Salmau 95
Beibl William Morgan
95 Deuwch, canwn i’r Arglwydd: ymlawenhawn yn nerth ein hiechyd. 2 Deuwn ger ei fron ef â diolch: canwn yn llafar iddo â salmau. 3 Canys yr Arglwydd sydd Dduw mawr, a Brenin mawr goruwch yr holl dduwiau. 4 Yr hwn y mae gorddyfnderau y ddaear yn ei law, ac uchelderau y mynyddoedd yn eiddo. 5 Y môr sydd eiddo, ac efe a’i gwnaeth: a’i ddwylo a luniasant y sychdir. 6 Deuwch, addolwn, ac ymgrymwn: gostyngwn ar ein gliniau gerbron yr Arglwydd ein Gwneuthurwr. 7 Canys efe yw ein Duw ni; a ninnau ŷm bobl ei borfa, a defaid ei law. Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd, 8 Na chaledwch eich calonnau, megis yn yr ymrysonfa, fel yn nydd profedigaeth yn yr anialwch: 9 Pan demtiodd eich tadau fi, y profasant fi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd. 10 Deugain mlynedd yr ymrysonais â’r genhedlaeth hon, a dywedais, Pobl gyfeiliornus yn eu calon ydynt hwy, ac nid adnabuant fy ffyrdd: 11 Wrth y rhai y tyngais yn fy llid, na ddelent i’m gorffwysfa.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.