Josua 19
Beibl William Morgan
19 A’r ail goelbren a aeth allan i Simeon, dros lwyth meibion Simeon, yn ôl eu teuluoedd: a’u hetifeddiaeth hwynt oedd o fewn etifeddiaeth meibion Jwda. 2 Ac yr oedd ganddynt hwy, yn eu hetifeddiaeth, Beer‐seba, a Seba, a Molada, 3 A Hasar‐sual, a Bala, ac Asem, 4 Ac Eltolad, a Bethul, a Horma, 5 A Siclag, a Beth‐marcaboth, a Hasar‐susa, 6 A Beth‐lebaoth, a Saruhen; tair dinas ar ddeg, a’u pentrefydd: 7 Ain, Rimmon, ac Ether, ac Asan; pedair o ddinasoedd, a’u pentrefydd: 8 A’r holl bentrefydd y rhai oedd o amgylch y dinasoedd hyn, hyd Baalath‐beer, Ramath o’r deau. Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Simeon, yn ôl eu teuluoedd. 9 O randir meibion Jwda yr oedd etifeddiaeth meibion Simeon: canys rhan meibion Jwda oedd ormod iddynt; am hynny meibion Simeon a gawsant eu hetifeddiaeth o fewn eu hetifeddiaeth hwynt.
10 A’r trydydd coelbren a ddaeth i fyny dros feibion Sabulon, yn ôl eu teuluoedd: a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt oedd hyd Sarid. 11 A’u terfyn hwynt sydd yn myned i fyny tua’r môr, a Marala, ac yn cyrhaeddyd i Dabbaseth; ac yn cyrhaeddyd i’r afon sydd ar gyfer Jocneam; 12 Ac yn troi o Sarid, o du y dwyrain tua chyfodiad haul, hyd derfyn Cisloth‐Tabor; ac yn myned i Daberath, ac yn esgyn i Jaffia; 13 Ac yn myned oddi yno ymlaen tua’r dwyrain, i Gittah‐Heffer, i Ittah‐Casin; ac yn myned allan i Rimmon‐Methoar, i Nea. 14 A’r terfyn sydd yn amgylchu o du y gogledd i Hannathon; a’i ddiweddiad yng nglyn Jifftahel. 15 Cattath hefyd, a Nahalal, a Simron, ac Idala, a Bethlehem: deuddeg o ddinasoedd, a’u pentrefydd. 16 Dyma etifeddiaeth meibion Sabulon, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd yma, a’u pentrefydd.
17 Y pedwerydd coelbren a ddaeth allan dros Issachar; dros feibion Issachar, yn ôl eu teuluoedd. 18 A’u terfyn hwynt oedd tua Jesreel, a Chesuloth, a Sunem. 19 A Haffraim, a Sihon, ac Anaharath. 20 A Rabbith, a Cision, ac Abes, 21 A Remeth, ac En‐gannim, ac Enhada, a Beth‐passes. 22 A’r terfyn sydd yn cyrhaeddyd i Tabor, a Sahasima, a Beth‐semes; a’u cyrrau eithaf hwynt yw yr Iorddonen: un ddinas ar bymtheg, a’u pentrefydd. 23 Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Issachar, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd, a’u pentrefydd.
24 A’r pumed coelbren a ddaeth allan dros lwyth meibion Aser, yn ôl eu teuluoedd. 25 A’u terfyn hwynt oedd, Helcath, a Hali, a Beten, ac Achsaff, 26 Ac Alammelech, ac Amad, a Misal; ac yn cyrhaeddyd i Carmel tua’r gorllewin, ac i Sihor‐Libnath: 27 Ac yn troi tua chyfodiad haul i Beth‐dagon, ac yn cyrhaeddyd i Sabulon, ac i ddyffryn Jifftahel, tua’r gogledd i Beth‐Emec, ac i Neiel, ac yn myned ar y llaw aswy i Cabul; 28 A Hebron, a Rehob, a Hammon, a Cana, hyd Sidon fawr. 29 A’r terfyn sydd yn troi i Rama, ac hyd Sor, y ddinas gadarn: a’r terfyn sydd yn troi i Hosa; a’i gyrrau eithaf sydd wrth y môr, o randir Achsib. 30 Umma hefyd, ac Affec, a Rehob: dwy ddinas ar hugain, a’u pentrefydd. 31 Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Aser, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd hyn a’u pentrefydd.
32 Y chweched coelbren a ddaeth allan i feibion Nafftali, dros feibion Nafftali, yn ôl eu teuluoedd. 33 A’u terfyn hwy oedd o Heleff, o Alon i Saanannim, ac Adami, Neceb, a Jabneel hyd Lacum: a’i gyrrau eithaf oedd wrth yr Iorddonen. 34 A’r terfyn sydd yn troi tua’r gorllewin i Asnoth‐Tabor, ac yn myned oddi yno i Huccoc; ac yn cyrhaeddyd i Sabulon o du y deau, ac yn cyrhaeddyd i Aser o du y gorllewin, ac i Jwda a’r Iorddonen tua chyfodiad haul. 35 A’r dinasoedd caerog, Sidim, Ser, a Hammath, Raccath, a Chinnereth, 36 Ac Adama, a Rama, a Hasor, 37 A Cedes, ac Edrei, ac En‐hasor, 38 Ac Iron, a Migdal‐el, Horem, a Beth‐anath, a Beth‐semes: pedair dinas ar bymtheg, a’u pentrefydd. 39 Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Nafftali, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd, a’u pentrefydd.
40 Y seithfed coelbren a ddaeth allan dros lwyth meibion Dan, yn ôl eu teuluoedd. 41 A therfyn eu hetifeddiaeth hwynt oedd Sora, ac Estaol, ac Ir‐Semes, 42 A Saalabbin, ac Ajalon, ac Ithla, 43 Ac Elon, a Thimnatha, ac Ecron, 44 Ac Eltece, a Gibbethon, a Baalath, 45 A Jehud, a Bene‐berac, a Gath‐rimmon, 46 A Meiarcon, a Raccon, gyda’r terfyn ar gyfer Jaffo. 47 A therfyn meibion Dan a aeth yn rhy fychan iddynt: am hynny meibion Dan a aethant i fyny i ymladd yn erbyn Lesem, ac a’i henillasant hi; trawsant hefyd hi â min y cleddyf, a meddianasant hi, a thrigasant ynddi: a galwasant Lesem yn Dan, yn ôl enw Dan eu tad. 48 Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Dan, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd hyn, a’u pentrefydd.
49 Pan orffenasant rannu’r wlad yn etifeddiaethau yn ôl ei therfynau, meibion Israel a roddasant etifeddiaeth i Josua mab Nun yn eu mysg: 50 Wrth orchymyn yr Arglwydd y rhoddasant iddo ef y ddinas a ofynnodd efe; sef Timnath‐Sera, ym mynydd Effraim: ac efe a adeiladodd y ddinas, ac a drigodd ynddi. 51 Dyma yr etifeddiaethau a roddodd Eleasar yr offeiriad, a Josua mab Nun, a phennau tadau llwythau meibion Israel, yn etifeddiaeth, wrth goelbren, yn Seilo, o flaen yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod. Felly y gorffenasant rannu’r wlad.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.