Salmau 19
Beibl William Morgan
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
19 Y Nefoedd sydd yn datgan gogoniant Duw; a’r ffurfafen sydd yn mynegi gwaith ei ddwylo ef. 2 Dydd i ddydd a draetha ymadrodd, a nos i nos a ddengys wybodaeth. 3 Nid oes iaith nac ymadrodd, lle ni chlybuwyd eu lleferydd hwynt. 4 Eu llinyn a aeth trwy yr holl ddaear, a’u geiriau hyd eithafoedd byd: i’r haul y gosododd efe babell ynddynt; 5 Yr hwn sydd fel gŵr priod yn dyfod allan o’i ystafell: ac a ymlawenha fel cawr i redeg gyrfa. 6 O eithaf y nefoedd y mae ei fynediad ef allan, a’i amgylchiad hyd eu heithafoedd hwynt: ac nid ymgudd dim oddi wrth ei wres ef. 7 Cyfraith yr Arglwydd sydd berffaith, yn troi yr enaid: tystiolaeth yr Arglwydd sydd sicr, ac yn gwneuthur y gwirion yn ddoeth. 8 Deddfau yr Arglwydd sydd uniawn, yn llawenhau y galon: gorchymyn yr Arglwydd sydd bur, yn goleuo y llygaid. 9 Ofn yr Arglwydd sydd lân, yn parhau yn dragywydd; barnau yr Arglwydd ydynt wirionedd, cyfiawn ydynt i gyd. 10 Mwy dymunol ŷnt nag aur, ie, nag aur coeth lawer: melysach hefyd na’r mêl, ac na diferiad diliau mêl. 11 Ynddynt hwy hefyd y rhybuddir dy was: o’u cadw y mae gwobr lawer. 12 Pwy a ddeall ei gamweddau? glanha fi oddi wrth fy meiau cuddiedig. 13 Atal hefyd dy was oddi wrth bechodau rhyfygus: na arglwyddiaethont arnaf: yna y’m perffeithir, ac y’m glanheir oddi wrth anwiredd lawer. 14 Bydded ymadroddion fy ngenau, a myfyrdod fy nghalon, yn gymeradwy ger dy fron, O Arglwydd, fy nghraig a’m prynwr.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.