Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Book of Common Prayer

Daily Old and New Testament readings based on the Book of Common Prayer.
Duration: 861 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 148-150

148 Molwch yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd o’r nefoedd: molwch ef yn yr uchelderau. Molwch ef, ei holl angylion: molwch ef, ei holl luoedd. Molwch ef, haul a lleuad: molwch ef, yr holl sêr goleuni. Molwch ef, nef y nefoedd; a’r dyfroedd y rhai ydych oddi ar y nefoedd. Molant enw yr Arglwydd: oherwydd efe a orchmynnodd, a hwy a grewyd. A gwnaeth iddynt barhau byth yn dragywydd: gosododd ddeddf, ac nis troseddir hi. Molwch yr Arglwydd o’r ddaear, y dreigiau, a’r holl ddyfnderau: Tân a chenllysg, eira a tharth; gwynt ystormus, yn gwneuthur ei air ef: Y mynyddoedd a’r bryniau oll; y coed ffrwythlon a’r holl gedrwydd: 10 Y bwystfilod a phob anifail; yr ymlusgiaid ac adar asgellog: 11 Brenhinoedd y ddaear a’r holl bobloedd; tywysogion a holl farnwyr y byd: 12 Gwŷr ieuainc a gwyryfon hefyd; hynafgwyr a llanciau: 13 Molant enw yr Arglwydd: oherwydd ei enw ef yn unig sydd ddyrchafadwy; ei ardderchowgrwydd ef sydd uwchlaw daear a nefoedd. 14 Ac efe sydd yn dyrchafu corn ei bobl, moliant ei holl saint; sef meibion Israel, pobl agos ato. Molwch yr Arglwydd.

149 Molwch yr Arglwydd. Cenwch i’r Arglwydd ganiad newydd, a’i foliant ef yng nghynulleidfa y saint. Llawenhaed Israel yn yr hwn a’i gwnaeth: gorfoledded meibion Seion yn eu Brenin. Molant ei enw ef ar y dawns: canant iddo ar dympan a thelyn. Oherwydd hoffodd yr Arglwydd ei bobl: efe a brydfertha y rhai llednais â iachawdwriaeth. Gorfoledded y saint mewn gogoniant: a chanant ar eu gwelyau. Bydded ardderchog foliant Duw yn eu genau, a chleddyf daufiniog yn eu dwylo; I wneuthur dial ar y cenhedloedd, a chosb ar y bobloedd; I rwymo eu brenhinoedd â chadwynau, a’u pendefigion â gefynnau heyrn; I wneuthur arnynt y farn ysgrifenedig: yr ardderchowgrwydd hwn sydd i’w holl saint ef. Molwch yr Arglwydd.

150 Molwch yr Arglwydd. Molwch Dduw yn ei sancteiddrwydd: molwch ef yn ffurfafen ei nerth. Molwch ef am ei gadernid: molwch ef yn ôl amlder ei fawredd. Molwch ef â llais utgorn: molwch ef â nabl ac â thelyn. Molwch ef â thympan ac â dawns: molwch ef â thannau ac ag organ. Molwch ef â symbalau soniarus: molwch ef â symbalau llafar. Pob perchen anadl, molianned yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd.

Salmau 114-115

114 Pan aeth Israel o’r Aifft, tŷ Jacob oddi wrth bobl anghyfiaith; Jwda oedd ei sancteiddrwydd, ac Israel ei arglwyddiaeth. Y môr a welodd hyn, ac a giliodd; yr Iorddonen a drodd yn ôl. Y mynyddoedd a neidiasant fel hyrddod, a’r bryniau fel ŵyn defaid. Beth ddarfu i ti, O fôr, pan giliaist? tithau Iorddonen, paham y troaist yn ôl? Paham, fynyddoedd, y neidiech fel hyrddod? a’r bryniau fel ŵyn defaid? Ofna, di ddaear, rhag yr Arglwydd, rhag Duw Jacob: Yr hwn sydd yn troi y graig yn llyn dwfr, a’r gallestr yn ffynnon dyfroedd.

