祂上耶路撒冷的婦女。

安葬耶穌

42 那天是猶太人的預備日,也就是安息日的前一天。傍晚, 43 亞利馬太人約瑟鼓起勇氣去見彼拉多,要求領取耶穌的遺體。他是一位德高望重的公會議員,一位等候上帝國降臨的人。 44 彼拉多聽見耶穌已經死了,十分驚訝,便把百夫長召來問個明白, 45 得知耶穌確實已死,便將耶穌的遺體交給約瑟。

46 約瑟把耶穌的遺體取下來,用買來的細麻布裹好,安放在一個在岩壁上鑿出的墓穴裡,又滾來一塊大石頭堵住洞口。 47 抹大拉的瑪麗亞和約西的母親瑪麗亞都親眼看到了安葬耶穌的地方。

Footnotes

  1. 15·39 有些古卷無「喊叫」二字。

15 Ac yn y fan, y bore, yr ymgynghorodd yr archoffeiriaid gyda’r henuriaid a’r ysgrifenyddion, a’r holl gyngor: ac wedi iddynt rwymo’r Iesu, hwy a’i dygasant ef ymaith, ac a’i traddodasant at Peilat. A gofynnodd Peilat iddo, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Yr wyt ti yn dywedyd. A’r archoffeiriaid a’i cyhuddasant ef o lawer o bethau: eithr nid atebodd efe ddim. A Pheilat drachefn a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Onid atebi di ddim? wele faint o bethau y maent yn eu tystiolaethu yn dy erbyn. Ond yr Iesu eto nid atebodd ddim; fel y rhyfeddodd Peilat. Ac ar yr ŵyl honno y gollyngai efe yn rhydd iddynt un carcharor, yr hwn a ofynnent iddo. Ac yr oedd un a elwid Barabbas, yr hwn oedd yn rhwym gyda’i gyd‐derfysgwyr, y rhai yn y derfysg a wnaethent lofruddiaeth. A’r dyrfa gan grochlefain, a ddechreuodd ddeisyf arno wneuthur fel y gwnaethai bob amser iddynt. A Pheilat a atebodd iddynt, gan ddywedyd, A fynnwch chwi i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenin yr Iddewon? 10 (Canys efe a wyddai mai o genfigen y traddodasai’r archoffeiriaid ef.) 11 A’r archoffeiriaid a gynyrfasent y bobl, fel y gollyngai efe yn hytrach Barabbas yn rhydd iddynt. 12 A Pheilat a atebodd ac a ddywedodd drachefn wrthynt, Beth gan hynny a fynnwch i mi ei wneuthur i’r hwn yr ydych yn ei alw Brenin yr Iddewon? 13 A hwythau a lefasant drachefn, Croeshoelia ef. 14 Yna Peilat a ddywedodd wrthynt, Ond pa ddrwg a wnaeth efe? A hwythau a lefasant fwyfwy, Croeshoelia ef.

