Iago 2
Beibl William Morgan
2 Fy mrodyr, na fydded gennych ffydd ein Harglwydd ni Iesu Grist, sef Arglwydd y gogoniant, gyda derbyn wyneb. 2 Oblegid os daw i mewn i’ch cynulleidfa chwi ŵr â modrwy aur, mewn dillad gwychion, a dyfod hefyd un tlawd mewn dillad gwael; 3 Ac edrych ohonoch ar yr hwn sydd yn gwisgo’r dillad gwychion, a dywedyd wrtho, Eistedd di yma mewn lle da; a dywedyd wrth y tlawd, Saf di yna, neu eistedd yma islaw fy ystôl droed i: 4 Onid ydych chwi dueddol ynoch eich hunain? ac onid aethoch yn farnwyr meddyliau drwg? 5 Gwrandewch, fy mrodyr annwyl; Oni ddewisodd Duw dlodion y byd hwn yn gyfoethogion mewn ffydd, ac yn etifeddion y deyrnas yr hon a addawodd efe i’r rhai sydd yn ei garu ef? 6 Eithr chwithau a amharchasoch y tlawd. Onid yw’r cyfoethogion yn eich gorthrymu chwi, ac yn eich tynnu gerbron brawdleoedd? 7 Onid ydynt hwy’n cablu’r enw rhagorol, yr hwn a elwir arnoch chwi? 8 Os cyflawni yr ydych y gyfraith frenhinol yn ôl yr ysgrythur, Câr dy gymydog fel ti dy hun; da yr ydych yn gwneuthur: 9 Eithr os derbyn wyneb yr ydych, yr ydych yn gwneuthur pechod, ac yn cael eich argyhoeddi gan y gyfraith megis troseddwyr. 10 Canys pwy bynnag a gadwo’r gyfraith i gyd oll, ac a ballo mewn un pwnc, y mae efe yn euog o’r cwbl. 11 Canys y neb a ddywedodd, Na odineba, a ddywedodd hefyd, Na ladd. Ac os ti ni odinebi, eto a leddi, yr wyt ti yn troseddu’r gyfraith. 12 Felly dywedwch, ac felly gwnewch, megis rhai a fernir wrth gyfraith rhyddid. 13 Canys barn ddidrugaredd fydd i’r hwn ni wnaeth drugaredd; ac y mae trugaredd yn gorfoleddu yn erbyn barn. 14 Pa fudd yw, fy mrodyr, o dywed neb fod ganddo ffydd, ac heb fod ganddo weithredoedd? a ddichon ffydd ei gadw ef? 15 Eithr os bydd brawd neu chwaer yn noeth, ac mewn eisiau beunyddiol ymborth, 16 A dywedyd o un ohonoch wrthynt, Ewch mewn heddwch, ymdwymnwch, ac ymddigonwch; eto heb roddi iddynt angenrheidiau’r corff; pa les fydd? 17 Felly ffydd hefyd, oni bydd ganddi weithredoedd, marw ydyw, a hi yn unig. 18 Eithr rhyw un a ddywed, Tydi ffydd sydd gennyt, minnau gweithredoedd sydd gennyf: dangos i mi dy ffydd di heb dy weithredoedd, a minnau wrth fy ngweithredoedd i a ddangosaf i ti fy ffydd innau. 19 Credu yr wyt ti mai un Duw sydd; da yr wyt ti yn gwneuthur: y mae’r cythreuliaid hefyd yn credu, ac yn crynu. 20 Eithr a fynni di wybod, O ddyn ofer, am ffydd heb weithredoedd, mai marw yw? 21 Abraham ein tad ni, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd ef, pan offrymodd efe Isaac ei fab ar yr allor? 22 Ti a weli fod ffydd yn cydweithio â’i weithredoedd ef, a thrwy weithredoedd fod ffydd wedi ei pherffeithio. 23 A chyflawnwyd yr ysgrythur yr hon sydd yn dywedyd, Credodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder: a Chyfaill Duw y galwyd ef. 24 Chwi a welwch gan hynny mai o weithredoedd y cyfiawnheir dyn, ac nid o ffydd yn unig. 25 Yr un ffunud hefyd, Rahab y butain, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd hi, pan dderbyniodd hi’r cenhadau, a’u danfon ymaith ffordd arall? 26 Canys megis y mae’r corff heb yr ysbryd yn farw, felly hefyd ffydd heb weithredoedd, marw yw.
