Add parallel Print Page Options

42 Felly holl dywysogion y llu, a Johanan mab Carea, a Jesaneia mab Hosaia, a’r holl bobl, o fychan hyd fawr, a nesasant, Ac a ddywedasant wrth Jeremeia y proffwyd, Atolwg, gwrando ein deisyfiad ni, a gweddïa drosom ni ar yr Arglwydd dy Dduw, sef dros yr holl weddill hyn; (canys nyni a adawyd o lawer yn ychydig, fel y mae dy lygaid yn ein gweled ni;) Fel y dangoso yr Arglwydd dy Dduw i ni y ffordd y mae i ni rodio ynddi, a’r peth a wnelom. Yna Jeremeia y proffwyd a ddywedodd wrthynt, Myfi a’ch clywais chwi; wele, mi a weddïaf ar yr Arglwydd eich Duw yn ôl eich geiriau chwi, a pheth bynnag a ddywedo yr Arglwydd amdanoch, myfi a’i mynegaf i chwi: nid ataliaf ddim oddi wrthych. A hwy a ddywedasant wrth Jeremeia, Yr Arglwydd fyddo dyst cywir a ffyddlon rhyngom ni, onis gwnawn yn ôl pob gair a anfono yr Arglwydd dy Dduw gyda thi atom ni. Os da neu os drwg fydd, ar lais yr Arglwydd ein Duw, yr hwn yr ydym ni yn dy anfon ato, y gwrandawn ni; fel y byddo da i ni, pan wrandawom ar lais yr Arglwydd ein Duw.

Ac ymhen y deng niwrnod y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia. Yna efe a alwodd ar Johanan mab Carea, ac ar holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef, ac ar yr holl bobl o fychan hyd fawr, Ac a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, yr hwn yr anfonasoch fi ato i roddi i lawr eich gweddïau ger ei fron ef; 10 Os trigwch chwi yn wastad yn y wlad hon, myfi a’ch adeiladaf chwi, ac nis tynnaf i lawr, myfi a’ch plannaf chwi, ac nis diwreiddiaf: oblegid y mae yn edifar gennyf am y drwg a wneuthum i chwi. 11 Nac ofnwch rhag brenin Babilon, yr hwn y mae arnoch ei ofn; nac ofnwch ef, medd yr Arglwydd: canys myfi a fyddaf gyda chwi i’ch achub, ac i’ch gwaredu chwi o’i law ef. 12 A mi a roddaf i chwi drugaredd, fel y trugarhao efe wrthych, ac y dygo chwi drachefn i’ch gwlad eich hun.

13 Ond os dywedwch, Ni thrigwn ni yn y wlad hon, heb wrando ar lais yr Arglwydd eich Duw, 14 Gan ddywedyd, Nage: ond i wlad yr Aifft yr awn ni, lle ni welwn ryfel, ac ni chlywn sain utgorn, ac ni bydd arnom newyn bara, ac yno y trigwn ni: 15 Am hynny, O gweddill Jwda, gwrandewch yn awr air yr Arglwydd Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Os chwi gan osod a osodwch eich wynebau i fyned i’r Aifft, ac a ewch i ymdeithio yno, 16 Yna y bydd i’r cleddyf, yr hwn yr ydych yn ei ofni, eich goddiwes chwi yno yn nhir yr Aifft; a’r newyn yr hwn yr ydych yn gofalu rhagddo, a’ch dilyn chwi yn yr Aifft; ac yno y byddwch feirw. 17 Felly y bydd i’r holl wŷr a osodasant eu hwynebau i fyned i’r Aifft, i aros yno, hwy a leddir â’r cleddyf, â newyn, ac â haint: ac ni bydd un ohonynt yng ngweddill, neu yn ddihangol, gan y dialedd a ddygaf fi arnynt. 18 Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Megis y tywalltwyd fy llid a’m digofaint ar breswylwyr Jerwsalem; felly y tywelltir fy nigofaint arnoch chwithau, pan ddeloch i’r Aifft: a chwi a fyddwch yn felltith, ac yn syndod, ac yn rheg, ac yn warth, ac ni chewch weled y lle hwn mwyach.

19 O gweddill Jwda, yr Arglwydd a ddywedodd amdanoch, Nac ewch i’r Aifft: gwybyddwch yn hysbys i mi eich rhybuddio chwi heddiw. 20 Canys rhagrithiasoch yn eich calonnau, wrth fy anfon i at yr Arglwydd eich Duw, gan ddywedyd, Gweddïa drosom ni ar yr Arglwydd ein Duw, a mynega i ni yn ôl yr hyn oll a ddywedo yr Arglwydd ein Duw, a nyni a’i gwnawn. 21 A mi a’i mynegais i chwi heddiw, ond ni wrandawsoch ar lais yr Arglwydd eich Duw, nac ar ddim oll a’r y danfonodd efe fi atoch o’i blegid. 22 Ac yn awr gwybyddwch yn hysbys, mai trwy y cleddyf, a thrwy newyn, a thrwy haint, y byddwch chwi feirw yn y lle yr ydych yn ewyllysio myned i ymdeithio ynddo.