115 Nid i ni, O Arglwydd, nid i ni, ond i’th enw dy hun dod ogoniant, er mwyn dy drugaredd, ac er mwyn dy wirionedd. Paham y dywedai y cenhedloedd, Pa le yn awr y mae eu Duw hwynt? Ond ein Duw ni sydd yn y nefoedd: efe a wnaeth yr hyn a fynnodd oll. Eu delwau hwy ydynt o aur ac arian, gwaith dwylo dynion. Genau sydd iddynt, ond ni lefarant; llygaid sydd ganddynt, ond ni welant: Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant; ffroenau sydd ganddynt, ond ni aroglant: Dwylo sydd iddynt, ond ni theimlant; traed sydd iddynt, ond ni cherddant; ni leisiant chwaith â’u gwddf. Y rhai a’u gwnânt ydynt fel hwythau, a phob un a ymddiriedo ynddynt. O Israel, ymddiried di yn yr Arglwydd: efe yw eu porth a’u tarian. 10 Tŷ Aaron, ymddiriedwch yn yr Arglwydd: efe yw eu porth a’u tarian. 11 Y rhai a ofnwch yr Arglwydd, ymddiriedwch yn yr Arglwydd: efe yw eu porth a’u tarian. 12 Yr Arglwydd a’n cofiodd ni: efe a’n bendithia: bendithia efe dŷ Israel; bendithia efe dŷ Aaron. 13 Bendithia efe y rhai a ofnant yr Arglwydd, fychain a mawrion. 14 Yr Arglwydd a’ch chwanega chwi fwyfwy, chwychwi a’ch plant hefyd. 15 Bendigedig ydych chwi gan yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nef a daear. 16 Y nefoedd, ie, y nefoedd ydynt eiddo yr Arglwydd: a’r ddaear a roddes efe i feibion dynion. 17 Y meirw ni foliannant yr Arglwydd, na’r neb sydd yn disgyn i ddistawrwydd. 18 Ond nyni a fendithiwn yr Arglwydd o hyn allan ac yn dragywydd. Molwch yr Arglwydd.

Eseia 43:14-44:5

14 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, eich Gwaredydd chwi, Sanct Israel: Er eich mwyn chwi yr anfonais i Babilon, ac y tynnais i lawr eu holl benaduriaid, a’r Caldeaid, sydd â’u bloedd mewn llongau. 15 Myfi yr Arglwydd yw eich Sanct chwi, Creawdydd Israel, eich Brenin chwi. 16 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, yr hwn a wna ffordd yn y môr, a llwybr yn y dyfroedd cryfion; 17 Yr hwn a ddwg allan y cerbyd a’r march, y llu a’r cryfder; cydorweddant, ni chodant: darfuant, fel llin y diffoddasant.

18 Na chofiwch y pethau o’r blaen, ac nac ystyriwch y pethau gynt. 19 Wele fi yn gwneuthur peth newydd: yr awr hon y dechrau; oni chewch ei wybod? Gwnaf ffordd yn yr anialwch, ac afonydd yn y diffeithwch. 20 Bwystfil y maes, y dreigiau, a chywion yr estrys, a’m gogoneddant; am roddi ohonof ddwfr yn yr anialwch, a’r afonydd yn y diffeithwch, i roddi diod i’m pobl, fy newisedig. 21 Y bobl hyn a luniais i mi fy hun; fy moliant a fynegant.

22 Eithr ni elwaist arnaf, Jacob; ond blinaist arnaf, Israel. 23 Ni ddygaist i mi filod dy offrymau poeth, ac ni’m hanrhydeddaist â’th ebyrth: ni pherais i ti fy ngwasanaethu ag offrwm, ac ni’th flinais ag arogl‐darth. 24 Ni phrynaist i mi galamus ag arian, ac ni’m llenwaist â braster dy ebyrth: eithr ti a wnaethost i mi wasanaethu â’th bechodau, blinaist fi â’th anwireddau. 25 Myfi, myfi yw yr hwn a ddilea dy gamweddau er fy mwyn fy hun, ac ni chofiaf dy bechodau. 26 Dwg ar gof i mi, cydymddadleuwn: adrodd di, fel y’th gyfiawnhaer. 27 Dy dad cyntaf a bechodd, a’th athrawon a wnaethant gamwedd i’m herbyn. 28 Am hynny yr halogais dywysogion y cysegr, ac y rhoddais Jacob yn ddiofryd‐beth, ac Israel yn waradwydd.

44 Ac yn awr gwrando, Jacob fy ngwas, ac Israel yr hwn a ddewisais. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, yr hwn a’th wnaeth, ac a’th luniodd o’r groth, efe a’th gynorthwya: Nac ofna, fy ngwas Jacob; a thi, Jeswrwn, yr hwn a ddewisais. Canys tywalltaf ddyfroedd ar y sychedig, a ffrydiau ar y sychdir: tywalltaf fy Ysbryd ar dy had, a’m bendith ar dy hiliogaeth: A hwy a dyfant megis ymysg glaswellt, fel helyg wrth ffrydiau dyfroedd. Hwn a ddywed, Eiddo yr Arglwydd ydwyf fi; a’r llall a’i geilw ei hun ar enw Jacob; ac arall a ysgrifenna â’i law, Eiddo yr Arglwydd ydwyf, ac a ymgyfenwa ar enw Israel.

Hebreaid 6:17-7:10

17 Yn yr hyn Duw, yn ewyllysio yn helaethach ddangos i etifeddion yr addewid ddianwadalwch ei gyngor, a gyfryngodd trwy lw: 18 Fel trwy ddau beth dianwadal, yn y rhai yr oedd yn amhosibl i Dduw fod yn gelwyddog, y gallem ni gael cysur cryf, y rhai a ffoesom i gymryd gafael yn y gobaith a osodwyd o’n blaen; 19 Yr hwn sydd gennym ni megis angor yr enaid, yn ddiogel ac yn sicr, ac yn myned i mewn hyd at yr hyn sydd o’r tu fewn i’r llen; 20 I’r man yr aeth y rhagflaenor drosom ni, sef Iesu, yr hwn a wnaethpwyd yn Archoffeiriad yn dragwyddol yn ôl urdd Melchisedec.

