Eseciel 3
Beibl William Morgan
3 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, bwyta yr hyn a geffych, bwyta y llyfr hwn a dos, a llefara wrth dŷ Israel. 2 Yna mi a agorais fy safn, ac efe a wnaeth i mi fwyta’r llyfr hwnnw. 3 Dywedodd hefyd wrthyf, Bwyda dy fol, a llanw dy berfedd, fab dyn, â’r llyfr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi atat. Yna y bwyteais; ac yr oedd efe yn fy safn fel mêl o felyster.
4 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, cerdda, dos at dŷ Israel, a llefara â’m geiriau wrthynt. 5 Canys nid at bobl o iaith ddieithr ac o dafodiaith galed y’th anfonir di, ond at dŷ Israel; 6 Nid at bobloedd lawer o iaith ddieithr ac o dafodiaith galed, y rhai ni ddeelli eu hymadroddion. Oni wrandawsai y rhai hynny arnat, pe y’th anfonaswn atynt? 7 Eto tŷ Israel ni fynnant wrando arnat ti; canys ni fynnant wrando arnaf fi: oblegid talgryfion a chaled galon ydynt hwy, holl dŷ Israel. 8 Wele, gwneuthum dy wyneb yn gryf yn erbyn eu hwynebau hwynt, a’th dâl yn gryf yn erbyn eu talcennau hwynt. 9 Gwneuthum dy dalcen fel adamant, yn galetach na’r gallestr: nac ofna hwynt, ac na ddychryna rhag eu hwynebau, er mai tŷ gwrthryfelgar ydynt. 10 Dywedodd hefyd wrthyf, Ha fab dyn, derbyn â’th galon, a chlyw â’th glustiau, fy holl eiriau a lefarwyf wrthyt. 11 Cerdda hefyd, a dos at y gaethglud, at feibion dy bobl, a llefara hefyd wrthynt, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; pa un bynnag a wnelont ai gwrando ai peidio. 12 Yna yr ysbryd a’m cymerodd, a chlywn sŵn cynnwrf mawr o’m hôl, yn dywedyd, Bendigedig fyddo gogoniant yr Arglwydd o’i le. 13 A sŵn adenydd y pethau byw oedd yn cyffwrdd â’i gilydd, a sŵn yr olwynion ar eu cyfer hwynt, a sŵn cynnwrf mawr. 14 A’r ysbryd a’m cyfododd, ac a’m cymerodd ymaith, a mi a euthum yn chwerw yn angerdd fy ysbryd; ond llaw yr Arglwydd oedd gref arnaf.
15 A mi a ddeuthum i Tel‐abib, at y gaethglud oedd yn aros wrth afon Chebar, a mi a eisteddais lle yr oeddynt hwythau yn eistedd, ie, eisteddais yno saith niwrnod yn syn yn eu plith hwynt. 16 Ac ymhen y saith niwrnod y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 17 Mab dyn, mi a’th wneuthum di yn wyliedydd i dŷ Israel: am hynny gwrando y gair o’m genau, a rhybuddia hwynt oddi wrthyf fi. 18 Pan ddywedwyf wrth y drygionus, Gan farw y byddi farw; oni rybuddi ef, ac oni leferi i rybuddio y drygionus oddi wrth ei ddrycffordd, fel y byddo byw; y drygionus hwn a fydd farw yn ei anwiredd: ond ei waed ef a ofynnaf fi ar dy law di. 19 Ond os rhybuddi y drygionus, ac yntau heb droi oddi wrth ei ddrygioni, na’i ffordd ddrygionus, efe a fydd marw yn ei ddrygioni; ond ti a achubaist dy enaid. 20 Hefyd pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder, a gwneuthur camwedd, a rhoddi ohonof dramgwydd o’i flaen ef, efe fydd farw: am na rybuddiaist ef, am ei bechod y bydd efe farw, a’i gyfiawnder yr hwn a wnaeth efe ni chofir; ond ei waed ef a ofynnaf ar dy law di. 21 Ond os tydi a rybuddi y cyfiawn, rhag pechu o’r cyfiawn, ac na phecho efe; gan fyw y bydd efe byw, am ei rybuddio: a thithau a achubaist dy enaid.
22 Ac yno y bu llaw yr Arglwydd arnaf, ac efe a ddywedodd wrthyf, Cyfod, dos i’r gwastadedd, ac yno y llefaraf wrthyt. 23 Yna y cyfodais, ac yr euthum i’r gwastadedd: ac wele ogoniant yr Arglwydd yn sefyll yno, fel y gogoniant a welswn wrth afon Chebar: a mi a syrthiais ar fy wyneb. 24 Yna yr aeth yr ysbryd ynof, ac a’m gosododd ar fy nhraed, ac a ymddiddanodd â mi, ac a ddywedodd wrthyf, Dos, a chae arnat o fewn dy dŷ. 25 Tithau fab dyn, wele, hwy a roddant rwymau arnat, ac a’th rwymant â hwynt, ac na ddos allan yn eu plith. 26 A mi a wnaf i’th dafod lynu wrth daflod dy enau, a thi a wneir yn fud, ac ni byddi iddynt yn geryddwr: canys tŷ gwrthryfelgar ydynt. 27 Ond pan lefarwyf wrthyt, yr agoraf dy safn, a dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw: Yr hwn a wrandawo, gwrandawed; a’r hwn a beidio, peidied: canys tŷ gwrthryfelgar ydynt.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.