Add parallel Print Page Options

17 A holl gynulleidfa meibion Israel a aethant o anialwch Sin, wrth eu teithiau, yn ôl gorchymyn yr Arglwydd; ac a wersyllasant yn Reffidim: ac nid oedd dwfr i’r bobl i yfed. Am hynny y bobl a ymgynenasant â Moses, ac a ddywedasant, Rhoddwch i ni ddwfr i yfed. A dywedodd Moses wrthynt, Paham yr ymgynhennwch â mi? Paham y temtiwch yr Arglwydd? A’r bobl a sychedodd yno am ddwfr; a thuchanodd y bobl yn erbyn Moses, ac a ddywedodd, Paham y peraist i ni ddyfod i fyny o’r Aifft, i’n lladd ni, a’n plant, a’n hanifeiliaid, â syched? A Moses a lefodd ar yr Arglwydd, gan ddywedyd, Beth a wnaf i’r bobl hyn? ar ben ychydig eto hwy a’m llabyddiant i. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cerdda o flaen y bobl, a chymer gyda thi o henuriaid Israel: cymer hefyd dy wialen yn dy law, yr hon y trewaist yr afon â hi, a cherdda. Wele, mi a safaf o’th flaen yno ar y graig yn Horeb; taro dithau y graig, a daw dwfr allan ohoni, fel y gallo’r bobl yfed. A Moses a wnaeth felly yng ngolwg henuriaid Israel. Ac efe a alwodd enw y lle Massa, a Meriba; o achos cynnen meibion Israel, ac am iddynt demtio’r Arglwydd, gan ddywedyd, A ydyw yr Arglwydd yn ein plith, ai nid yw?

Yna y daeth Amalec, ac a ymladdodd ag Israel yn Reffidim. A dywedodd Moses wrth Josua, Dewis i ni wŷr, a dos allan ac ymladd ag Amalec: yfory mi a safaf ar ben y bryn, â gwialen Duw yn fy llaw. 10 Felly Josua a wnaeth fel y dywedodd Moses wrtho; ac a ymladdodd ag Amalec: a Moses, Aaron, a Hur a aethant i fyny i ben y bryn. 11 A phan godai Moses ei law, y byddai Israel yn drechaf; a phan ollyngai ei law i lawr, Amalec a fyddai drechaf. 12 A dwylo Moses oedd drymion; a hwy a gymerasant faen, ac a’i gosodasant dano ef; ac efe a eisteddodd arno: ac Aaron a Hur a gynaliasant ei ddwylo ef, un ar y naill du, a’r llall ar y tu arall; felly y bu ei ddwylo ef sythion nes machludo yr haul. 13 A Josua a orchfygodd Amalec a’i bobl â min y cleddyf. 14 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Ysgrifenna hyn mewn llyfr, yn goffadwriaeth; a mynega i Josua: canys gan ddileu y dileaf goffadwriaeth Amalec oddi tan y nefoedd. 15 A Moses a adeiladodd allor, ac a alwodd ei henw hi JEHOFAH‐Nissi. 16 Canys efe a ddywedodd, Oherwydd tyngu o’r Arglwydd, y bydd i’r Arglwydd ryfel yn erbyn Amalec o genhedlaeth i genhedlaeth.