15 A Pheilat yn chwennych bodloni’r bobl, a ollyngodd yn rhydd iddynt Barabbas; a’r Iesu, wedi iddo ei fflangellu, a draddododd efe i’w groeshoelio. 16 A’r milwyr a’i dygasant ef i fewn y llys, a elwir Pretorium: a hwy a alwasant ynghyd yr holl fyddin; 17 Ac a’i gwisgasant ef â phorffor, ac a blethasant goron o ddrain, ac a’i dodasant am ei ben; 18 Ac a ddechreuasant gyfarch iddo, Henffych well, Brenin yr Iddewon. 19 A hwy a gurasant ei ben ef â chorsen, ac a boerasant arno, a chan ddodi eu gliniau i lawr, a’i haddolasant ef. 20 Ac wedi iddynt ei watwar ef, hwy a ddiosgasant y porffor oddi amdano, ac a’i gwisgasant ef â’i ddillad ei hun, ac a’i dygasant allan i’w groeshoelio. 21 A hwy a gymellasant un Simon o Cyrene, yr hwn oedd yn myned heibio, wrth ddyfod o’r wlad, sef tad Alexander a Rwffus, i ddwyn ei groes ef. 22 A hwy a’i harweiniasant ef i le a elwid Golgotha; yr hyn o’i gyfieithu yw, Lle’r benglog: 23 Ac a roesant iddo i’w yfed win myrllyd: eithr efe nis cymerth. 24 Ac wedi iddynt ei groeshoelio, hwy a ranasant ei ddillad ef, gan fwrw coelbren arnynt, beth a gâi pob un. 25 A’r drydedd awr oedd hi; a hwy a’i croeshoeliasant ef. 26 Ac yr oedd ysgrifen ei achos ef wedi ei hargraffu, BRENIN YR IDDEWON. 27 A hwy a groeshoeliasant gydag ef ddau leidr; un ar y llaw ddeau, ac un ar yr aswy iddo. 28 A’r ysgrythur a gyflawnwyd, yr hon a ddywed, Ac efe a gyfrifwyd gyda’r rhai anwir. 29 A’r rhai oedd yn myned heibio a’i cablasant ef, gan ysgwyd eu pennau, a dywedyd, Och, tydi yr hwn wyt yn dinistrio’r deml, ac yn ei hadeiladu mewn tridiau, 30 Gwared dy hun, a disgyn oddi ar y groes. 31 Yr un ffunud yr archoffeiriaid hefyd yn gwatwar, a ddywedasant wrth ei gilydd, gyda’r ysgrifenyddion, Eraill a waredodd, ei hun nis gall ei wared. 32 Disgynned Crist, Brenin yr Israel, yr awr hon oddi ar y groes, fel y gwelom, ac y credom. A’r rhai a groeshoeliesid gydag ef, a’i difenwasant ef. 33 A phan ddaeth y chweched awr, y bu tywyllwch ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr. 34 Ac ar y nawfed awr y dolefodd yr Iesu â llef uchel, gan ddywedyd, Eloi, Eloi, lama sabachthani? yr hyn o’i gyfieithu yw, Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gadewaist? 35 A rhai o’r rhai a safent gerllaw, pan glywsant, a ddywedasant, Wele, y mae efe yn galw ar Eleias. 36 Ac un a redodd, ac a lanwodd ysbwng yn llawn o finegr, ac a’i dododd ar gorsen, ac a’i diododd ef, gan ddywedyd, Peidiwch, edrychwn a ddaw Eleias i’w dynnu ef i lawr. 37 A’r Iesu a lefodd â llef uchel, ac a ymadawodd â’r ysbryd. 38 A llen y deml a rwygwyd yn ddwy, oddi fyny hyd i waered. 39 A phan welodd y canwriad, yr hwn oedd yn sefyll gerllaw gyferbyn ag ef, ddarfod iddo yn llefain felly ymado â’r ysbryd, efe a ddywedodd, Yn wir Mab Duw oedd y dyn hwn. 40 Ac yr oedd hefyd wragedd yn edrych o hirbell: ymhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago fychan a Jose, a Salome; 41 Y rhai hefyd, pan oedd efe yng Ngalilea, a’i dilynasant ef, ac a weiniasant iddo; a gwragedd eraill lawer, y rhai a ddaethent gydag ef i fyny i Jerwsalem.

42 Pan ydoedd hi weithian yn hwyr, (am ei bod hi yn ddarpar‐ŵyl, sef y dydd cyn y Saboth,) 43 Daeth Joseff o Arimathea, cynghorwr pendefigaidd, yr hwn oedd yntau yn disgwyl am deyrnas Dduw, ac a aeth yn hy i mewn at Peilat, ac a ddeisyfodd gorff yr Iesu. 44 A rhyfedd oedd gan Peilat o buasai efe farw eisoes: ac wedi iddo alw y canwriad ato, efe a ofynnodd iddo a oedd efe wedi marw ers meitin. 45 A phan wybu gan y canwriad, efe a roddes y corff i Joseff. 46 Ac efe a brynodd liain main, ac a’i tynnodd ef i lawr, ac a’i hamdôdd yn y lliain main, ac a’i dododd ef mewn bedd a naddasid o’r graig; ac a dreiglodd faen ar ddrws y bedd. 47 A Mair Magdalen a Mair mam Jose a edrychasant pa le y dodid ef.