Salmau 62
Beibl William Morgan
I’r Pencerdd, i Jedwthwn, Salm Dafydd.
62 Wrth Dduw yn unig y disgwyl fy enaid: ohono ef y daw fy iachawdwriaeth. 2 Efe yn unig yw fy nghraig, a’m hiachawdwriaeth, a’m hamddiffyn; ni’m mawr ysgogir. 3 Pa hyd y bwriedwch aflwydd yn erbyn gŵr? lleddir chwi oll; a byddwch fel magwyr ogwyddedig, neu bared ar ei ogwydd. 4 Ymgyngorasant yn unig i’w fwrw ef i lawr o’i fawredd; hoffasant gelwydd: â’u geneuau y bendithiant, ond o’u mewn y melltithiant. Sela. 5 O fy enaid, disgwyl wrth Dduw yn unig: canys ynddo ef y mae fy ngobaith. 6 Efe yn unig yw fy nghraig, a’m hiachawdwriaeth: efe yw fy amddiffynfa: ni’m hysgogir. 7 Yn Nuw y mae fy iachawdwriaeth a’m gogoniant: craig fy nghadernid, a’m noddfa, sydd yn Nuw. 8 Gobeithiwch ynddo ef bob amser; O bobl, tywelltwch eich calon ger ei fron ef: Duw sydd noddfa i ni. Sela. 9 Gwagedd yn ddiau yw meibion dynion, geudeb yw meibion gwŷr: i’w gosod yn y clorian, ysgafnach ydynt hwy i gyd na gwegi. 10 Nac ymddiriedwch mewn trawster, ac mewn trais na fyddwch ofer: os cynydda golud, na roddwch eich calon arno. 11 Unwaith y dywedodd Duw, clywais hynny ddwywaith; mai eiddo Duw yw cadernid. 12 Trugaredd hefyd sydd eiddot ti, O Arglwydd: canys ti a deli i bob dyn yn ôl ei weithred.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.