Add parallel Print Page Options

A’r Iesu a rodiodd ar ôl y pethau hyn yng Ngalilea: canys nid oedd efe yn chwennych rhodio yn Jwdea, oblegid bod yr Iddewon yn ceisio ei ladd ef. A gŵyl yr Iddewon, sef gŵyl y pebyll, oedd yn agos. Am hynny ei frodyr ef a ddywedasant wrtho, Cerdda ymaith oddi yma, a dos i Jwdea; fel y gwelo dy ddisgyblion dy weithredoedd di y rhai yr ydwyt yn eu gwneuthur. Canys nid oes neb yn gwneuthur dim yn ddirgel, ac yntau yn ceisio bod yn gyhoedd: od wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn, amlyga dy hun i’r byd. Canys nid oedd ei frodyr yn credu ynddo. Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt hwy, Ni ddaeth fy amser i eto: ond eich amser chwi sydd yn wastad yn barod. Ni ddichon y byd eich casáu chwi; ond myfi y mae yn ei gasáu, oherwydd fy mod i yn tystiolaethu amdano, fod ei weithredoedd ef yn ddrwg. Ewch chwi i fyny i’r ŵyl hon: nid wyf fi eto yn myned i fyny i’r ŵyl hon, oblegid ni chyflawnwyd fy amser i eto. Gwedi iddo ddywedyd y pethau hyn wrthynt, efe a arhosodd yng Ngalilea.

10 Ac wedi myned o’i frodyr ef i fyny, yna yntau hefyd a aeth i fyny i’r ŵyl; nid yn amlwg, ond megis yn ddirgel. 11 Yna yr Iddewon a’i ceisiasant ef yn yr ŵyl, ac a ddywedasant, Pa le y mae efe? 12 A murmur mawr oedd amdano ef ymysg y bobl. Canys rhai a ddywedent, Gŵr da yw: ac eraill a ddywedent, Nage; eithr twyllo’r bobl y mae. 13 Er hynny ni lefarodd neb yn eglur amdano ef, rhag ofn yr Iddewon.

14 Ac yr awron ynghylch canol yr ŵyl, yr Iesu a aeth i fyny i’r deml, ac a athrawiaethodd. 15 A’r Iddewon a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa fodd y medr hwn ddysgeidiaeth, ac yntau heb ddysgu? 16 Yr Iesu a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Fy nysgeidiaeth nid eiddof fi yw, eithr eiddo’r hwn a’m hanfonodd i. 17 Os ewyllysia neb wneuthur ei ewyllys ef, efe a gaiff wybod am y ddysgeidiaeth, pa un ai o Dduw y mae hi, ai myfi ohonof fy hun sydd yn llefaru. 18 Y mae’r hwn sydd yn llefaru ohono’i hun, yn ceisio’i ogoniant ei hun: ond yr hwn sydd yn ceisio gogoniant yr hwn a’i hanfonodd, hwnnw sydd eirwir, ac anghyfiawnder nid oes ynddo ef. 19 Oni roddes Moses i chwi y gyfraith, ac nid oes neb ohonoch yn gwneuthur y gyfraith? Paham yr ydych yn ceisio fy lladd i? 20 Y bobl a atebodd ac a ddywedodd, Y mae gennyt ti gythraul: pwy sydd yn ceisio dy ladd di? 21 Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Un weithred a wneuthum, ac yr ydych oll yn rhyfeddu. 22 Am hynny y rhoddes Moses i chwi yr enwaediad; (nid oherwydd ei fod o Moses, eithr o’r tadau;) ac yr ydych yn enwaedu ar ddyn ar y Saboth. 23 Os yw dyn yn derbyn enwaediad ar y Saboth, heb dorri cyfraith Moses; a ydych yn llidiog wrthyf fi, am i mi wneuthur dyn yn holliach ar y Saboth? 24 Na fernwch wrth y golwg, eithr bernwch farn gyfiawn. 25 Yna y dywedodd rhai o’r Hierosolymitaniaid, Onid hwn yw’r un y maent hwy yn ceisio’i ladd? 26 Ac wele, y mae yn llefaru ar gyhoedd, ac nid ydynt yn dywedyd dim wrtho ef: a wybu’r penaethiaid mewn gwirionedd mai hwn yw Crist yn wir? 27 Eithr nyni a adwaenom hwn o ba le y mae: eithr pan ddêl Crist, nis gŵyr neb o ba le y mae. 28 Am hynny yr Iesu, wrth athrawiaethu yn y deml, a lefodd ac a ddywedodd, Chwi a’m hadwaenoch i, ac a wyddoch o ba le yr ydwyf fi: ac ni ddeuthum i ohonof fy hun, eithr y mae yn gywir yr hwn a’m hanfonodd i, yr hwn nid adwaenoch chwi. 29 Ond myfi a’i hadwaen: oblegid ohono ef yr ydwyf fi, ac efe a’m hanfonodd i. 30 Am hynny hwy a geisiasant ei ddal ef: ond ni osododd neb law arno, am na ddaethai ei awr ef eto. 31 A llawer o’r bobl a gredasant ynddo, ac a ddywedasant, Pan ddelo Crist, a wna efe fwy o arwyddion na’r rhai hyn a wnaeth hwn?

