Add parallel Print Page Options

Paul, carcharor Crist Iesu, a’r brawd Timotheus, at Philemon ein hanwylyd, a’n cyd-weithiwr, Ac at Apffia ein hanwylyd, ac at Archipus ein cyd-filwr, ac at yr eglwys sydd yn dy dŷ di: Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist. Yr wyf yn diolch i’m Duw, gan wneuthur coffa amdanat yn wastadol yn fy ngweddïau, Wrth glywed dy gariad, a’r ffydd sydd gennyt tuag at yr Arglwydd Iesu, a thuag at yr holl saint; Fel y gwneler cyfraniad dy ffydd di yn nerthol, trwy adnabod pob peth daionus a’r sydd ynoch chwi yng Nghrist Iesu. Canys y mae gennym lawer o lawenydd a diddanwch yn dy gariad di, herwydd bod ymysgaroedd y saint wedi eu llonni trwot ti, frawd. Oherwydd paham, er bod gennyf hyfdra lawer yng Nghrist, i orchymyn i ti y peth sydd weddus: Eto o ran cariad yr ydwyf yn hytrach yn atolwg, er fy mod yn gyfryw un â Phaul yr hynafgwr, ac yr awron hefyd yn garcharor Iesu Grist. 10 Yr ydwyf yn atolwg i ti dros fy mab Onesimus, yr hwn a genhedlais i yn fy rhwymau: 11 Yr hwn gynt a fu i ti yn anfuddiol, ond yr awron yn fuddiol i ti ac i minnau hefyd; 12 Yr hwn a ddanfonais drachefn: a derbyn dithau ef, yr hwn yw fy ymysgaroedd i: 13 Yr hwn yr oeddwn i yn ewyllysio ei ddal gyda mi, fel drosot ti y gwasanaethai efe fi yn rhwymau yr efengyl. 14 Eithr heb dy feddwl di nid ewyllysiais wneuthur dim; fel na byddai dy ddaioni di megis o anghenraid, ond o fodd. 15 Canys ysgatfydd er mwyn hyn yr ymadawodd dros amser, fel y derbynnit ef yn dragywydd; 16 Nid fel gwas bellach, eithr uwchlaw gwas, yn frawd annwyl, yn enwedig i mi; eithr pa faint mwy i ti, yn y cnawd ac yn yr Arglwydd hefyd? 17 Os wyt ti gan hynny yn fy nghymryd i yn gydymaith, derbyn ef fel myfi. 18 Ac os gwnaeth efe ddim cam â thi, neu os yw yn dy ddyled, cyfrif hynny arnaf i; 19 Myfi Paul a’i hysgrifennais â’m llaw fy hun, myfi a’i talaf: fel na ddywedwyf wrthyt, dy fod yn fy nyled i ymhellach amdanat dy hun hefyd. 20 Ie, frawd, gad i mi dy fwynhau di yn yr Arglwydd: llonna fy ymysgaroedd i yn yr Arglwydd. 21 Gan hyderu ar dy ufudd-dod yr ysgrifennais atat, gan wybod y gwnei, ie, fwy nag yr wyf yn ei ddywedyd. 22 Heblaw hyn hefyd, paratoa i mi lety: canys yr ydwyf yn gobeithio trwy eich gweddïau chwi y rhoddir fi i chwi. 23 Y mae yn dy annerch, Epaffras, fy nghyd-garcharor yng Nghrist Iesu; 24 Marc, Aristarchus, Demas, Luc, fy nghyd-weithwyr. 25 Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda’ch ysbryd chwi. Amen.

At Philemon yr ysgrifennwyd o Rufain, gyda’r gwas Onesimus.

Duw, wedi iddo lefaru lawer gwaith a llawer modd gynt wrth y tadau trwy’r proffwydi, yn y dyddiau diwethaf hyn a lefarodd wrthym ni yn ei Fab; Yr hwn a wnaeth efe yn etifedd pob peth, trwy yr hwn hefyd y gwnaeth efe y bydoedd: Yr hwn, ac efe yn ddisgleirdeb ei ogoniant ef, ac yn wir lun ei berson ef, ac yn cynnal pob peth trwy air ei nerth, wedi puro ein pechodau ni trwyddo ef ei hun, a eisteddodd ar ddeheulaw y Mawredd yn y goruwch leoedd; Wedi ei wneuthur o hynny yn well na’r angylion, o gymaint ag yr etifeddodd efe enw mwy rhagorol na hwynt‐hwy. Canys wrth bwy o’r angylion y dywedodd efe un amser, Fy mab ydwyt ti; myfi heddiw a’th genhedlais di? A thrachefn, Myfi a fyddaf iddo ef yn Dad, ac efe a fydd i mi yn Fab? A thrachefn, pan yw yn dwyn y Cyntaf‐anedig i’r byd, y mae yn dywedyd, Ac addoled holl angylion Duw ef. Ac am yr angylion y mae yn dywedyd, Yr hwn sydd yn gwneuthur ei angylion yn ysbrydion, a’i weinidogion yn fflam dân. Ond wrth y Mab, Dy orseddfainc di, O Dduw, sydd yn oes oesoedd: teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen dy deyrnas di. Ti a geraist gyfiawnder, ac a gaseaist anwiredd: am hynny y’th eneiniodd Duw, sef dy Dduw di, ag olew gorfoledd tu hwnt i’th gyfeillion. 10 Ac, Tydi yn y dechreuad, Arglwydd, a sylfaenaist y ddaear; a gwaith dy ddwylo di yw y nefoedd: 11 Hwynt‐hwy a ddarfyddant; ond tydi sydd yn parhau; a hwynt‐hwy oll fel dilledyn a heneiddiant; 12 Ac megis gwisg y plygi di hwynt, a hwy a newidir: ond tydi yr un ydwyt, a’th flynyddoedd ni phallant. 13 Ond wrth ba un o’r angylion y dywedodd efe un amser, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed? 14 Onid ysbrydion gwasanaethgar ydynt hwy oll, wedi eu danfon i wasanaethu er mwyn y rhai a gânt etifeddu iachawdwriaeth?