2 Cronicl 29
Beibl William Morgan
29 Mab pum mlwydd ar hugain oedd Heseceia pan ddechreuodd efe deyrnasu, a naw mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac enw ei fam ef oedd Abeia merch Sechareia. 2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Dafydd ei dad.
3 Yn y flwyddyn gyntaf o’i deyrnasiad ef, yn y mis cyntaf, efe a agorodd ddrysau tŷ yr Arglwydd, ac a’u cyweiriodd hwynt. 4 Ac efe a ddug i mewn yr offeiriaid, a’r Lefiaid, ac a’u casglodd hwynt ynghyd i heol y dwyrain, 5 Ac a ddywedodd wrthynt hwy, Gwrandewch fi, O Lefiaid, ymsancteiddiwch yn awr, a sancteiddiwch dŷ Arglwydd Dduw eich tadau, a dygwch yr aflendid allan o’r lle sanctaidd. 6 Canys ein tadau ni a droseddasant, ac a wnaethant yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd ein Duw, ac a’i gwrthodasant ef, ac a droesant eu hwynebau oddi wrth babell yr Arglwydd, ac a droesant eu gwarrau. 7 Caeasant hefyd ddrysau y porth, ac a ddiffoddasant y lampau, ac nid arogldarthasant arogl-darth, ac ni offrymasant boethoffrymau yn y cysegr i Dduw Israel. 8 Am hynny digofaint yr Arglwydd a ddaeth yn erbyn Jwda a Jerwsalem, ac efe a’u rhoddodd hwynt yn gyffro, yn syndod, ac yn watwargerdd, fel yr ydych yn gweled â’ch llygaid. 9 Canys wele, ein tadau ni a syrthiasant trwy’r cleddyf, ein meibion hefyd, a’n merched, a’n gwragedd, ydynt mewn caethiwed oherwydd hyn. 10 Yn awr y mae yn fy mryd i wneuthur cyfamod ag Arglwydd Dduw Israel; fel y tro ei ddigofaint llidiog ef oddi wrthym ni. 11 Fy meibion, na fyddwch ddifraw yn awr: canys yr Arglwydd a’ch dewisodd chwi i sefyll ger ei fron ef, i weini iddo ef, ac i fod yn gweini, ac yn arogldarthu iddo ef.
12 Yna y Lefiaid a gyfodasant, Mahath mab Amasai, a Joel mab Asareia, o feibion y Cohathiaid: ac o feibion Merari; Cis mab Abdi, ac Asareia mab Jehaleleel: ac o’r Gersoniaid; Joa mab Simma, ac Eden mab Joa: 13 Ac o feibion Elisaffan; Simri, a Jeiel; ac o feibion Asaff; Sechareia, a Mataneia: 14 Ac o feibion Heman; Jehiel, a Simei: ac o feibion Jedwthwn; Semaia, ac Ussiel. 15 A hwy a gynullasant eu brodyr, ac a ymsancteiddiasant, ac a ddaethant yn ôl gorchymyn y brenin, trwy eiriau yr Arglwydd, i lanhau tŷ yr Arglwydd. 16 A’r offeiriaid a ddaethant i fewn tŷ yr Arglwydd i’w lanhau ef, ac a ddygasant allan yr holl frynti a gawsant hwy yn nheml yr Arglwydd, i gyntedd tŷ yr Arglwydd. A’r Lefiaid a’i cymerasant, i’w ddwyn ymaith allan i afon Cidron. 17 Ac yn y dydd cyntaf o’r mis cyntaf y dechreuasant ei sancteiddio, ac ar yr wythfed dydd o’r mis y daethant i borth yr Arglwydd: ac mewn wyth niwrnod y sancteiddiasant dŷ yr Arglwydd, ac yn yr unfed dydd ar bymtheg o’r mis cyntaf y gorffenasant. 18 Yna y daethant hwy i mewn at Heseceia y brenin, ac a ddywedasant, Glanhasom holl dŷ yr Arglwydd, ac allor y poethoffrwm, a’i holl lestri, a bwrdd y bara gosod, a’i holl lestri. 19 A’r holl lestri a fwriasai y brenin Ahas ymaith yn ei gamwedd, pan oedd efe yn teyrnasu, a baratoesom, ac a sancteiddiasom ni: ac wele hwy gerbron allor yr Arglwydd.