32 Y Phariseaid a glywsant fod y bobl yn murmur y pethau hyn amdano ef; a’r Phariseaid a’r archoffeiriaid a anfonasant swyddogion i’w ddal ef. 33 Am hynny y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy, Yr ydwyf fi ychydig amser eto gyda chwi, ac yr wyf yn myned at yr hwn a’m hanfonodd. 34 Chwi a’m ceisiwch, ac ni’m cewch: a lle yr ydwyf fi, ni ellwch chwi ddyfod. 35 Yna y dywedodd yr Iddewon yn eu mysg eu hunain, I ba le y mae hwn ar fedr myned, fel na chaffom ni ef? ai at y rhai sydd ar wasgar ymhlith y Groegiaid y mae efe ar fedr myned, a dysgu’r Groegiaid? 36 Pa ymadrodd yw hwn a ddywedodd efe, Chwi a’m ceisiwch, ac ni’m cewch: a lle yr ydwyf fi, ni ellwch chwi ddyfod? 37 Ac ar y dydd diwethaf, y dydd mawr o’r ŵyl, y safodd yr Iesu, ac a lefodd, gan ddywedyd, Od oes ar neb syched, deued ataf fi, ac yfed. 38 Yr hwn sydd yn credu ynof fi, megis y dywedodd yr ysgrythur, afonydd o ddwfr bywiol a ddylifant o’i groth ef. 39 (A hyn a ddywedodd efe am yr Ysbryd, yr hwn a gâi’r rhai a gredent ynddo ef ei dderbyn: canys eto nid oedd yr Ysbryd Glân wedi ei roddi, oherwydd na ogoneddasid yr Iesu eto.)

40 Am hynny llawer o’r bobl, wedi clywed yr ymadrodd hwn, a ddywedasant, Yn wir hwn yw’r Proffwyd. 41 Eraill a ddywedasant, Hwn yw Crist. Eraill a ddywedasant, Ai o Galilea y daw Crist? 42 Oni ddywedodd yr ysgrythur, Mai o had Dafydd, ac o Fethlehem, y dref lle y bu Dafydd, y mae Crist yn dyfod? 43 Felly yr aeth ymrafael ymysg y bobl o’i blegid ef. 44 A rhai ohonynt a fynasent ei ddal ef; ond ni osododd neb ddwylo arno.

45 Yna y daeth y swyddogion at yr archoffeiriaid a’r Phariseaid; a hwy a ddywedasant wrthynt hwy, Paham na ddygasoch chwi ef? 46 A’r swyddogion a atebasant, Ni lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn. 47 Yna y Phariseaid a atebasant iddynt, A hudwyd chwithau hefyd? 48 A gredodd neb o’r penaethiaid ynddo ef, neu o’r Phariseaid? 49 Eithr y bobl hyn, y rhai ni wyddant y gyfraith, melltigedig ydynt. 50 Nicodemus (yr hwn a ddaethai at yr Iesu o hyd nos, ac oedd un ohonynt) a ddywedodd wrthynt, 51 A ydyw ein cyfraith ni yn barnu dyn, oddieithr clywed ganddo ef yn gyntaf, a gwybod beth a wnaeth efe? 52 Hwythau a atebasant ac a ddywedasant wrtho, A ydwyt tithau o Galilea? Chwilia a gwêl, na chododd proffwyd o Galilea. 53 A phob un a aeth i’w dŷ ei hun.