Add parallel Print Page Options

Gwylia ar dy droed pan fyddych yn myned i dŷ Dduw, a bydd barotach i wrando nag i roi aberth ffyliaid; canys ni wyddant hwy eu bod yn gwneuthur drwg. Na fydd ry brysur â’th enau, ac na frysied dy galon i draethu dim gerbron Duw: canys Duw sydd yn y nefoedd, a thithau sydd ar y ddaear; ac am hynny bydded dy eiriau yn anaml. Canys breuddwyd a ddaw o drallod lawer: ac ymadrodd y ffôl o laweroedd o eiriau. Pan addunedech adduned i Dduw, nac oeda ei thalu: canys nid oes ganddo flas ar rai ynfyd; y peth a addunedaist, tâl. Gwell i ti fod heb addunedu, nag i ti addunedu a bod heb dalu. Na ad i’th enau beri i’th gnawd bechu; ac na ddywed gerbron yr angel, Amryfusedd fu: paham y digiai Duw wrth dy leferydd, a difetha gwaith dy ddwylo? Canys mewn llaweroedd o freuddwydion y mae gwagedd, ac mewn llawer o eiriau: ond ofna di Dduw.

Os gweli dreisio y tlawd, a thrawswyro barn a chyfiawnder mewn gwlad, na ryfedda o achos hyn: canys y mae yr hwn sydd uwch na’r uchaf yn gwylied; ac y mae un sydd uwch na hwynt.

Cynnyrch y ddaear hefyd sydd i bob peth: wrth dir llafur y mae y brenin yn byw. 10 Y neb a garo arian, ni ddigonir ag arian; na’r neb a hoffo amldra, â chynnyrch. Hyn hefyd sydd wagedd. 11 Lle y byddo llawer o dda, y bydd llawer i’w ddifa: pa fudd gan hynny sydd i’w perchennog, ond eu gweled â’u llygaid? 12 Melys yw hun y gweithiwr, pa un bynnag ai ychydig ai llawer a fwytao: ond llawnder y cyfoethog ni ad iddo gysgu. 13 Y mae trueni blin a welais dan yr haul, cyfoeth wedi eu cadw yn niwed i’w perchennog. 14 Ond derfydd am y cyfoeth hynny trwy drallod blin; ac efe a ennill fab, ac nid oes dim yn ei law ef. 15 Megis y daeth allan o groth ei fam yn noeth, y dychwel i fyned modd y daeth, ac ni ddwg ddim o’i lafur, yr hyn a ddygo ymaith yn ei law. 16 A hyn hefyd sydd ofid blin; yn hollol y modd y daeth, felly yr â efe ymaith: a pha fudd sydd iddo ef a lafuriodd am y gwynt? 17 Ei holl ddyddiau y bwyty efe mewn tywyllwch, mewn dicter mawr, gofid, a llid.

18 Wele y peth a welais i: da yw a theg i ddyn fwyta ac yfed, a chymryd byd da o’i holl lafur a lafuria dan yr haul, holl ddyddiau ei fywyd, y rhai a roddes Duw iddo: canys hynny yw ei ran ef. 19 Ie, i bwy bynnag y rhoddes Duw gyfoeth a golud; ac y rhoddes iddo ryddid i fwyta ohonynt, ac i gymryd ei ran, ac i lawenychu yn ei lafur; rhodd Duw yw hyn. 20 Canys ni fawr gofia efe ddyddiau ei fywyd; am fod Duw yn ateb i lawenydd ei galon ef.