20 Yna Heseceia y brenin a gododd yn fore, ac a gasglodd dywysogion y ddinas, ac a aeth i fyny i dŷ yr Arglwydd. 21 A hwy a ddygasant saith o fustych, a saith o hyrddod, a saith o ŵyn, a saith o fychod geifr, yn bech-aberth dros y frenhiniaeth, a thros y cysegr, a thros Jwda: ac efe a ddywedodd wrth yr offeiriaid meibion Aaron, am offrymu y rhai hynny ar allor yr Arglwydd. 22 Felly hwy a laddasant y bustych, a’r offeiriaid a dderbyniasant y gwaed, ac a’i taenellasant ar yr allor: lladdasant hefyd yr hyrddod, a thaenellasant y gwaed ar yr allor: a hwy a laddasant yr ŵyn, ac a daenellasant y gwaed ar yr allor. 23 A hwy a ddygasant fychod y pech-aberth o flaen y brenin a’r gynulleidfa, ac a osodasant eu dwylo arnynt hwy. 24 A’r offeiriaid a’u lladdasant hwy, ac a wnaethant gymod ar yr allor â’u gwaed hwynt, i wneuthur cymod dros holl Israel: canys dros holl Israel yr archasai y brenin wneuthur y poethoffrwm a’r pech-aberth. 25 Ac efe a osododd y Lefiaid yn nhŷ yr Arglwydd, â symbalau, ac â nablau, ac â thelynau, yn ôl gorchymyn Dafydd, a Gad gweledydd y brenin, a Nathan y proffwyd: canys y gorchymyn oedd trwy law yr Arglwydd, trwy law ei broffwydi ef. 26 A’r Lefiaid a safasant ag offer Dafydd, a’r offeiriaid â’r utgyrn. 27 A Heseceia a ddywedodd am offrymu poethoffrwm ar yr allor: a’r amser y dechreuodd y poethoffrwm, y dechreuodd cân yr Arglwydd, â’r utgyrn, ac ag offer Dafydd brenin Israel. 28 A’r holl gynulleidfa oedd yn addoli, a’r cantorion yn canu, a’r utgyrn yn lleisio; hyn oll a barhaodd nes gorffen y poethoffrwm. 29 A phan orffenasant hwy offrymu, y brenin a’r holl rai a gafwyd gydag ef, a ymgrymasant, ac a addolasant. 30 A Heseceia y brenin a’r tywysogion a ddywedasant wrth y Lefiaid am foliannu yr Arglwydd, â geiriau Dafydd ac Asaff y gweledydd. Felly hwy a folianasant â llawenydd, ac a ymostyngasant, ac a addolasant. 31 A Heseceia a atebodd ac a ddywedodd, Yn awr yr ymgysegrasoch chwi i’r Arglwydd; nesewch, a dygwch ebyrth, ac ebyrth moliant, i dŷ yr Arglwydd. A’r gynulleidfa a ddygasant ebyrth, ac ebyrth moliant, a phob ewyllysgar o galon, boethoffrymau. 32 A rhifedi y poethoffrymau a ddug y gynulleidfa, oedd ddeg a thrigain o fustych, cant o hyrddod, dau cant o ŵyn: y rhai hyn oll oedd yn boethoffrwm i’r Arglwydd. 33 A’r pethau cysegredig oedd chwe chant o fustych, a thair mil o ddefaid. 34 Ond yr oedd rhy fychan o offeiriaid, fel na allent flingo yr holl boethoffrymau: am hynny eu brodyr y Lefiaid a’u cynorthwyasant hwy, nes gorffen y gwaith, ac nes i’r offeiriaid ymgysegru: canys y Lefiaid oedd uniawnach o galon i ymgysegru na’r offeiriaid. 35 Y poethoffrymau hefyd oedd yn aml, gyda braster yr hedd-offrwm, a’r ddiod-offrwm i’r poethoffrymau. Felly y trefnwyd gwasanaeth tŷ yr Arglwydd. 36 A Heseceia a lawenychodd, a’r holl bobl, oherwydd paratoi o Dduw y bobl: oblegid yn ddisymwth y bu y peth.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.