James 2
New International Version
Favoritism Forbidden
2 My brothers and sisters, believers in our glorious(A) Lord Jesus Christ must not show favoritism.(B) 2 Suppose a man comes into your meeting wearing a gold ring and fine clothes, and a poor man in filthy old clothes also comes in. 3 If you show special attention to the man wearing fine clothes and say, “Here’s a good seat for you,” but say to the poor man, “You stand there” or “Sit on the floor by my feet,” 4 have you not discriminated among yourselves and become judges(C) with evil thoughts?
5 Listen, my dear brothers and sisters:(D) Has not God chosen those who are poor in the eyes of the world(E) to be rich in faith(F) and to inherit the kingdom(G) he promised those who love him?(H) 6 But you have dishonored the poor.(I) Is it not the rich who are exploiting you? Are they not the ones who are dragging you into court?(J) 7 Are they not the ones who are blaspheming the noble name of him to whom you belong?
8 If you really keep the royal law found in Scripture, “Love your neighbor as yourself,”[a](K) you are doing right. 9 But if you show favoritism,(L) you sin and are convicted by the law as lawbreakers.(M) 10 For whoever keeps the whole law and yet stumbles(N) at just one point is guilty of breaking all of it.(O) 11 For he who said, “You shall not commit adultery,”[b](P) also said, “You shall not murder.”[c](Q) If you do not commit adultery but do commit murder, you have become a lawbreaker.
12 Speak and act as those who are going to be judged(R) by the law that gives freedom,(S) 13 because judgment without mercy will be shown to anyone who has not been merciful.(T) Mercy triumphs over judgment.
Faith and Deeds
14 What good is it, my brothers and sisters, if someone claims to have faith but has no deeds?(U) Can such faith save them? 15 Suppose a brother or a sister is without clothes and daily food.(V) 16 If one of you says to them, “Go in peace; keep warm and well fed,” but does nothing about their physical needs, what good is it?(W) 17 In the same way, faith by itself, if it is not accompanied by action, is dead.(X)
18 But someone will say, “You have faith; I have deeds.”
Show me your faith without deeds,(Y) and I will show you my faith(Z) by my deeds.(AA) 19 You believe that there is one God.(AB) Good! Even the demons believe that(AC)—and shudder.
20 You foolish person, do you want evidence that faith without deeds is useless[d]?(AD) 21 Was not our father Abraham considered righteous for what he did when he offered his son Isaac on the altar?(AE) 22 You see that his faith and his actions were working together,(AF) and his faith was made complete by what he did.(AG) 23 And the scripture was fulfilled that says, “Abraham believed God, and it was credited to him as righteousness,”[e](AH) and he was called God’s friend.(AI) 24 You see that a person is considered righteous by what they do and not by faith alone.
25 In the same way, was not even Rahab the prostitute considered righteous for what she did when she gave lodging to the spies and sent them off in a different direction?(AJ) 26 As the body without the spirit is dead, so faith without deeds is dead.(AK)
Footnotes
- James 2:8 Lev. 19:18
- James 2:11 Exodus 20:14; Deut. 5:18
- James 2:11 Exodus 20:13; Deut. 5:17
- James 2:20 Some early manuscripts dead
- James 2:23 Gen. 15:6
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.
Holy Bible, New International Version®, NIV® Copyright ©1973, 1978, 1984, 2011 by Biblica, Inc.® Used by permission. All rights reserved worldwide.
NIV Reverse Interlinear Bible: English to Hebrew and English to Greek. Copyright © 2019 by Zondervan.