Add parallel Print Page Options

Dwg ar gof iddynt fod yn ddarostyngedig i’r tywysogaethau a’r awdurdodau, fod yn ufudd, fod yn barod i bob gweithred dda, Bod heb gablu neb, yn anymladdgar, yn dirion, gan ddangos pob addfwynder tuag at bob dyn. Canys yr oeddem ninnau hefyd gynt yn annoethion, yn anufudd, yn cyfeiliorni, yn gwasanaethu chwantau ac amryw felyswedd, gan fyw mewn drygioni a chenfigen, yn ddigasog, yn casáu ein gilydd. Eithr pan ymddangosodd daioni a chariad Duw ein Hachubwr tuag at ddyn, Nid o weithredoedd cyfiawnder y rhai a wnaethom ni, eithr yn ôl ei drugaredd yr achubodd efe nyni, trwy olchiad yr adenedigaeth, ac adnewyddiad yr Ysbryd Glân; Yr hwn a dywalltodd efe arnom ni yn helaeth, trwy Iesu Grist ein Hiachawdwr: Fel, gwedi ein cyfiawnhau trwy ei ras ef, y’n gwneid yn etifeddion yn ôl gobaith bywyd tragwyddol. Gwir yw’r gair, ac am y pethau hyn yr ewyllysiwn i ti fod yn daer, fel y byddo i’r sawl a gredasant i Dduw ofalu ar flaenori mewn gweithredoedd da. Y pethau hyn sydd dda a buddiol i ddynion. Eithr gochel gwestiynau ffôl, ac achau, a chynhennau, ac ymrysonau ynghylch y ddeddf: canys anfuddiol ydynt ac ofer. 10 Gochel y dyn a fyddo heretic, wedi un ac ail rybudd: 11 Gan wybod fod y cyfryw un wedi ei ŵyrdroi, ac yn pechu, gan fod yn ei ddamnio ei hunan. 12 Pan ddanfonwyf Artemas atat, neu Tychicus, bydd ddyfal i ddyfod ataf i Nicopolis: canys yno yr arfaethais aeafu. 13 Hebrwng Senas y cyfreithiwr, ac Apolos yn ddiwyd; fel na byddo arnynt eisiau dim. 14 A dysged yr eiddom ninnau flaenori mewn gweithredoedd da i angenrheidiau, fel na byddont yn ddiffrwyth. 15 Y mae’r holl rai sydd gyda mi yn dy annerch. Annerch y rhai sydd yn ein caru ni yn y ffydd. Gras fyddo gyda chwi oll. Amen.

At Titus, yr esgob cyntaf a ddewiswyd ar eglwys y Cretiaid, yr ysgrifennwyd o Nicopolis ym Macedonia.