Add parallel Print Page Options

22 A chwithau am hynny ydych yr awron mewn tristwch: eithr mi a ymwelaf â chwi drachefn, a’ch calon a lawenycha, a’ch llawenydd ni ddwg neb oddi arnoch. 23 A’r dydd hwnnw ni ofynnwch ddim i mi. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Pa bethau bynnag a ofynnoch i’r Tad yn fy enw, efe a’u rhydd i chwi. 24 Hyd yn hyn ni ofynasoch ddim yn fy enw i: gofynnwch, a chwi a gewch; fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn. 25 Y pethau hyn a leferais wrthych mewn damhegion: eithr y mae’r awr yn dyfod, pan na lefarwyf wrthych mewn damhegion mwyach, eithr y mynegaf i chwi yn eglur am y Tad. 26 Y dydd hwnnw y gofynnwch yn fy enw: ac nid wyf yn dywedyd i chwi, y gweddïaf fi ar y Tad trosoch: 27 Canys y Tad ei hun sydd yn eich caru chwi, am i chwi fy ngharu i, a chredu fy nyfod i allan oddi wrth Dduw. 28 Mi a ddeuthum allan oddi wrth y Tad, ac a ddeuthum i’r byd: trachefn yr wyf yn gadael y byd, ac yn myned at y Tad. 29 Ei ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Wele, yr wyt ti yn awr yn dywedyd yn eglur, ac nid wyt yn dywedyd un ddameg. 30 Yn awr y gwyddom y gwyddost bob peth, ac nid rhaid i ti ymofyn o neb â thi: wrth hyn yr ydym yn credu ddyfod ohonot allan oddi wrth Dduw.

Read full chapter