Add parallel Print Page Options

43 Ond yr awr hon fel hyn y dywed yr Arglwydd dy Greawdwr di, Jacob, a’th Luniwr di, Israel, Nac ofna; canys gwaredais di: gelwais di erbyn dy enw; eiddof fi ydwyt. Pan elych trwy y dyfroedd, myfi a fyddaf gyda thi; a thrwy yr afonydd, fel na lifant drosot: pan rodiech trwy’r tân, ni’th losgir; ac ni ennyn y fflam arnat. Canys myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, Sanct Israel, dy Waredydd: myfi a roddais yr Aifft yn iawn trosot, Ethiopia a Seba amdanat. Er pan aethost yn werthfawr yn fy ngolwg, y’th ogoneddwyd, a mi a’th hoffais; am hynny y rhoddaf ddynion amdanat ti, a phobloedd dros dy einioes di. Nac ofna; canys yr ydwyf fi gyda thi: o’r dwyrain y dygaf dy had, ac o’r gorllewin y’th gasglaf. Dywedaf wrth y gogledd, Dod; ac wrth y deau, Nac atal: dwg fy meibion o bell, a’m merched o eithaf y ddaear; Sef pob un a elwir ar fy enw: canys i’m gogoniant y creais ef, y lluniais ef, ac y gwneuthum ef.

Dwg allan y bobl ddall sydd â llygaid iddynt, a’r byddariaid sydd â chlustiau iddynt. Casgler yr holl genhedloedd ynghyd, a chynuller y bobloedd; pwy yn eu mysg a fynega hyn, ac a draetha i ni y pethau o’r blaen? dygant eu tystion, fel y cyfiawnhaer hwynt; neu wrandawant, a dywedant, Gwir yw. 10 Fy nhystion i ydych chwi, medd yr Arglwydd, a’m gwas yr hwn a ddewisais; fel yr adnabyddoch, ac y credoch fi, ac y dealloch mai myfi yw: o’m blaen nid oedd Duw wedi ei ffurfio, ac ni bydd ar fy ôl. 11 Myfi, myfi yw yr Arglwydd; ac nid oes geidwad ond myfi. 12 Myfi a fynegais, ac a achubais, ac a ddangosais, pryd nad oedd duw dieithr yn eich mysg: am hynny chwi ydych fy nhystion, medd yr Arglwydd, mai myfi sydd Dduw. 13 Ie, cyn bod dydd yr ydwyf fi; ac nid oes a wared o’m llaw: gwnaf, a phwy a’i lluddia?

14 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, eich Gwaredydd chwi, Sanct Israel: Er eich mwyn chwi yr anfonais i Babilon, ac y tynnais i lawr eu holl benaduriaid, a’r Caldeaid, sydd â’u bloedd mewn llongau. 15 Myfi yr Arglwydd yw eich Sanct chwi, Creawdydd Israel, eich Brenin chwi. 16 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, yr hwn a wna ffordd yn y môr, a llwybr yn y dyfroedd cryfion; 17 Yr hwn a ddwg allan y cerbyd a’r march, y llu a’r cryfder; cydorweddant, ni chodant: darfuant, fel llin y diffoddasant.

18 Na chofiwch y pethau o’r blaen, ac nac ystyriwch y pethau gynt. 19 Wele fi yn gwneuthur peth newydd: yr awr hon y dechrau; oni chewch ei wybod? Gwnaf ffordd yn yr anialwch, ac afonydd yn y diffeithwch. 20 Bwystfil y maes, y dreigiau, a chywion yr estrys, a’m gogoneddant; am roddi ohonof ddwfr yn yr anialwch, a’r afonydd yn y diffeithwch, i roddi diod i’m pobl, fy newisedig. 21 Y bobl hyn a luniais i mi fy hun; fy moliant a fynegant.

22 Eithr ni elwaist arnaf, Jacob; ond blinaist arnaf, Israel. 23 Ni ddygaist i mi filod dy offrymau poeth, ac ni’m hanrhydeddaist â’th ebyrth: ni pherais i ti fy ngwasanaethu ag offrwm, ac ni’th flinais ag arogl‐darth. 24 Ni phrynaist i mi galamus ag arian, ac ni’m llenwaist â braster dy ebyrth: eithr ti a wnaethost i mi wasanaethu â’th bechodau, blinaist fi â’th anwireddau. 25 Myfi, myfi yw yr hwn a ddilea dy gamweddau er fy mwyn fy hun, ac ni chofiaf dy bechodau. 26 Dwg ar gof i mi, cydymddadleuwn: adrodd di, fel y’th gyfiawnhaer. 27 Dy dad cyntaf a bechodd, a’th athrawon a wnaethant gamwedd i’m herbyn. 28 Am hynny yr halogais dywysogion y cysegr, ac y rhoddais Jacob yn ddiofryd‐beth, ac Israel yn waradwydd.