Canys y Melchisedec hwn, brenin Salem, offeiriad y Duw Goruchaf, yr hwn a gyfarfu ag Abraham wrth ddychwelyd o ladd y brenhinoedd, ac a’i bendithiodd ef; I’r hwn hefyd y cyfrannodd Abraham ddegwm o bob peth: yr hwn yn gyntaf, o’i gyfieithu, yw Brenin cyfiawnder, ac wedi hynny hefyd, Brenin Salem, yr hyn yw, Brenin heddwch; Heb dad, heb fam, heb achau, heb fod iddo na dechrau dyddiau, na diwedd einioes; eithr wedi ei wneuthur yn gyffelyb i Fab Duw, sydd yn aros yn Offeiriad yn dragywydd. Edrychwch faint oedd hwn, i’r hwn hefyd y rhoddodd Abraham y patriarch ddegwm o’r anrhaith. A’r rhai yn wir sydd o feibion Lefi yn derbyn swydd yr offeiriadaeth, y mae ganddynt orchymyn i gymryd degwm gan y bobl yn ôl y gyfraith, sef gan eu brodyr, er eu bod wedi dyfod o lwynau Abraham: Eithr yr hwn nid oedd ei achau ohonynt hwy, a gymerodd ddegwm gan Abraham, ac a fendithiodd yr hwn yr oedd yr addewidion iddo. Ac yn ddi‐ddadl, yr hwn sydd leiaf a fendithir gan ei well. Ac yma y mae dynion y rhai sydd yn meirw yn cymryd degymau: eithr yno, yr hwn y tystiolaethwyd amdano ei fod ef yn fyw. Ac, fel y dywedwyf felly, yn Abraham y talodd Lefi hefyd ddegwm, yr hwn oedd yn cymryd degymau. 10 Oblegid yr ydoedd efe eto yn lwynau ei dad, pan gyfarfu Melchisedec ag ef.

Ioan 4:27-42

27 Ac ar hyn y daeth ei ddisgyblion; a bu ryfedd ganddynt ei fod ef yn ymddiddan â gwraig: er hynny ni ddywedodd neb, Beth a geisi? neu, Paham yr ydwyt yn ymddiddan â hi? 28 Yna y wraig a adawodd ei dyfrlestr, ac a aeth i’r ddinas, ac a ddywedodd wrth y dynion, 29 Deuwch, gwelwch ddyn yr hwn a ddywedodd i mi yr hyn oll a wneuthum: onid hwn yw’r Crist? 30 Yna hwy a aethant allan o’r ddinas, ac a ddaethant ato ef.

31 Yn y cyfamser y disgyblion a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Rabbi, bwyta. 32 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae gennyf fi fwyd i’w fwyta yr hwn ni wyddoch chwi oddi wrtho. 33 Am hynny y disgyblion a ddywedasant wrth ei gilydd, A ddug neb iddo ddim i’w fwyta? 34 Iesu a ddywedodd wrthynt, Fy mwyd i yw gwneuthur ewyllys yr hwn a’m hanfonodd, a gorffen ei waith ef. 35 Onid ydych chwi yn dywedyd, Y mae eto bedwar mis, ac yna y daw’r cynhaeaf? Wele, yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych, Dyrchefwch eich llygaid, ac edrychwch ar y meysydd; canys gwynion ydynt eisoes i’r cynhaeaf. 36 A’r hwn sydd yn medi, sydd yn derbyn cyflog, ac yn casglu ffrwyth i fywyd tragwyddol: fel y byddo i’r hwn sydd yn hau, ac i’r hwn sydd yn medi, lawenychu ynghyd. 37 Canys yn hyn y mae’r gair yn wir, Mai arall yw’r hwn sydd yn hau, ac arall yr hwn sydd yn medi. 38 Myfi a’ch anfonais chwi i fedi yr hyn ni lafuriasoch: eraill a lafuriasant, a chwithau a aethoch i mewn i’w llafur hwynt.

39 A llawer o’r Samariaid o’r ddinas honno a gredasant ynddo, oherwydd gair y wraig, yr hon oedd yn tystiolaethu, Efe a ddywedodd i mi yr hyn oll a wneuthum. 40 Am hynny pan ddaeth y Samariaid ato ef, hwy a atolygasant iddo aros gyda hwynt. Ac efe a arhosodd yno ddeuddydd. 41 A mwy o lawer a gredasant ynddo ef oblegid ei air ei hun. 42 A hwy a ddywedasant wrth y wraig, Nid ydym ni weithian yn credu oblegid dy ymadrodd di: canys ni a’i clywsom ef ein hunain, ac a wyddom mai hwn yn ddiau yw’r Crist, Iachawdwr y byd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.