Add parallel Print Page Options

14 Canys os y rhai sydd o’r ddeddf yw yr etifeddion, gwnaed ffydd yn ofer, a’r addewid yn ddi‐rym. 15 Oblegid y mae’r ddeddf yn peri digofaint; canys lle nid oes deddf, nid oes gamwedd. 16 Am hynny o ffydd y mae, fel y byddai yn ôl gras: fel y byddai’r addewid yn sicr i’r holl had; nid yn unig i’r hwn sydd o’r ddeddf, ond hefyd i’r hwn sydd o ffydd Abraham, yr hwn yw ein tad ni oll,

Read full chapter