Add parallel Print Page Options

Gwybydd hyn hefyd, y daw amseroedd enbyd yn y dyddiau diwethaf. Canys bydd dynion â’u serch arnynt eu hunain, yn ariangar, yn ymffrostwyr, yn feilchion, yn gablwyr, yn anufuddion i rieni, yn anniolchgar, yn annuwiol, Yn angharedig, yn torri cyfamod, yn enllibaidd, yn anghymesur, yn anfwyn, yn ddiserch i’r rhai da, Yn fradwyr, yn waedwyllt, yn chwyddedig, yn caru melyschwant yn fwy nag yn caru Duw; A chanddynt rith duwioldeb, eithr wedi gwadu ei grym hi: a’r rhai hyn gochel di. Canys o’r rhai hyn y mae’r rhai sydd yn ymlusgo i deiau, ac yn dwyn yn gaeth wrageddos llwythog o bechodau, wedi eu harwain gan amryw chwantau, Yn dysgu bob amser, ac heb allu dyfod un amser i wybodaeth y gwirionedd. Eithr megis y safodd Jannes a Jambres yn erbyn Moses, felly y mae’r rhai hyn hefyd yn sefyll yn erbyn y gwirionedd, dynion o feddwl llygredig, yn anghymeradwy o ran y ffydd. Eithr nid ânt rhagddynt ymhellach: canys eu hynfydrwydd fydd amlwg i bawb, megis y bu yr eiddynt hwythau. 10 Eithr ti a lwyr adwaenost fy nysgeidiaeth, fy muchedd, fy arfaeth, ffydd, hirymaros, cariad, amynedd, 11 Yr erlidiau, y dioddefiadau, y rhai a ddigwyddasant i mi yn Antiochia, yn Iconium, yn Lystra; pa erlidiau a ddioddefais: eithr oddi wrthynt oll y’m gwaredodd yr Arglwydd. 12 Ie, a phawb a’r sydd yn ewyllysio byw yn dduwiol yng Nghrist Iesu, a erlidir. 13 Eithr drwg ddynion a thwyllwyr a ânt rhagddynt waethwaeth, gan dwyllo, a chael eu twyllo. 14 Eithr aros di yn y pethau a ddysgaist, ac a ymddiriedwyd i ti amdanynt, gan wybod gan bwy y dysgaist; 15 Ac i ti er yn fachgen wybod yr ysgrythur lân, yr hon sydd abl i’th wneuthur di yn ddoeth i iachawdwriaeth trwy’r ffydd sydd yng Nghrist Iesu. 16 Yr holl ysgrythur sydd wedi ei rhoddi gan ysbrydoliaeth Duw, ac sydd fuddiol i athrawiaethu, i argyhoeddi, i geryddu, i hyfforddi mewn cyfiawnder: 17 Fel y byddo dyn Duw yn berffaith, wedi ei berffeithio i bob gweithred dda.