Add parallel Print Page Options

24 Ac efe a ddywedodd wrth Moses, Tyred i fyny at yr Arglwydd, ti ac Aaron, Nadab ac Abihu, a’r deg a thrigain o henuriaid Israel; ac addolwch o hirbell. Ac aed Moses ei hun at yr Arglwydd; ac na ddelont hwy, ac nac aed y bobl i fyny gydag ef.

A Moses a ddaeth, ac a fynegodd i’r bobl holl eiriau yr Arglwydd, a’r holl farnedigaethau. Ac atebodd yr holl bobl yn unair, ac a ddywedasant, Ni a wnawn yr holl eiriau a lefarodd yr Arglwydd. A Moses a ysgrifennodd holl eiriau yr Arglwydd; ac a gododd yn fore, ac a adeiladodd allor islaw y mynydd, a deuddeg colofn, yn ôl deuddeg llwyth Israel. Ac efe a anfonodd lanciau meibion Israel; a hwy a offrymasant boethoffrymau, ac a aberthasant fustych yn ebyrth hedd i’r Arglwydd. A chymerodd Moses hanner y gwaed, ac a’i gosododd mewn cawgiau, a hanner y gwaed a daenellodd efe ar yr allor. Ac efe a gymerth lyfr y cyfamod, ac a’i darllenodd lle y clywai’r bobl. A dywedasant, Ni a wnawn, ac a wrandawn yr hyn oll a lefarodd yr Arglwydd. A chymerodd Moses y gwaed, ac a’i taenellodd ar y bobl; ac a ddywedodd, Wele waed y cyfamod, yr hwn a wnaeth yr Arglwydd â chwi, yn ôl yr holl eiriau hyn.

Yna yr aeth Moses i fyny, ac Aaron, Nadab ac Abihu, a deg a thrigain o henuriaid Israel. 10 A gwelsant Dduw Israel; a than ei draed megis gwaith o faen saffir, ac fel corff y nefoedd o ddisgleirder. 11 Ac ni roddes ei law ar bendefigion meibion Israel; ond gwelsant Dduw, a bwytasant ac yfasant.

12 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Tyred i fyny ataf i’r mynydd, a bydd yno: a mi a roddaf i ti lechau cerrig, a chyfraith, a gorchmynion, y rhai a ysgrifennais, i’w dysgu hwynt. 13 A chododd Moses, a Josua ei weinidog; ac aeth Moses i fyny i fynydd Duw. 14 Ac wrth yr henuriaid y dywedodd, Arhoswch ni yma, hyd oni ddelom ni atoch drachefn: ac wele, Aaron a Hur gyda chwi; pwy bynnag a fyddo ag achos iddo, deued atynt hwy. 15 A Moses a aeth i fyny i’r mynydd; a chwmwl a orchuddiodd y mynydd. 16 A gogoniant yr Arglwydd a arhodd ar fynydd Sinai, a’r cwmwl a’i gorchuddiodd chwe diwrnod: ac efe a alwodd am Moses y seithfed dydd o ganol y cwmwl. 17 A’r golwg ar ogoniant yr Arglwydd oedd fel tân yn difa ar ben y mynydd, yng ngolwg meibion Israel. 18 A Moses a aeth i ganol y cwmwl, ac a aeth i fyny i’r mynydd: a bu Moses yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos.