Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Readings for Lent and Easter

Short readings from throughout the Bible that focus on the meaning and events of Easter.
Duration: 47 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Rhufeiniaid 6:12-18

12 Na theyrnased pechod gan hynny yn eich corff marwol, i ufuddhau ohonoch iddo yn ei chwantau. 13 Ac na roddwch eich aelodau yn arfau anghyfiawnder i bechod: eithr rhoddwch eich hunain i Dduw, megis rhai o feirw yn fyw; a’ch aelodau yn arfau cyfiawnder i Dduw. 14 Canys nid arglwyddiaetha pechod arnoch chwi: oblegid nid ydych chwi dan y ddeddf, eithr dan ras. 15 Beth wrth hynny? a bechwn ni, oherwydd nad ydym dan y ddeddf, eithr dan ras? Na ato Duw. 16 Oni wyddoch chwi, mai i bwy bynnag yr ydych yn eich rhoddi eich hunain yn weision i ufuddhau iddo, eich bod yn weision i’r hwn yr ydych yn ufuddhau iddo; pa un bynnag ai i bechod i farwolaeth, ynteu i ufudd‐dod i gyfiawnder? 17 Ond i Dduw y bo’r diolch, eich bod chwi gynt yn weision i bechod; eithr ufuddhau ohonoch o’r galon i’r ffurf o athrawiaeth a draddodwyd i chwi. 18 Ac wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod, fe a’ch gwnaethpwyd yn weision i gyfiawnder.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.